Trosolwg

Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ofyn i chi:

  • rhoi gwybodaeth am weithiwr
  • didynnu cynhaliaeth plant o enillion gweithiwr
  • anfon taliadau cynhaliaeth plant gweithiwr i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd amdani.

Gorchymyn didynnu o enillion (DEO)

Mae DEOs yn ffordd o gasglu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o enillion neu bensiwn rhiant sy’n talu.

Y rhiant sy’n talu yw’r rhiant nad oes ganddynt brif ofal dyddiol am y plentyn.

Pryd y byddwch yn cael DEO

Anfonir DEO atoch os yw’ch gweithiwr yn rhiant sy’n talu sydd:

  • yn dewis talu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o’u henillion
  • ddim yn talu cynhaliaeth plant sy’n ddyledus ganddynt
  • ddim yn talu’r swm cywir
  • ddim yn talu ar amser

Eich rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ddidynnu cynhaliaeth plant

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi:

  • rhoi gwybodaeth i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os gofynnir i chi wneud hynny
  • anfon taliadau cyn gynted â phosibl, i gyrraedd dim hwyrach na’r 19eg diwrnod o’r mis ar ôl y mis y gwnaethoch y didyniad
  • dweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar unwaith os oes unrhyw broblemau gyda chymryd taliadau o enillion rhiant sy’n talu
  • gwneud didyniadau rheolaidd

Gallech gael eich dwyn i’r llys os na fyddwch yn anfon taliadau ac nad ydych yn egluro pam