Cymorth ariannol os ydych yn anabl
Printable version
1. Trosolwg
Mae ystod eang o gymorth ariannol sy’n gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys budd-daliadau, credydau treth, taliadau, grantiau a consesiynau.
Rhai budd-daliadau y gallech eu cael yw:
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol os ydych yn anabl o ganlyniad i waith
- Lwfans Gweini Cyson os oes angen gofal a sylw bob dydd arnoch oherwydd anabledd
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cerbydau a thrafnidiaeth
Os ydych yn anabl gallwch wneud cais am y canlynol:
- eithriad o dalu treth cerbyd
- manteision parcio - Bathodyn Glas
- tocyn bws i bobl anabl neu
- cymorth i brynu neu brydlesu car o y
Cartref a thai
Os ydych wedi’ch hasesu gan eich cyngor lleol fel bod angen gwasanaethau gofal a chymorth, gallwch gael:
- � sydd yn eich galluogi i brynu i mewn a threfnu help eich hun yn hytrach na’i gael yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol
- Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl � sydd yn arian tuag at gostau addasiadau cartref i’ch galluogi i barhau i fyw yno
Os ydych ar incwm isel
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gallech gael cymorth gyda chostau tai.
Os nad ydych, gwiriwch os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor gan eich cyngor lleol.
Help os ydych yn gyflogedig
Efallai y gallwch ychwanegu at gyflog isel trwy hawlio Credyd Cynhwysol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant Mynediad at Waith i dalu am:
- offer arbennig, addasiadau neu wasanaethau gweithwyr cymorth i’ch helpu i wneud pethau fel ateb y ffôn neu fynd i gyfarfodydd
- helpu i gyrraedd gwaith ac i ddod yn ôl o’r gwaith
- cefnogaeth iechyd meddwl
- cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd (er enghraifft, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu wefuslefarydd)
Rhyddhad TAW ar rai nwyddau a gwasanaethau
Nid oes rhaid talu VAT ar rai nwyddau a gwasanaethau os ydynt ar gyfer eich defnydd eich hun ac rydych yn anabl neu’n dioddef o salwch hirdymor.
Iawndal lluoedd arfog
Efallai y gallwch chi cael iawndal os ydych wedi’ch anafu neu wedi dod yn anabl wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog.
2. Budd-daliadau anabledd a salwch
Lwfans Byw i’r Anabl i blant
Mae Lwfans Byw i’r Anabl i blant (DLA) yn fudd-dal di-dreth i blant o dan 16 oed i helpu gyda’r costau ychwanegol a achosir gan salwch hirdymor neu anabledd.
Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion
Mae Taliad Annibyniaeth Personol yn raddol yn disodli DLA i oedolion sydd â salwch hirdymor neu anabledd. Os ydych wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth gallwch wneud cais am Lwfans Gweini yn lle hynny.
Taliad Annibyniaeth Personol
Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal di-dreth i bobl 16 oed neu hŷn nad ydynt wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Gall helpu gyda’r costau ychwanegol a achosir gan afiechyd hirdymor neu anabledd.
Lwfans Gweini
Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal di-dreth i bobl sydd oedran Pensiwn y-Wladwriaeth neu drosodd, gydag anabledd ac mae angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amadanynt.
Lwfans Cyfloagaeth a Chymorth
Efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) os na allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd.
Gofalwyr
Mae Lwfans Gofalwr yn arian ychwanegol i’ch helpu i ofalu am rywun sydd ag anghenion gofal sylweddol.
Gallech hefyd gael Credyd Gofalwr felly ni fydd unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol os oes rhaid i chi gymryd cyfrifoldebau gofalu.
3. Cerbydau a thrafnidiaeth
Bydd angen i chi fodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol i yrwyr cyn y gallwch chi yrru.
Cynllun parcio Bathodyn Glas
²Ñ²¹±ð’r Cynllun parcio Bathodyn Glas yn darparu ystod o fanteision parcio i bobl anabl ag anawsterau cerdded difrifol sy’n teithio naill ai fel gyrwyr neu fel teithwyr.
