Sefydlu cwmni cyfyngedig preifat

Printable version

1. Cwmnïau cyfyngedig

Mae cwmni cyfyngedig wedi ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth y bobl sy’n berchen arno.

Mae cyfarwyddwr cwmni (yn agor tudalen Saesneg) yn gyfrifol am redeg y busnes.

Mae ffyrdd eraill o sefydlu busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfrifoldebau cwmni cyfyngedig preifat

Bydd gennych rai cyfrifoldebau cyfreithiol, cyfrifoldebau ariannol a chyfrifoldebau eraill wrth redeg cwmni cyfyngedig.

Risgiau cyfreithiol neu ‘rhwymedigaeth�

Mae gan gwmni cyfyngedig ‘rhwymedigaeth gyfyngedig�, sy’n golygu bod perchnogion dim ond yn gyfrifol am ddyledion busnes hyd at werth eu buddsoddiad ariannol. Gall hyn eich diogelu os bydd pethau’n mynd o’i le.

Cyllid

Mae rheolau i’w dilyn wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Gall cwmnïau cyfyngedig wneud cais am fuddsoddiadau a benthyciadau busnes.

Enwi’ch busnes

Mae rheolau i’w dilyn wrth ddewis enw ar gyfer eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Cadw cofnodion a chyfrifon

Mae gan gyfarwyddwyr gyfrifoldebau y mae’n rhaid eu dilyn (yn agor tudalen Saesneg) wrth redeg cwmni, gan gynnwys:

Gall cyfarwyddwyr gyflogi pobl eraill i helpu (er enghraifft, cyfrifydd), ond y cyfarwyddwyr sy’n dal i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am y cofnodion cyfrifyddu, cofnodion y cwmni a pherfformiad y cwmni.

Cofrestru cwmni cyfyngedig

Bydd angen i chi gofrestru’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ddechrau masnachu.

Does dim angen i chi ddechrau masnachu’n syth � gallwch adael eich cwmni’n segur (yn agor tudalen Saesneg).

Trethi

Bydd angen i’r cwmni dalu trethi ar ei elw. Efallai y bydd angen i’r bobl sy’n tynnu arian o’r cwmni dalu treth ar yr incwm.

Bydd angen i’r cwmni cyfyngedig wneud y canlynol:

Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW cyn eich bod yn bodloni’r gofynion os ydych eisiau adennill TAW ar dreuliau busnes.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu treth wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Dysgwch am ryddhadau treth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn lleihau eich bil treth.

Rheolau ar gyfer eich math chi o fusnes

Yn dibynnu ar yr hyn y mae’ch busnes yn ei wneud, efallai y bydd gennych gyfrifoldebau eraill.

Gwiriwch a oes angen y canlynol arnoch:

  • trwyddedau, er enghraifft i allu chwarae cerddoriaeth, gwerthu bwyd neu fasnachu ar y stryd

Mae rheolau i’w dilyn hefyd os ydych yn gwneud y canlynol:

Y lle yr ydych yn gweithio

Gwiriwch beth yw eich cyfrifoldebau os ydych yn gwneud y canlynol:

Os ydych yn rhentu neu’n prynu eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes. Gall busnesau bach wneud cais am ostyngiad ar ardrethi busnes, a bydd rhai sydd ddim yn gorfod talu.

Gwiriwch a allwch hawlio swyddfa, eiddo ac offer fel treuliau.

Cyflogi pobl i helpu

Mae pethau y bydd angen i chi eu gwneud os ydych yn cyflogi eich cyflogeion eich hun. Bydd gennych fwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys y canlynol:

Os byddwch yn cyflogi gweithwyr asiantaeth (yn agor tudalen Saesneg) neu weithwyr llawrydd (yn agor tudalen Saesneg), mae gennych gyfrifoldebau fel eu hiechyd a’u diogelwch.

Help a chymorth

Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).

2. Dewis enw ar gyfer eich cwmni

Mae’n rhaid i chi ddewis enw ar gyfer eich busnes os ydych yn sefydlu cwmni cyfyngedig preifat.

