Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Awdurdodiad

Dim ond gyda’r person sydd wedi’i enwi ar y ffurflen hawlio (neu ei enwebai) y gall y llinell Gymorth Budd-dal Plant drafod hawliad. Gall partner, neu unrhyw berson arall, gael cymorth cyffredinol, ond mae’n rhaid bod ganddo ‘awdurdodiad� er mwyn trafod hawliad gyda’r llinell gymorth.

Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid, neu os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu.

Cael awdurdodiad

Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi’r ffurflen CH105, neu ysgrifennu llythyr sy’n cynnwys yr un wybodaeth, a’i yrru at y Swyddfa Budd-dal Plant � mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd yr awdurdodiad yn gyfredol am 12 mis, oni bai bod dyddiad dod i ben gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer, bydd awdurdodiad yn cymryd 2 ddiwrnod o’r dyddiad y mae’r ffurflen yn dod i law. Gan amlaf, ni fyddwch yn cael llythyr i gadarnhau’r awdurdodiad.

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant angen cael ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr.

Gall mwy nag un person gael awdurdodiad, ond mae’n rhaid i bob un anfon ffurflen CH105.

Os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid

Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn cofrestru fel ‘sefydliad cyfryngwyr� os ydych yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gweithredu ar ran llawer o bobl.

Gallwch gael awdurdodiad os ydych yn sefydliad cyfryngwyr, a bod eich cleient yn rhoi ffurflen CH105 sydd wedi’i llenwi i chi. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen CH105 eich cleient am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei harwyddo.

Os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu delio â Budd-dal Plant ar ei ran.

Er mwyn eich awdurdodi i ddelio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, bydd angen i’r cleient lenwi’r ffurflen CH995.

Canslo awdurdodiad

Gall awdurdodiad gael ei ganslo drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.