Eithriad treth cerbyd
Gallwch gael eithriad treth cerbyd ar gyfer un cerbyd, os ydych chi’n gymwys.
Rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru yn enw’r person anabl neu enw ei yrrwr enwebedig.
Rhaid ei ddefnyddio dim ond ar gyfer anghenion personol yr unigolyn anabl. Ni all y gyrrwr enwebedig ei ddefnyddio ar gyfer ei ddefnydd personol ei hun.
Cymhwysedd
Gallwch wneud cais am eithriad rhag talu treth cerbyd os ydych yn cael y canlynol:
- cyfradd uwch elfen symudol o Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- cyfradd uwch elfen symudedd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- cyfradd uwch elfen symudedd
- cyfradd uwch elfen symudedd
- Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
Sut i wneud cais
Gallwch hawlio’r eithriad pan fyddwch yn gwneud cais am dreth cerbyd.
Os ydych yn hawlio am gerbyd am y tro cyntaf, mae’n rhaid i chi wneud cais mewn Swyddfa’r Post. Rhaid i chi wneud hyn bob tro y byddwch yn newid eich cerbyd.
Gostyngiad treth cerbyd
Gallwch gael gostyngiad o 50% yn nhreth cerbyd ar un cerbyd, os ydych chi’n gymwys.
Rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru yn enw’r person anabl neu enw ei yrrwr enwebedig.
Cymhwysedd
Gallwch gael y gostyngiad os ydych yn cael y:
Ni allwch gael gostyngiad ar gyfer cael y DLA cyfradd elfen is symudedd.
Sut i wneud cais
Rhaid i chi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:
- llythyr neu ddatganiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dangos eich cyfradd PIP a’r dyddiadau rydych yn ei gael - os ydych yn cael PIP
- llythyr penderfyniad ADP gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban sy’n dangos cyfradd eich elfen symudedd a’r dyddiadau rydych yn ei chael - os ydych yn cael ADP
- llyfr log y cerbyd (V5CW)
- ffurflen V10W
- prawf o MOT gyfredol, os oes angen un arnoch - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
- tystysgrif prawf cerbyd nwyddau (GVT) wreiddiol, os oes angen un arnoch
- siec neu orchymyn daladwy (wedi’i wneud i �DVLA, Abertawe�) ar gyfer 50% o’r gyfradd lawn o dreth car ar gyfer y cerbyd
- tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant (os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon)
Peidiwch ag anfon eich asesiad PIP nac unrhyw wybodaeth feddygol arall gyda’ch cais.
Os ydych chi newydd brynu’r cerbyd ac nad yw wedi’i gofrestru yn eich enw eto, bydd angen ichi lenwi ffurflen V62W a chynnwys y slip ‘ceidwad newydd� gwyrdd o’r llyfr loggyda’ch cais.
Anfonwch y dogfennau i:
DVLA
Abertawe
SA99 1DZ
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru ichi neu’r gyrrwr enwebedig
Pan fyddwch yn gwneud eich cais bydd angen ichi gynnwys llythyr wedi’i lofnodi gan geidwad cofrestredig y cerbyd. Rhaid i hyn ddweud:
- sut maen nhw’n eich adnabod
- sut y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft codi’ch presgripsiwn neu siopa
Y Cynllun Motability
Gall y eich helpu chi i brydlesu car, cadair olwyn neu sgwter. Bydd angen i chi fod yn cael un o’r canlynol:
- cyfradd uwch elfen symudedd Lwfans Byw i’r Anabl
- cyfradd uwch elfen symudedd Taliad Anabledd Plentyn
- Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- cyfradd uwch elfen symudedd PIP
- elfen symudedd uwch y Taliad Anabledd Oedolion
Rhyddhad TAW ar gyfer cerbydau
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu TAW ar gael cerbyd wedi’i addasu i’ch cyflwr, neu ar brydles cerbyd Motability - gelwir hyn yn rhyddhad TAW.