Mae rheolau gwahanol ar waith ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Ni all enw eich cwmni chi fod yr un peth ag enw cwmni cofrestredig arall. Os yw enw’ch cwmni yn rhy debyg i enw cwmni arall neu nod masnach (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno.

Fel arfer, bydd yn rhaid i enw’ch cwmni orffen gyda naill ai ‘Limited� neu ‘Ltd�. Gallwch gynnwys y geiriau Cymraeg cyfatebol ‘Cyfyngedig� a ‘Cyf� os ydych chi wedi cofrestru’r cwmni yng Nghymru.

.

Enwau ‘tebyg�

Bydd enw eich cwmni yn cael ei ystyried yn enw ‘tebyg� os yw’r enw yr un peth ag enw cwmni arall, ond bod un o’r canlynol yn wahanol:

  • atalnodi penodol

  • cymeriadau arbennig, er enghraifft yr arwydd ‘plwsâ€�

  • gair neu gymeriad sy’n debyg o ran edrychiad neu ystyr i air neu gymeriad o enw’r cwmni arall

  • gair neu gymeriad a ddefnyddir yn gyffredin mewn enwau cwmnïau yn y DU

Enghraifft

Mae ‘Hands UK Ltd� a ‘Hand’s Ltd� yn debyg i ‘Hands Ltd�.

Gallwch dim ond cofrestru enw ‘tebyg� os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich cwmni’n rhan o’r un grŵp â’r cwmni neu’r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) sydd â’r enw dan sylw

  • mae gennych gadarnhad ysgrifenedig nad oes gan y cwmni neu’r PAC unrhyw wrthwynebiad i enw eich cwmni

Enwau ‘rhy debyg�

Efallai y bydd yn rhaid i chi newid enw eich cwmni os bydd rhywun yn cwyno a bod Tŷ’r Cwmnïau yn cytuno ei fod yn enw ‘rhy debyg� i enw a gofrestrwyd cyn eich enw chi.

Enghraifft

Mae ‘Easy Electrics For You Ltd� yn rhy debyg i ‘EZ Electrix 4U Ltd�

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cysylltu â chi os ydyn nhw o’r farn bod enw eich cwmni chi yn rhy debyg i enw cwmni arall � byddant hefyd yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud.

Rheolau eraill

Ni all enw eich cwmni fod yn sarhaus.

Ni all enw eich cwmni gynnwys gair neu ymadrodd ‘sensitif�, na chwaith awgrymu cysylltiad â llywodraeth neu awdurdodau lleol, oni bai eich bod yn cael caniatâd.

Enghraifft

I ddefnyddio ‘achrededig� / ‘accredited� yn enw’ch cwmni, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr Adran Busnes a Masnachu (DBT).

Gallwch ddarllen rhagor o arweiniad ynghylch enwi eich cwmni, a pha eiriau y mae angen caniatâd arnoch i’w defnyddio os nad ydych yn siŵr.

Enw masnachu

Mae busnes yn gallu masnachu gan ddefnyddio enw sy’n wahanol i’w enw cofrestredig. Gelwir hyn yn ‘enw busnes�.

Mae’n rhaid i enwau busnes beidio â chynnwys y canlynol:

  • ‘cyfyngedigâ€� / ‘limitedâ€�, ‘Cyfâ€� / ‘Ltdâ€�, ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedigâ€� / ‘limited liability partnershipâ€�, â€�PACâ€� / ‘LLPâ€�, ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddusâ€� / ‘public limited companyâ€�, na ‘cccâ€� / ‘plcâ€�

  • gair neu ymadrodd ‘sensitifâ€�, oni bai eich bod yn cael caniatâd i wneud hynny

Os yw’ch enw busnes yn rhy debyg i nod masnach cwmni arall (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno.

