Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Cymhwyster
I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:
- gweithio fel cyflogai
- talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gall (Credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif)
Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.
Mae yna reolau cymhwysedd gwahanol .
Rhaid i chi hefyd:
- fod yn 18 oed neu’n hŷn
- bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- bod ym Mhrydain Fawr
- peidio â bod yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos
Ni fyddwch yn gymwys os ydych chi’n rhan o anghydfod gyda’ch cyflogwr ynghylch materion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth (‘anghydfod masnachu�).
Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych salwch neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio. Gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.
Ni fydd eich cynilion a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.
Os ydych chi’n gweithio
Fel arfer, ni allwch chi gael JSA Dull Newydd os ydych chi’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos.
Gall eich enillion leihau faint o JSA Dull Newydd a gewch.
Os ydych chi mewn addysg
Os ydych chi’n astudio’n rhan-amser efallai y byddwch chi’n gymwys i gael JSA.
Os ydych chi’n astudio’n llawn amser, efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- mae’r cymhwyster rydych chi’n astudio ar ei gyfer ar Lefel 4 neu’n is
- nid ydych chi’n cael benthyciad cynhaliaeth, grant na bwrsariaeth ar gyfer y cymhwyster rydych chi’n ei astudio
- gallwch chi fodloni’r gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith y cytunwyd arnynt gyda’ch anogwr gwaith
Hawlio Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd
Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle JSA Dull Newydd.
Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliadau JSA Dull Newydd yn:
- cyfrif fel incwm wrth hawlio Credyd Cynhwysol
- lleihau swm y Credyd Cynhwysol a gewch
Bydd eich JSA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu’n fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.