Canllawiau

Erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig

Y mathau o erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol a all fod gan gwmni cyfyngedig.

Rhaid bod gan bob cwmni cyfyngedig erthyglau cymdeithasiad. Mae’r rhain yn pennu’r rheolau y mae’n rhaid i swyddogion y cwmni eu dilyn wrth redeg eu cwmnïau.

Erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol yw’r erthyglau rhagosodedig safonol y gall cwmni eu defnyddio. Cânt eu rhagnodi gan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Esiamplau o erthyglau enghreifftiol

Yn dilyn diwygiadau a wnaed i’r erthyglau enghreifftiol ers eu cyflwyno, mae fersiynau gwahanol ar gael ar gyfer pob un o’r 3 math o gwmni cyfyngedig.

Yr erthyglau enghreifftiol diweddaraf

Ar gyfer cwmnïau a gorfforwyd ar neu ar ôl 28 Ebrill 2013:

  • (MS Word Document, 173 KB)
  • (MS Word Document, 142 KB)
  • (MS Word Document, 303 KB)

Erthyglau enghreifftiol hŷn

Ar gyfer cwmnïau a gorfforwyd cyn 28 Ebrill 2013:

  • (MS Word Document, 177 KB)
  • (MS Word Document, 145 KB)
  • (MS Word Document, 311 KB)

Diwygiadau i erthyglau enghreifftiol

Cafodd yr erthyglau enghreifftiol eu diwygio gan ar 28 Ebrill 2013 i ddileu’r ddarpariaeth ar gyfer terfynu penodiad cyfarwyddwr ar sail iechyd meddwl. Gellid gweld y ddarpariaeth hon:

  • ym mharagraff 18(e) o’r erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau preifat wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant
  • ym mharagraff 22(e) o’r erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau cyhoeddus

Nid oes yn rhaid ichi ddileu’r ddarpariaeth os yw hi yn eich erthyglau, ond gallwch wneud hynny trwy ddiwygio’ch erthyglau neu drwy fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol mwy newydd.

Pa fersiynau sy’n berthnasol

Mae’r erthyglau enghreifftiol diweddaraf yn berthnasol yn rhagosodedig i bob cwmni cyfyngedig preifat a chyhoeddus a gorfforwyd ar neu ar ôl 28 Ebrill 2013. Mae’r erthyglau enghreifftiol hŷn yn dal i fod yn berthnasol yn rhagosodedig i bob cwmni a gorfforwyd rhwng 1 Hydref 2009 a 27 Ebrill 2013 (gan gynnwys y dyddiadau hynny).

Tabl A

Tabl A yw’r enw a roir ar y diwyg penodedig ar gyfer erthyglau cymdeithasiad cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau o dan Deddf Cwmnïau 1985 a deddfwriaeth cynharach.

Wrth gorffori cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, doedd dim angen iddo ffeilio Erthyglau os ddefnyddwyd ‘Tabl A� fel ei erthyglau. Os dymunwch weld y rheoliadau sy’n llywio’r cwmni, bydd angen ichi gyfeirio at y ‘Tabl A� perthnasol � y fersiwn a oedd mewn grym ar ddyddiad corfforiad y cwmni.

Os cafodd Tabl A ei ddiwygio wedyn, ni fydd y newidiadau’n effeithio ar gwmni a gafodd ei gofrestru cyn i’r diwygio ddod i rym.

Cynhwyswyd y diwyg penodedig cyntaf “ʹapp Joint Stock Companies Act, 1856�. Yn y Ddeddf honno, yr enw ar yr erthyglau oedd “Tabl B� oherwydd eu bod yn dod ar ôl diwyg ar gyfer Memorandwm Cymdeithasiad a elwid “Form A�.

Galwyd yr erthyglau ‘Tabl A� yn gyntaf yn Neddf Cwmnïau 1862 a pharhaodd y confensiwn enwi ar gyfer y deddfau dilynol.

Rhestr Tabl A

Mae’r rhestr ganlynol yn dangos pob fersiwn ‘Tabl A� wedi’i benodi gan:

  • (PDF, 58.1 KB, 10 pages) - mewn grym o 14 Gorffennaf 1856
  • (PDF, 326 KB, 11 pages) - mewn grym o 7 Awst 1862
  • (PDF, 396 KB, 15 pages) - mewn grym o 1 Hydref 1906
  • (PDF, 334 KB, 15 pages) - mewn grym o 1 Ebrill 1909
  • (PDF, 454 KB, 14 pages) - mewn grym o 1 Tachwedd 1929
  • (PDF, 606 KB, 22 pages) - mewn grym o 1 Gorffennaf 1948
  • (PDF, 109 KB, 22 pages) - mewn grym o 27 Ionawr 1968
  • (PDF, 605 KB, 22 pages) - mewn grym o 18 Ebrill 1977, 1 Mehefin 1977 a 1 Hydref 1977
  • (PDF, 110 KB, 22 pages) - mewn grym o 2 Chwefror 1979
  • (PDF, 107 KB, 22 pages) - mewn grym o 22 Rhagfyr 1980
  • (PDF, 106 KB, 21 pages) - mewn grym o 3 Rhagfyr 1981
  • (PDF, 556 KB, 20 pages) - mewn grym o 1 Gorffennaf 1985
  • (PDF, 125 KB, 20 pages) - mewn grym o 1 Awst 1985
  • (PDF, 111 KB, 21 pages) - mewn grym o 22 Rhagfyr 2000
  • (PDF, 97 KB, 18 pages) - mewn grym o 1 Hydref 2007
  • (PDF, 99.2 KB, 18 pages) - mewn grym o 1 Hydref 2007

Ymwadiad

Sylwch fod y Tablau A a welir yma wedi cael eu hatgynhyrchu o’r Deddfau, y Gorchmynion neu’r Offerynnau cyhoeddedig gwreiddiol a restrwyd uchod ac maent yn gywir hyd eithaf ein gwybod a’n cred. Fodd bynnag, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad na hepgor. Dylid dibynnu’n llwyr ar y ddeddfwriaeth berthnasol fel y cafodd honno ei chyhoeddi gan .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2017 show all updates
  1. Model articles for private companies limited by shares replaced by HTML version.

  2. Welsh translation added

  3. Updated with information and access to Table A.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon