Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr

Sgipio cynnwys

Gwneud taliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO)

Anfonwch daliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO) i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud didyniad.

Os na allwch wneud y didyniad llawn, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant drwy’r post neu ar-lein.Ìý

Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda DEO, anfonwch bob taliad ar wahân.Ìý

Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd i chi amdani.%Ìý

Talu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý

Gallwch dalu drwy:Ìý

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý
  • ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
  • defnyddio System Glirio Awtomataidd y Banciau (Bacs), Taliadau Cyflymach neu drosglwyddiad CHAPSÌý
  • anfon siec i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý

Talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý

Gallwch . Mae angen i chi gysylltu â Thîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gofrestru.Ìý

Talu dros y ffônÌý

Ffoniwch Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.Ìý

$CÌý Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\Ìý Ffôn: 0800 232 1961Ìý Ffôn testun: 18001 0800 171 2345Ìý Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pmÌý Dysgwch am gostau galwadauÌý $CÌý

Talu drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPSÌý

Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc naill ai drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPS.Ìý

Dylech ddefnyddio:Ìý

  • cod didoli: 60 70 80Ìý
  • rhif cyfrif: 10026584Ìý
  • enw cyfrif: DWPCMGEMPLOYERÌý
  • cod cyfrif: 0Ìý
  • cod trafodiad: 99Ìý

Bydd angen i chi roi rhif Yswiriant Gwladol y gweithiwr fel y cyfeirnod.Ìý

Talu drwy siecÌý

Anfonwch siec yn daladwy i ‘Child Maintenance Serviceâ€�.Ìý

$AÌý Child Maintenance Service 21ÌýÌý Mail Handling Site AÌýÌý WolverhamptonÌýÌý WV98 2BUÌýÌý $AÌý

Rhaid i’r siec:Ìý

  • gyd-fynd â’r swm ar yr amserlen daluÌý
  • cynnwys rhif cyfeirnod eich cyflogwr ar y cefn - mae hwn yn rhif 12 digid sy’n dechrau gyda 5Ìý
  • cynnwys rhif Yswiriant Gwladol eich gweithiwr ar y cefnÌý

Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda Gorchymyn Diddymu Enillion, anfonwch gopi o’ch amserlen dalu gyda’r siec.Ìý

Os oes angen help arnoch gyda thaliadÌý

Gallwch naill ai:Ìý

  • Ìý
  • ffonio Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý

$CÌý Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\Ìý Ffôn: 0800 232 1961Ìý Ffôn testun: 18001 0800 171 2345Ìý Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pmÌý [Dysgwch am gostau galwadau](/ ](/call-charges)Ìý $CÌý

Dywedwch wrth eich gweithiwrÌý

Rhaid i chi ddweud wrth eich gweithiwr yn ysgrifenedig am bob didyniad pan fyddwch chi’n rhoi eu slip cyflog iddyn nhw. Cynhwyswch a ydych chi wedi cymryd costau gweinyddol o £1.Ìý