Dangos eich enw

Mae rheolau i’w dilyn wrth i chi ddangos enw eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd nad oes rhaid i chi ddefnyddio ‘cyfyngedig� yn enw eich cwmni

Does dim rhaid i chi ddefnyddio ‘cyfyngedig� yn enw eich cwmni os yw’ch cwmni’n elusen gofrestredig neu’n gyfyngedig drwy warant, a bod eich erthyglau cymdeithasu (yn agor tudalen Saesneg) yn nodi bod eich cwmni:

  • yn hyrwyddo neu’n rheoleiddio masnach, celf, gwyddoniaeth, addysg, crefydd, elusen neu unrhyw broffesiwn

  • yn methu â thalu ei gyfranddalwyr, er enghraifft drwy ddifidendau

  • yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyfranddaliwr gyfrannu at asedion y cwmni os caiff ei ddirwyn i ben yn ystod ei aelodaeth, neu o fewn blwyddyn iddo roi’r gorau i fod yn gyfranddaliwr

3. Gwiriwch y rheolau ar gyfer cyfeiriad cofrestredig y swyddfa a chyfeiriad e-bost cofrestredig

Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa a’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddwch yn sefydlu cwmni cyfyngedig.

Cyfeiriad cofrestredig y swyddfa

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y cyfeiriad y byddwch yn ei gofrestru:

  • mae’n gyfeiriad daearyddol yn y DU

  • mae wedi’i leoli yn yr un wlad ag y mae eich cwmni wedi’i gofrestru ynddi, er enghraifft, mae’n rhaid i gyfeiriad cofrestredig y swyddfa ar gyfer cwmni sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban fod yn yr Alban

Mae’n rhaid i’r cyfeiriad hefyd fod yn briodol. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar ran eich cwmni, yn cael gwybod am unrhyw bost sy’n cael ei anfon at eich cwmni

  • pan fydd eich cwmni’n cael post yn y cyfeiriad hwn, mae’n bosibl i’r anfonwr gael cadarnhad o hyn

Ni allwch ddefnyddio Blwch Swyddfa’r Post fel cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa mwyach.

Os ydych yn defnyddio cyfeiriad darparwr gwasanaeth (er enghraifft, cyfeiriad cyfrifydd neu gyfeiriad cyfreithiwr) fel cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa, mae’n rhaid i’r cyfeiriad hwn fodloni’r holl ofynion hyn.

Gall eich cwmni gael ei dynnu oddi ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau os nad ydych yn rhoi cyfeiriad cofrestredig swyddfa sy’n bodloni’r holl ofynion hyn.

Cadw’ch cyfeiriad yn breifat

Bydd cyfeiriad cofrestredig swyddfa eich cwmni ar gael yn gyhoeddus ar y gofrestr ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych am i’r cyfeiriad fod ar gael yn gyhoeddus (er enghraifft, os yw’n gyfeiriad cartref), ni ddylech ei ddefnyddio fel cyfeiriad cofrestredig swyddfa eich cwmni. Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio cyfeiriad gwahanol, megis cyfeiriad cyfrifydd neu gyfeiriad cyfreithiwr â€� mae’n rhaid i chi gael caniatâd cyn gwneud hyn

  • penodi asiant (yn agor tudalen Saesneg) a fydd yn rhoi cyfeiriad i chi i’w ddefnyddio

Mae’n rhaid i chi gael y cyfeiriad yn ei le cyn i chi gofrestru eich cwmni.

Cyfeiriad e-bost cofrestredig

Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost a darllen unrhyw e-byst y mae eich cwmni’n eu cael.

Ni fydd y cyfeiriad e-bost a rowch yn cael ei gyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus.

Mae’n bosibl y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gysylltu â chi ynghylch eich cwmni.

4. Penodi cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd cwmni

Mae’n rhaid bod gan eich cwmni o leiaf un cyfarwyddwr. Mae cyfarwyddwyr yn gyfrifol yn gyfreithiol am redeg y cwmni a gwneud yn siŵr bod cyfrifon ac adroddiadau’r cwmni’n cael eu paratoi’n briodol. Mae’n rhaid i gyfarwyddwr fod yn 16 oed neu’n hŷn a pheidio â bod wedi cael ei ddiarddel rhag bod yn gyfarwyddwr.