Cludiant cymunedol a chyhoeddus
Efallai bod eich cyngor lleol yn gweithredu cynllun “dial-a-ride� neu dacsi , er enghraifft, gan ddefnyddio talebau neu docynnau. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael tocyn bws, neu’r ddau.
4. Cartref a thai
Taliadau Uniongyrchol - trefnu eich gofal a’ch gwasanaethau eich hun
Os ydych wedi’ch hasesu gan eich cyngor lleol fel bod angen gwasanaethau gofal a chymorth, efallai y byddwch am ddewis . Maent yn caniatáu i chi brynu i mewn a threfnu help eich hun yn hytrach na’i dderbyn yn uniongyrchol gan eich cyngor lleol.
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl
Mae Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn grantiau cyngor lleol. Mae’n helpu tuag at gost addasiadau hanfodol i’ch cartref i’ch galluogi i barhau i fyw yno.
Cynllun Gostyngiad Band Anabl Treth Cyngor
Efallai y bydd gennych hawl i gostyngiad yn eich bil Treth Cyngor os oes gan eich cartref rai nodweddion sy’n hanfodol i chi fyw yno.
Enghraifft
Mae gennych estyniad ar gyfer ystafell wely i lawr y grisiau, gan gynyddu maint eich eiddo, sy’n golygu bod yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Gyngor. Fodd bynnag, gan fod yr ystafell wedi cael ei hadeiladu oherwydd eich anabledd, gallwch gael gostyngiad yn eich cyfradd uwch newydd o Dreth Gyngor, felly byddwch yn talu’r un peth ac o’r blaen.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud cais am Ostyngiad Band Anabl Treth Cyngor.
Os ydych ar incwm isel
Credyd Cynhwysol
Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol gallwch gael help i dalu am eich tÅ·.
Budd-dal Tai
Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Credyd Cynhwysol. Bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais.
Efallai y byddwch hefyd yn cael Gostyngiad Treth Cyngor eich cyngor lleol.
5. Ar incwm isel
Credyd Cynhwysol
Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Bydd angen i chi fod wedi gweithio fel cyflogai ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn ystod y 2 i 3 blynedd ddiwethaf. Gall credydau Yswiriant Gwladol gyfrif hefyd.
Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn unig, oni bai yr oeddech yn gweithio fel pysgotwr cyfran neu weithiwr datblygu gwirfoddol.
Bydd angen i chi hefyd gymryd camau rhesymol i chwilio am waith.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Lwfans Person Dall
²Ñ²¹±ð’r Lwfans Person Dall yn eich galluogi i dderbyn swm o incwm heb orfod talu treth. Fe’i ychwanegir at eich lwfans treth personol.
6. Disgownt trwydded deledu
Gallwch gael gostyngiad o 50% ar gost eich trwydded deledu os ydych naill ai:
- wedi’ch cofrestru’n ddall neu â nam ar eich golwg
- yn byw gyda rhywun sydd wedi’i gofrestru’n ddall neu â nam ar y golwg
Os nad yw’r person sydd wedi’i gofrestru’n ddall yn ddeiliad presennol y drwydded ar gyfer eich cyfeiriad, bydd angen i chi drosglwyddo’r drwydded i’w henw.
Gallwch naill ai:
- - byddwch angen rhif eich trwydded
- cysylltwch â thrwyddedu teledu i drosglwyddo’r drwydded
Trwyddedu Teledu
Ffôn: 0300 790 6076
(os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Darganfyddwch am gostau galwadau
Sut i wneud cais
Er mwyn hawlio’r consesiwn trwydded deledu i bobl ddall, bydd angen i chi gael tystysgrif gan eich awdurdod lleol neu offthalmolegydd sy’n nodi eich bod wedi’ch cofrestru’n ddall neu â nam ar y golwg.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r dystysgrif neu’r ddogfen gael ei chyhoeddi gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar Ynys Manaw, rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan neu ar ran yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Postiwch gopi o’r dystysgrif ynghyd â’ch hysbysiad adnewyddu trwydded - os oes gennych un - a siec neu orchymyn post ar gyfer y drwydded i:
Yr Adran Gymraeg
Trwyddedu Teledu
Darlington
DL98 1TL
Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif trwydded deledu, os oes gennych un.
