Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr
Printable version
1. Trosolwg
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ofyn i chi:
- rhoi gwybodaeth am weithiwr
- didynnu cynhaliaeth plant o enillion gweithiwr
- anfon taliadau cynhaliaeth plant gweithiwr i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd amdani.
Gorchymyn didynnu o enillion (DEO)
Mae DEOs yn ffordd o gasglu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o enillion neu bensiwn rhiant sy’n talu.
Y rhiant sy’n talu yw’r rhiant nad oes ganddynt brif ofal dyddiol am y plentyn.
Pryd y byddwch yn cael DEO
Anfonir DEO atoch os yw’ch gweithiwr yn rhiant sy’n talu sydd:
- yn dewis talu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o’u henillion
- ddim yn talu cynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt
- ddim yn talu’r swm cywir
- ddim yn talu ar amser
Eich rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ddidynnu cynhaliaeth plant
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi:
- rhoi gwybodaeth i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os gofynnir i chi wneud hynny
- anfon taliadau cyn gynted â phosibl, i gyrraedd dim hwyrach na’r 19eg diwrnod o’r mis ar ôl y mis y gwnaethoch y didyniad
- dweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar unwaith os oes unrhyw broblemau gyda chymryd taliadau o enillion rhiant sy’n talu
- gwneud didyniadau rheolaidd
Gallech gael eich dwyn i’r llys os na fyddwch yn anfon taliadau ac nad ydych yn egluro pam
2. Sut i wneud didyniadau
Rhaid i chi ddidynnu swm y gynhaliaeth plant a nodir ar y gorchymyn didynnu o enillion (DEO) o enillion net neu bensiwn eich gweithiwr.
Yn ôl y gyfraith rhaid i chi anfon taliadau i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Byddant yn anfon yr arian at y rhiant arall i helpu i dalu costau byw eu plentyn.
Sut mae’n gweithio
-
Gwiriwch beth sy’n cyfrif fel enillion.
-
Cyfrifwch 60% o enillion net eich gweithiwr (a elwir yn eu ‘enillion gwarchodedig�).
-
Gwnewch y didyniad o enillion net eich gweithiwr - cyn belled â’i fod yn gadael iddynt gyda’u henillion gwarchodedig.
-
Tynnwch £1 ychwanegol tuag at eich costau gweinyddol (os ydych chi eisiau).
-
Anfonwch y didyniad at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Os na allwch ddidynnu’r swm llawn o’u henillion gwarchodedig, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Sut i gyfrifo enillion gwarchodedig
Rhaid i chi sicrhau bod eich didyniad yn gadael eich gweithiwr gydag o leiaf 60% o’i enillion net (a elwir yn ‘enillion gwarchodedig�).
Gallwch barhau i ddidynnu’r gost weinyddol o £1 os yw’n mynd ag incwm eich gweithiwr islaw ei gyfradd enillion gwarchodedig - ond nid os yw’n mynd ag incwm islaw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os gallwch ddidynnu’r swm llawn o enillion gwarchodedig eich gweithiwr
Didynnwch y swm llawn o enillion eich gweithiwr os nad yw’n effeithio ar ei enillion gwarchodedig. Anfonwch ef at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud y didyniad.
Enghraifft
Mae’r swm sy’n ddyledus gan eich gweithiwr mewn cynhaliaeth plant yn £150 y mis.
Enillion net eich gweithiwr yw £1,200 y mis.
Mae eu henillion gwarchodedig yn £720 y mis.
Enillion net o £1,200 llai’r enillion gwarchodedig o £720 = £480
Yn yr achos hwn, mae gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £150.
Os na allwch ddidynnu’r swm llawn o enillion gwarchodedig eich gweithiwr
Os na allwch ddidynnu’r swm llawn, rhaid i chi:
- anfon unrhyw ddidyniad rydych wedi gallu ei wneud i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- cadw cofnod o’r gwahaniaeth heb ei dalu
- anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhaid i chi gyfrifo’r gwahaniaeth heb ei dalu, ynghyd â’r swm rheolaidd sy’n ddyledus gan eich gweithiwr mewn cynhaliaeth plant y tro nesaf y byddwch yn ei dalu. Rhaid i chi adael enillion gwarchodedig eich gweithiwr o hyd.
Enghraifft
Mae’r swm sy’n ddyledus mewn cynhaliaeth plant gan eich gweithiwr yn £250 y mis.
Enillion net eich gweithiwr yw £500 y mis.
Eu henillion gwarchodedig yw £300 y mis.
Enillion net o £500 llai’r enillion gwarchodedig o £300 = £200.
Yn yr achos hwn, nid oes gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £250.