Nid oes rhaid i gyfarwyddwyr fyw yn y DU, ond mae’n rhaid i gwmnïau fod â chyfeiriad cofrestredig yn y DU ar gyfer y swyddfa.

Mae enwau’r cyfarwyddwyr, a’u gwybodaeth bersonol, ar gael yn gyhoeddus gan Dŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i gyfarwyddwyr roi cyfeiriad cyswllt (neu ‘cyfeiriad gohebu�), a fydd hefyd ar gael i’r cyhoedd. Os byddant yn defnyddio eu cyfeiriad cartref, gallant ofyn i Dŷ’r Cwmnïau ei dynnu oddi ar y gofrestr (yn agor tudalen Saesneg).

Ysgrifenyddion y cwmni

Nid oes angen i gwmni cyfyngedig preifat gyflogi ysgrifennydd y cwmni. Mae rhai cwmnïau’n defnyddio ysgrifenyddion i ysgwyddo rhai o gyfrifoldebau’r cyfarwyddwyr.

Gall ysgrifennydd y cwmni fod yn gyfarwyddwr, ond ni all ysgrifennydd y cwmni fod yn un o’r canlynol:

  • archwilydd y cwmni

  • ‘methdalwr heb ei ryddhauâ€� â€� oni bai ei fod yn cael caniatâd gan y llys

Mae’r cyfyngiadau a osodir ar berson pan gaiff ei wneud yn fethdalwr fel arfer yn dod i ben pan fydd yn rhydd o’i ddyledion (‘wedi’i ryddhau�). Gallwch wirio a yw rhywun wedi cael ei ryddhau (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’r Gofrestr Ansolfedd.

Y cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am y cwmni, hyd yn oed os yw’r cwmni yn cyflogi ysgrifennydd.

5. Cyfranddalwyr a gwarantwyr

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfyngedig yn ‘cyfyngedig drwy gyfranddaliadau�. Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau cyfyngedig hyn yn eiddo i gyfranddalwyr, sydd â hawliau penodol. Er enghraifft, efallai y bydd cyfarwyddwyr am i gyfranddalwyr bleidleisio a chytuno ar newidiadau i’r cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Mae gan gwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant warantwyr a ‘swm gwarantedig� yn hytrach na chyfranddalwyr a chyfranddaliadau.

Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau gyfranddaliadau ‘cyffredin�. Mae hyn yn golygu bod pob cyfarwyddwr yn cael un bleidlais ar benderfyniadau’r cwmni am bob cyfranddaliad sydd ganddo, ac yn cael taliadau difidend.

Cyfrifo’ch cyfranddaliadau

Mae’n rhaid i gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfranddaliadau gael o leiaf un cyfranddaliwr, a all fod yn gyfarwyddwr. Os chi yw’r unig gyfranddaliwr, byddwch yn berchen ar 100% o’r cwmni. Nid oes uchafswm o gyfranddalwyr.

Gall pris cyfranddaliad unigol fod yn unrhyw beth. Bydd angen i’r cyfranddalwyr dalu am eu cyfranddaliadau’n llawn os oes rhaid i’r cwmni gau. Gallwch ddewis gwerth cyfranddaliadau isel (er enghraifft, £1) i gyfyngu rhwymedigaeth y cyfranddalwyr i swm rhesymol.

Dyroddi eich cyfranddaliadau cychwynnol

Pan fyddwch yn cofrestru cwmni, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y cyfranddaliadau (a elwir yn ‘datganiad cyfalaf�). Mae hyn yn cynnwys:

  • nifer y cyfranddaliadau o bob math sydd gan y cwmni, a chyfanswm eu gwerth â€� a elwir yn ‘cyfalaf cyfranddaliadauâ€� y cwmni

  • enwau a chyfeiriadau’r holl gyfranddalwyr â€� a elwir yn ‘tanysgrifwyrâ€� neu ‘aelodauâ€�

Enghraifft

Mae gan gwmni sy’n dyroddi 500 o gyfranddaliadau am £1 yr un gyfalaf cyfranddaliadau o £500.

