Beth sy'n cyfrif fel enillion

Dim ond o enillion net gweithiwr y gellir gwneud gorchymyn didyniad o enillion (DEO).Ìý

Wrth gyfrifo swm DEO, mae enillion net yn golygu enillion ar ôl didynnu:Ìý

  • Treth IncwmÌý
  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 1Ìý
  • cyfraniadau pensiwn neu bensiwnÌý

Gallwch wneud didyniad o’r enillion canlynol:Ìý

  • cyflogau, ffioedd, bonws, comisiwn, tâl goramser neu unrhyw daliadau ar ben cyflogauÌý
  • pensiynau preifat neu alwedigaethol a thaliadau iawndalÌý
  • Tâl Salwch StatudolÌý
  • tâl salwch cytundebolÌý
  • tâl mamolaeth cytundebolÌý
  • tâl tadolaeth cytundebolÌý
  • tâl mabwysiadu cytundebolÌý
  • tâl diswyddo cytundebolÌý

Tâl statudol yw arian y mae gan eich gweithwyr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Tâl cytundebol yw’r hyn rydych chi’n cytuno arno gyda’ch gweithwyr yn ogystal â thâl statudol.Ìý

Beth nad yw’n cyfrif fel enillionÌý

Ni allwch wneud didyniad o unrhyw un o’r canlynol:Ìý

Os mai unrhyw un o’r taliadau hyn yw unig incwm eich gweithiwr, peidiwch â gwneud didyniad. Dylech ddiweddaru eich amserlen dalu.Ìý