Rhaid i chi anfon £200 i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Mae’r gwahaniaeth heb ei dalu o £50 yn cael ei gario ymlaen i’r tro nesaf y byddwch yn talu eich gweithiwr.
Os yw’r gwahaniaeth heb ei dalu yn cael ei gario ymlaen am sawl wythnos cyn cael ei ad-dalu, cadwch gofnod o’r swm parhaus.
Os ydych chi’n talu tâl gwyliau eich gweithiwr ymlaen llaw
Bydd yn rhaid i chi:
- cyfrifo cyfanswm enillion net eich gweithiwr ar gyfer y cyfnod talu
- lluosi’r enillion gwarchodedig a’r didyniad â nifer yr wythnosau yn y cyfnod talu
- anfon y didyniad i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Enghraifft
Mae’r enillion yn cynnwys 1 wythnos o gyflog ynghyd â 2 wythnos o gyflog gwyliau a delir ymlaen llaw.
Mae gan eich gweithiwr enillion net o £160 yr wythnos.
Y swm sy’n ddyledus mewn cynhaliaeth plant gan eich gweithiwr yw £32 yr wythnos a’r enillion gwarchodedig yw £96 yr wythnos.
Enillion net eich gweithiwr yw £160 x 3 = £480 (1 wythnos o gyflog + 2 wythnos o gyflog gwyliau).
Enillion net o £480 minws yr enillion gwarchodedig o £96 x 3 (£288) = £192
Yn yr achos hwn, mae gan y gweithiwr ddigon ar ôl i chi ddidynnu’r swm llawn o £96 (£32 x 3).
Os oes angen i chi ddidynnu dyledion eraill o gyflog eich gweithiwr
Os oes gan eich gweithiwr ddyled arall i’w thalu, er enghraifft dyled treth gyngor, gall llys gyhoeddi:
- Gorchymyn Atafaelu Enillion (Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon)
- Gorchymyn Atafaelu Enillion (Yr Alban)
Mae sut rydych chi’n blaenoriaethu didyniad yn dibynnu ar ba wlad y cyhoeddwyd y gorchymyn ynddi.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Gorchymyn Atafaelu Enillion yn cael blaenoriaeth oni bai eich bod wedi derbyn Gorchymyn Atafaelu Enillion blaenoriaeth (AEO) ar gyfer eich cyflogai.
Yn yr Alban, mae DEO yn cael blaenoriaeth dros ddidyniadau eraill.
3. Beth sy'n cyfrif fel enillion
Dim ond o enillion net gweithiwr y gellir gwneud gorchymyn didyniad o enillion (DEO).Ìý
Wrth gyfrifo swm DEO, mae enillion net yn golygu enillion ar ôl didynnu:Ìý
- Treth IncwmÌý
- Yswiriant Gwladol Dosbarth 1Ìý
- cyfraniadau pensiwn neu bensiwnÌý
Gallwch wneud didyniad o’r enillion canlynol:Ìý
- cyflogau, ffioedd, bonws, comisiwn, tâl goramser neu unrhyw daliadau ar ben cyflogauÌý
- pensiynau preifat neu alwedigaethol a thaliadau iawndalÌý
- Tâl Salwch StatudolÌý
- tâl salwch cytundebolÌý
- tâl mamolaeth cytundebolÌý
- tâl tadolaeth cytundebolÌý
- tâl mabwysiadu cytundebolÌý
- tâl diswyddo cytundebolÌý
Tâl statudol yw arian y mae gan eich gweithwyr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Tâl cytundebol yw’r hyn rydych chi’n cytuno arno gyda’ch gweithwyr yn ogystal â thâl statudol.Ìý
Beth nad yw’n cyfrif fel enillionÌý
Ni allwch wneud didyniad o unrhyw un o’r canlynol:Ìý
-
symiau a delir gan adran gyhoeddus o lywodraeth Gogledd Iwerddon neu unrhyw wlad y tu allan i’r DUÌý
- unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal nawdd cymdeithasolÌý
- credydau trethÌý
- unrhyw bensiwn neu lwfans a delir am anableddÌý
- pensiwn lleiaf gwarantedig o fewn Deddf Pensiynau Nawdd Cymdeithasol 1975Ìý
- Tâl Mamolaeth StatudolÌý
- Tâl Tadolaeth StatudolÌý
- Tâl Mabwysiadu StatudolÌý
- Tâl Diswyddo StatudolÌý
Os mai unrhyw un o’r taliadau hyn yw unig incwm eich gweithiwr, peidiwch â gwneud didyniad. Dylech ddiweddaru eich amserlen dalu.Ìý
4. Gwneud taliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO)
Anfonwch daliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO) i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud didyniad.