Nid yw gwerth cyfranddaliadau ynghlwm wrth werth y cwmni.

Manylion rhagnodedig

Bydd angen i chi hefyd gynnwys gwybodaeth am ba hawliau y mae pob math o gyfranddaliad (a elwir yn ‘dosbarth�) yn eu rhoi i’r cyfranddaliwr. Gelwir yr wybodaeth hon yn ‘manylion rhagnodedig�, ac mae’n rhaid i’r canlynol gael ei gynnwys:

  • pa gyfran o’r difidendau y mae’r cyfranddaliwr yn ei chael

  • a all y cyfranddaliwr gyfnewid ei gyfranddaliadau am arian

  • a all y cyfranddaliwr bleidleisio ar faterion penodol y cwmni

  • faint o bleidleisiau mae’r cyfranddaliwr yn eu cael

Cwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant

Mae’n rhaid i chi gael o leiaf un gwarantwr a ‘swm gwarantedig�.

Mae’r gwarantwyr:

  • yn aelodau o’r cwmni

  • yn rheoli’r cwmni ac yn gwneud penderfyniadau pwysig

  • yn aelodau nad ydynt yn cymryd elw o’r cwmni fel arfer â€� yn lle hynny, mae’r arian yn cael ei gadw o fewn y cwmni neu fe’i defnyddir at ddibenion eraill

Swm gwarantedig

Mae gwarantwyr yn cytuno ar swm o arian i’w roi i’r cwmni os na all y cwmni dalu ei ddyledion. Dyma’r ‘swm gwarantedig�.

Mae’n rhaid i’r gwarantwyr dalu’r swm gwarantedig yn llawn i’r cwmni.

Mae’r taliad hwn yn diogelu gwarantwyr yn ystod achosion penodol, fel cau’r cwmni. Nid yw’r swm gwarantedig ynghlwm wrth werth y cwmni � chi sy’n dewis faint y mae’r gwarantwyr yn ei dalu.

6. Memorandwm ac erthyglau cymdeithasu

Pan fyddwch yn cofrestru eich cwmni, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ‘memorandwm cymdeithasuâ€� â€� datganiad cyfreithiol wedi’i lofnodi gan yr holl gyfranddalwyr cychwynnol neu warantwyr sy’n cytuno i ffurfio’r cwmni

  • ‘erthyglau cymdeithasuâ€� â€� rheolau ysgrifenedig ynghylch rhedeg y cwmni y cytunwyd arnynt gan y cyfranddalwyr neu’r gwarantwyr, cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd y cwmni

Memorandwm cymdeithasu

Os byddwch yn cofrestru eich cwmni ar-lein, does dim angen i chi ysgrifennu eich memorandwm cymdeithasu eich hun. Bydd yn cael ei greu’n awtomatig fel rhan o’ch cofrestriad.

Os byddwch yn cofrestru drwy’r post, defnyddiwch y templed memorandwm cymdeithasu.

Ni allwch ddiweddaru’r memorandwm ar ôl i’r cwmni gael ei gofrestru.

Erthyglau cymdeithasu

Gallwch wneud un o’r canlynol:

Cwmni buddiannau cymunedol

Ni allwch ddefnyddio erthyglau cymdeithasu enghreifftiol cwmni cyfyngedig os ydych chi’n sefydlu cwmni buddiannau cymunedol (yn agor tudalen Saesneg) (CIC).

Defnyddiwch [gyfansoddiadau enghreifftiol (yn agor tudalen Saesneg)] rheoleiddiwr y cwmni buddiannau cymunedol (/government/publications/community-interest-companies-constitutions) yn lle.

7. Cofrestru’ch cwmni

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru’ch cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau. Fel arfer, byddwch yn cael eich sefydlu ar gyfer Treth Gorfforaethol ar yr un pryd, oni bai bod eich cwmni neu gymdeithas yn ‘segur� (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn cael ‘tystysgrif ymgorffori�. Mae’r dystysgrif hon yn cadarnhau bod y cwmni’n bodoli’n gyfreithiol ac yn dangos rhif y cwmni a’i ddyddiad ffurfio.

