Sut i wneud didyniadau

Rhaid i chi ddidynnu swm y gynhaliaeth plant a nodir ar y gorchymyn didynnu o enillion (DEO) o enillion net neu bensiwn eich gweithiwr.

Yn ôl y gyfraith rhaid i chi anfon taliadau i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Byddant yn anfon yr arian at y rhiant arall i helpu i dalu costau byw eu plentyn.

Sut mae’n gweithio

  1. Gwiriwch beth sy’n cyfrif fel enillion.

  2. Cyfrifwch 60% o enillion net eich gweithiwr (a elwir yn eu ‘enillion gwarchodedig�).

  3. Gwnewch y didyniad o enillion net eich gweithiwr - cyn belled â’i fod yn gadael iddynt gyda’u henillion gwarchodedig.

  4. Tynnwch £1 ychwanegol tuag at eich costau gweinyddol (os ydych chi eisiau).

  5. Anfonwch y didyniad at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os na allwch ddidynnu’r swm llawn o’u henillion gwarchodedig, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Sut i gyfrifo enillion gwarchodedig

Rhaid i chi sicrhau bod eich didyniad yn gadael eich gweithiwr gydag o leiaf 60% o’i enillion net (a elwir yn ‘enillion gwarchodedig�).

Gallwch barhau i ddidynnu’r gost weinyddol o £1 os yw’n mynd ag incwm eich gweithiwr islaw ei gyfradd enillion gwarchodedig - ond nid os yw’n mynd ag incwm islaw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Os gallwch ddidynnu’r swm llawn o enillion gwarchodedig eich gweithiwr

Didynnwch y swm llawn o enillion eich gweithiwr os nad yw’n effeithio ar ei enillion gwarchodedig. Anfonwch ef at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud y didyniad.

Enghraifft

Mae’r swm sy’n ddyledus gan eich gweithiwr mewn cynhaliaeth plant yn £150 y mis.

Enillion net eich gweithiwr yw £1,200 y mis.

Mae eu henillion gwarchodedig yn £720 y mis.

Enillion net o £1,200 llai’r enillion gwarchodedig o £720 = £480

Yn yr achos hwn, mae gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £150.

Os na allwch ddidynnu’r swm llawn o enillion gwarchodedig eich gweithiwr

Os na allwch ddidynnu’r swm llawn, rhaid i chi:

  • anfon unrhyw ddidyniad rydych wedi gallu ei wneud i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
  • cadw cofnod o’r gwahaniaeth heb ei dalu
  • anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Rhaid i chi gyfrifo’r gwahaniaeth heb ei dalu, ynghyd â’r swm rheolaidd sy’n ddyledus gan eich gweithiwr mewn cynhaliaeth plant y tro nesaf y byddwch yn ei dalu. Rhaid i chi adael enillion gwarchodedig eich gweithiwr o hyd.

Enghraifft

Mae’r swm sy’n ddyledus mewn cynhaliaeth plant gan eich gweithiwr yn £250 y mis.

Enillion net eich gweithiwr yw £500 y mis.

Eu henillion gwarchodedig yw £300 y mis.

Enillion net o £500 llai’r enillion gwarchodedig o £300 = £200.

Yn yr achos hwn, nid oes gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £250.

Rhaid i chi anfon £200 i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Mae’r gwahaniaeth heb ei dalu o £50 yn cael ei gario ymlaen i’r tro nesaf y byddwch yn talu eich gweithiwr.

Os yw’r gwahaniaeth heb ei dalu yn cael ei gario ymlaen am sawl wythnos cyn cael ei ad-dalu, cadwch gofnod o’r swm parhaus.

Os ydych chi’n talu tâl gwyliau eich gweithiwr ymlaen llaw

Bydd yn rhaid i chi:

  • cyfrifo cyfanswm enillion net eich gweithiwr ar gyfer y cyfnod talu
  • lluosi’r enillion gwarchodedig a’r didyniad â nifer yr wythnosau yn y cyfnod talu
  • anfon y didyniad i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Enghraifft

Mae’r enillion yn cynnwys 1 wythnos o gyflog ynghyd â 2 wythnos o gyflog gwyliau a delir ymlaen llaw.

Mae gan eich gweithiwr enillion net o £160 yr wythnos.

Y swm sy’n ddyledus mewn cynhaliaeth plant gan eich gweithiwr yw £32 yr wythnos a’r enillion gwarchodedig yw £96 yr wythnos.

Enillion net eich gweithiwr yw £160 x 3 = £480 (1 wythnos o gyflog + 2 wythnos o gyflog gwyliau).

Enillion net o £480 minws yr enillion gwarchodedig o £96 x 3 (£288) = £192

Yn yr achos hwn, mae gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £96 (£32 x 3).

Os oes angen i chi ddidynnu dyledion eraill o gyflog eich gweithiwr

Os oes gan eich gweithiwr ddyled arall i’w thalu, er enghraifft dyled treth gyngor, gall llys gyhoeddi:

Mae sut rydych chi’n blaenoriaethu didyniad yn dibynnu ar ba wlad y cyhoeddwyd y gorchymyn ynddi.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Gorchymyn Atafaelu Enillion yn cael blaenoriaeth oni bai eich bod wedi derbyn Gorchymyn Atafaelu Enillion blaenoriaeth (AEO) ar gyfer eich cyflogai.

Yn yr Alban, mae DEO yn cael blaenoriaeth dros ddidyniadau eraill.