Os na allwch wneud y didyniad llawn, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant drwy’r post neu ar-lein.Ìý
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda DEO, anfonwch bob taliad ar wahân.Ìý
Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd i chi amdani.%Ìý
Talu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Gallwch dalu drwy:Ìý
- defnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý
- ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
- defnyddio System Glirio Awtomataidd y Banciau (Bacs), Taliadau Cyflymach neu drosglwyddiad CHAPSÌý
- anfon siec i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-leinÌý
Gallwch . Mae angen i chi gysylltu â Thîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gofrestru.Ìý
Talu dros y ffônÌý
Ffoniwch Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.Ìý
$CÌý Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\Ìý Ffôn: 0800 232 1961Ìý Ffôn testun: 18001 0800 171 2345Ìý Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pmÌý Dysgwch am gostau galwadauÌý $CÌý
Talu drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPSÌý
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc naill ai drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPS.Ìý
Dylech ddefnyddio:Ìý
- cod didoli: 60 70 80Ìý
- rhif cyfrif: 10026584Ìý
- enw cyfrif: DWPCMGEMPLOYERÌý
- cod cyfrif: 0Ìý
- cod trafodiad: 99Ìý
Bydd angen i chi roi rhif Yswiriant Gwladol y gweithiwr fel y cyfeirnod.Ìý
Talu drwy siecÌý
Anfonwch siec yn daladwy i ‘Child Maintenance Serviceâ€�.Ìý
$AÌý Child Maintenance Service 21ÌýÌý Mail Handling Site AÌýÌý WolverhamptonÌýÌý WV98 2BUÌýÌý $AÌý
Rhaid i’r siec:Ìý
- gyd-fynd â’r swm ar yr amserlen daluÌý
- cynnwys rhif cyfeirnod eich cyflogwr ar y cefn - mae hwn yn rhif 12 digid sy’n dechrau gyda 5Ìý
- cynnwys rhif Yswiriant Gwladol eich gweithiwr ar y cefnÌý
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda Gorchymyn Diddymu Enillion, anfonwch gopi o’ch amserlen dalu gyda’r siec.Ìý
Os oes angen help arnoch gyda thaliadÌý
Gallwch naill ai:Ìý
- Ìý
- ffonio Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
$CÌý Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\Ìý Ffôn: 0800 232 1961Ìý Ffôn testun: 18001 0800 171 2345Ìý Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pmÌý [Dysgwch am gostau galwadau](/ ](/call-charges)Ìý $CÌý
Dywedwch wrth eich gweithiwrÌý
Rhaid i chi ddweud wrth eich gweithiwr yn ysgrifenedig am bob didyniad pan fyddwch chi’n rhoi eu slip cyflog iddyn nhw. Cynhwyswch a ydych chi wedi cymryd costau gweinyddol o £1.Ìý
5. Diweddaru eich amserlen dalu
Byddwch yn cael amserlen dalu fisol drwy’r post ar ôl i chi gael gorchymyn didynnu o enillion (DEO).Ìý
Bydd yn dweud wrthych chi am eich holl weithwyr sydd â Gorchymyn Didynnu o Enillion a’r swm sy’n ddyledus ar gyfer pob gweithiwr.Ìý
Rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os na allwch anfon y swm didyniad llawn.Ìý
Rhaid i chi gynnwys faint rydych chi wedi’i ddidynnu a pham nad ydych chi wedi gallu didynnu’r swm llawn.Ìý
Sut i anfon amserlen dalu wedi’i diweddaruÌý
Gallwch .Ìý
Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen a gawsoch yn y post a’i hanfon neu ei hanfon drwy e-bost at Dîm Taliadau Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.Ìý
$CÌý Tîm Taliadau Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\Ìý [email protected]Ìý $CÌý
Ìý
Child Maintenance Service Employer Payment TeamÌý
Child Maintenance Service 21Ìý
Mail Handling Site AÌý
WolverhamptonÌý
WV98 2BUÌý
6. Pryd mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhaid i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn 10 diwrnod os:Ìý
- gofynnir i chi sefydlu gorchymyn didynnu o enillion (DEO) ar gyfer rhywun nad yw’n gweithio i chiÌý
- mae problem wrth sefydlu DEO gweithiwrÌý
- mae eich gweithiwr yn gadael eich cyflogaethÌý
- mae eich busnes yn rhoi’r gorau i fasnachuÌý
Sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Gallwch naill ai:Ìý
- Ìý
- ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth PlantÌý
Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
[email protected]
Ffôn: 0800 232 1961
Ffôn testun: 18001 0800 171 2345Ìý
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pmÌý
Llinell Gymorth Gymraeg: 0800 232 1979Ìý
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4pmÌý
Dysgwch fwy am gostau galwadauÌý