Sefydlu cwmni cyfyngedig preifat
Cyfranddalwyr a gwarantwyr
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfyngedig yn ‘cyfyngedig drwy gyfranddaliadau�. Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau cyfyngedig hyn yn eiddo i gyfranddalwyr, sydd â hawliau penodol. Er enghraifft, efallai y bydd cyfarwyddwyr am i gyfranddalwyr bleidleisio a chytuno ar newidiadau i’r cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Mae gan gwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant warantwyr a ‘swm gwarantedig� yn hytrach na chyfranddalwyr a chyfranddaliadau.
Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau gyfranddaliadau ‘cyffredin�. Mae hyn yn golygu bod pob cyfarwyddwr yn cael un bleidlais ar benderfyniadau’r cwmni am bob cyfranddaliad sydd ganddo, ac yn cael taliadau difidend.
Cyfrifo’ch cyfranddaliadau
Mae’n rhaid i gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfranddaliadau gael o leiaf un cyfranddaliwr, a all fod yn gyfarwyddwr. Os chi yw’r unig gyfranddaliwr, byddwch yn berchen ar 100% o’r cwmni. Nid oes uchafswm o gyfranddalwyr.
Gall pris cyfranddaliad unigol fod yn unrhyw beth. Bydd angen i’r cyfranddalwyr dalu am eu cyfranddaliadau’n llawn os oes rhaid i’r cwmni gau. Gallwch ddewis gwerth cyfranddaliadau isel (er enghraifft, £1) i gyfyngu rhwymedigaeth y cyfranddalwyr i swm rhesymol.
Dyroddi eich cyfranddaliadau cychwynnol
Pan fyddwch yn cofrestru cwmni, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y cyfranddaliadau (a elwir yn ‘datganiad cyfalaf�). Mae hyn yn cynnwys:
-
nifer y cyfranddaliadau o bob math sydd gan y cwmni, a chyfanswm eu gwerth � a elwir yn ‘cyfalaf cyfranddaliadau� y cwmni
-
enwau a chyfeiriadau’r holl gyfranddalwyr � a elwir yn ‘tanysgrifwyr� neu ‘aelodau�
Enghraifft
Mae gan gwmni sy’n dyroddi 500 o gyfranddaliadau am £1 yr un gyfalaf cyfranddaliadau o £500.
Nid yw gwerth cyfranddaliadau ynghlwm wrth werth y cwmni.
Manylion rhagnodedig
Bydd angen i chi hefyd gynnwys gwybodaeth am ba hawliau y mae pob math o gyfranddaliad (a elwir yn ‘dosbarth�) yn eu rhoi i’r cyfranddaliwr. Gelwir yr wybodaeth hon yn ‘manylion rhagnodedig�, ac mae’n rhaid i’r canlynol gael ei gynnwys:
-
pa gyfran o’r difidendau y mae’r cyfranddaliwr yn ei chael
-
a all y cyfranddaliwr gyfnewid ei gyfranddaliadau am arian
-
a all y cyfranddaliwr bleidleisio ar faterion penodol y cwmni
-
faint o bleidleisiau mae’r cyfranddaliwr yn eu cael
Cwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant
Mae’n rhaid i chi gael o leiaf un gwarantwr a ‘swm gwarantedig�.
Mae’r gwarantwyr:
-
yn aelodau o’r cwmni
-
yn rheoli’r cwmni ac yn gwneud penderfyniadau pwysig
-
yn aelodau nad ydynt yn cymryd elw o’r cwmni fel arfer � yn lle hynny, mae’r arian yn cael ei gadw o fewn y cwmni neu fe’i defnyddir at ddibenion eraill
Swm gwarantedig
Mae gwarantwyr yn cytuno ar swm o arian i’w roi i’r cwmni os na all y cwmni dalu ei ddyledion. Dyma’r ‘swm gwarantedig�.
Mae’n rhaid i’r gwarantwyr dalu’r swm gwarantedig yn llawn i’r cwmni.
Mae’r taliad hwn yn diogelu gwarantwyr yn ystod achosion penodol, fel cau’r cwmni. Nid yw’r swm gwarantedig ynghlwm wrth werth y cwmni � chi sy’n dewis faint y mae’r gwarantwyr yn ei dalu.