Bydd angen o leiaf 3 darn o wybodaeth bersonol arnoch ar eich cyfer chi a’ch cyfranddalwyr neu’ch gwarantwyr, er enghraifft:

  • eich tref geni

  • enw’ch mam cyn iddi briodi

  • enw cyntaf eich tad

  • eich rhif ffôn

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • rhif eich pasbort

Mae’n costio £50, a gallwch dalu hyn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd. Fel arfer, bydd eich cwmni yn cael ei gofrestru o fewn 24 awr.

Mae’n cymryd mwy o amser nag arfer i gofrestru cwmnïau ar hyn o bryd oherwydd bod nifer fawr o geisiadau.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer TWE i roi gwybod i CThEF eich bod yn cyflogi staff (gan gynnwys chi eich hun os mai chi yw’r unig gyfarwyddwr)

  • parhau â chais os ydych eisoes wedi dechrau cofrestru

Os nad ydych am ddefnyddio ‘cyfyngedig� yn enw eich cwmni, mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post.

Bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer eich cwmni pan fyddwch yn ei gofrestru. Ni allwch ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) personol ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Ffyrdd eraill o gofrestru

Gallwch gofrestru:

Pan fyddwch yn cael eich Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, bydd angen i chi ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru drwy’r post

Gallwch gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen IN01 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae ceisiadau drwy’r post yn cymryd rhwng 8 a 10 diwrnod i brosesu, ac yn costio £71 (mae’n rhaid i chi dalu hyn gyda siec yn enw ‘Companies House�).

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Cael help ar gyfer eich busnes

Gallwch gael cyngor a chymorth ar gyfer eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).

8. Ychwanegu Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes

Gallwch ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes os gwnaethoch gofrestru’ch cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau:

Os ydych eisoes wedi ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif, mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni neu i wneud taliad.

Pryd i ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth

Dylech ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif pan fyddwch yn dechrau masnachu. Mae hyn yn cynnwys prynu, gwerthu, hysbysebu, rhentu eiddo a chyflogi rhywun.

Os nad yw’ch cwmni’n masnachu, fel arfer mae’n ‘segur� at ddibenion Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn ychwanegu Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes, bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif cofrestru eich cwmni
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau masnachu (bydd cyfnod cyfrifyddu (yn agor tudalen Saesneg) cyntaf eich cwmni’n dechrau o’r dyddiad hwn)
  • dyddiad cau eich cyfrifon cyntaf
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) eich cwmni sy’n 10 digid â€� gallwch ddod o hyd i’ch UTR ar unrhyw lythyr gan CThEF

Os nad ydych yn cael UTR cyn pen 15 diwrnod i chi gofrestru’ch cwmni, gallwch .

Gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa yn gywir (yn agor tudalen Saesneg) cyn cofrestru’ch cwmni ar gyfer Treth Gorfforaeth. Dyma lle caiff pob llythyr ei anfon. Os oes angen diweddaru’r cyfeiriad hwn, mae’n rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau.

Sut i ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth

  1. gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes Dynodydd Defnyddiwr (ID) gennych, gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.

  2. Dewiswch ‘Gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu� yn y ddewislen ar y chwith.

  3. Chwiliwch am y gwasanaeth Treth Gorfforaeth a dewis ‘Cofrestru ar gyfer gwasanaeth�.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn anfon y canlynol atoch:

  • eich cod cychwyn ar gyfer Treth Gorfforaeth o fewn 10 diwrnod (21 diwrnod os ydych yn byw dramor)

  • cyfarwyddiadau ar sut i gychwyn y gwasanaeth Treth Gorfforaeth 

  • y dyddiad cau ar gyfer talu Treth Gorfforaeth

Gallwch wneud cais i gael cod cychwyn newydd os nad ydych wedi cael un, neu os yw’r cod wedi dod i ben.

Bydd y rhain yn cael eu hanfon drwy’r post i gyfeiriad cofrestredig eich swyddfa.

Bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os gwnewch golled neu os nad oes gennych Dreth Gorfforaeth i’w thalu.