7. Rhyddhad TAW ar gyfer pobl anabl
Os ydych yn anabl neu os oes gennych salwch hirdymor, ni chodir tâl ar TAW ar gynhyrchion sydd wedi’u dylunio neu eu haddasu ar gyfer eich defnydd personol neu ddomestig eich hun. Hefyd, ni chodir TAW arnoch ar:
- y gosodiad ac unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen fel rhan o hyn
- atgyweirio neu gynnal a chadw
- rhannau sbâr neu ategolion
Rhaid i’r cynnyrch a’ch anabledd fod yn gymwys.
Cynhyrchion neu wasanaethau cymwys
Gall eich cyflenwr ddweud wrthych, ond fel rheol mae cynhyrchion wedi’u dylunio neu eu haddasu ar gyfer anabledd yn gymwys. Er enghraifft, mae rhai mathau o:
- gwelyau addasadwy
- lifftiau grisiau
- cadeiriau olwyn
- cyfarpar meddygol i helpu gydag anafiadau difrifol
- larymau
- papur braille neu gymhorthion gweledol - ond nid spectol na lensys cyffwrdd
- cerbydau modur - neu brydlesu cerbyd motability
- gwaith adeiladu fel rampiau, lledu drysau, gosod lifft neu doiled
Sut i gael y cynnyrch heb dalu TAW
I gael y cynnyrch heb dalu TAW, mae’n rhaid i’ch anabledd fod yn gymwys. At ddibenion TAW, rydych yn anabl neu os oes gennych salwch hirdymor os:
- mae gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, er enghraifft, rydych yn ddall
- mae gennych gyflwr sy’n cael ei drin fel salwch cronig, fel clefyd siwgr
- rydych yn derfynol wael
Nid ydych yn gymwys os ydych yn oedrannus ond yn gorfforol abl, neu os ydych yn anabl dros dro.
Bydd angen i chi gadarnhau yn ysgrifenedig eich bod yn bodloni’r amodau hyn. Efallai y bydd eich cyflenwr yn rhoi ffurflen i chi am hyn.
Cymorth gan eich cyngor
Gallwch wneud cais i’ch cyngor am offer neu gymorth i addasu’ch cartref os oes gennych anabledd.
Mewnforio nwyddau
Nid ydych yn talu TAW os ydych yn mewnforio nwyddau cymwys sydd ar gyfer eich defnydd personol neu ddomestig eich hun. Mae hyn yn cynnwys nwyddau penodol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall.
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth cludo nwyddau, gallant eich helpu gyda’r gwaith papur, neu gwnewch yn siŵr fod y canlynol wedi ei ysgrifennu ar y parsel, ‘Nwyddau i bobl anabl: cais am rhyddhad�.
Os ydych yn dod â nhw i mewn eich hun, rhaid eu datgan yn y sianel goch yn y Tollau. Am unrhyw ddull arall o fewnforio, cysylltwch â’r Uned Gostyngiadau Mewnforio Cenedlaethol.
8. Anafiadau neu salwch sy'n gysylltiedig â gwaith
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os ydych yn anabl o ganlyniad i:
- damwain yn y gwaith
- clefyd
- byddardod a achosir gan waith
Lwfans Gweini Cyson
Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini Cyson os oes angen gofal a sylw dyddiol arnoch oherwydd anabledd a’ch bod yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.
9. Iawndal lluoedd arfog
Gallwch wneud cais am iawndal os tra’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog:
- cawsoch anaf neu salwch
- gwnaeth gyflwr presennol oedd gennych waethygu
Lwfans Gweini Cyson
Gallwch hefyd wneud cais am Lwfans Gweini Cyson os oes angen gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd.