Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall
Printable version
1. Os yw eich plentyn yn cael baban
Os yw plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano yn cael baban, gallant hawlio Budd-dal Plant neu gallwch hawlio ar ei ran, ac ar ran y baban.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os yw eich plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, byddant yn cael y canlynol:
- £26.05 yr wythnos, os mai dyma ei blentyn hynaf neu’r unig blentyn
- credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at ei Bensiwn y Wladwriaeth os yw’r plentyn yn hŷn nag 16.
Os ydych yn hawlio ar ei ran:
- byddwch yn cael £17.25 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol y byddwch yn hawlio ar ei gyfer � os ydych yn talu’r Taliad Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, ni fyddwch yn cael arian ychwanegol
- ni fydd eich plentyn yn cael credydau Yswiriant Gwladol
I un cyfrif yn unig y gall Swyddfa Budd-dal Plant dalu’r budd-dal. Gall hwn fod yn gyfrif ar y cyd sydd gennych â’ch plentyn.
2. Penodedigion
Gallwch wneud cais am yr hawl i ddelio â Budd-dal Plant rhywun sy’n methu â rheoli ei faterion ei hun, er enghraifft, os yw rhywun yn analluog yn feddyliol neu’n ddifrifol anabl.
Gelwir hyn yn dod yn ‘benodai�.
Gallwch wneud cais fel unigolyn, neu fel sefydliad gwirfoddol.
Os ydych yn cael eich talu i ddelio â Budd-dal Plant rhywun arall, cewch eich adnabod fel bod yn ‘asiant sy’n cael ei dalu�.
Nid penodai ydych os mai dim ond cynorthwyo rhywun lenwi ei ffurflen hawlio ydych chi.
Sut i fod yn benodai
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn hawlio. Byddant yn trafod gyda chi os mai bod yn benodai yw’r dewis gorau i chi, a rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.
Eich cyfrifoldebau
Bydd rhai o’ch dyletswyddau fel penodai yn cynnwys:
- cwblhau’r ffurflen hawlio
- delio gydag unrhyw lythyrau gan y Swyddfa Budd-dal Plant
- adrodd am unrhyw newidiadau sy’n effeithio Budd-dal Plant
- stopio neu ailgychwyn taliadau pan fydd y person, neu ei bartner, yn cael ei effeithio gan y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Bydd eich Budd-dal Plant yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.
Sut i fod yn asiant sy’n cael ei dalu
Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu delio â Budd-dal Plant ar ei ran.
Stopio neu newid penodai neu asiant sy’n cael ei dalu
Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen un mis o’r dyddiad yr ydych am stopio neu newid y penodai.
3. Awdurdodiad
Dim ond gyda’r person sydd wedi’i enwi ar y ffurflen hawlio (neu ei enwebai) y gall y llinell Gymorth Budd-dal Plant drafod hawliad. Gall partner, neu unrhyw berson arall, gael cymorth cyffredinol, ond mae’n rhaid bod ganddo ‘awdurdodiad� er mwyn trafod hawliad gyda’r llinell gymorth.
Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid, neu os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu.
Cael awdurdodiad
Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi’r ffurflen CH105, neu ysgrifennu llythyr sy’n cynnwys yr un wybodaeth, a’i yrru at y Swyddfa Budd-dal Plant � mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd yr awdurdodiad yn gyfredol am 12 mis, oni bai bod dyddiad dod i ben gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer, bydd awdurdodiad yn cymryd 2 ddiwrnod o’r dyddiad y mae’r ffurflen yn dod i law. Gan amlaf, ni fyddwch yn cael llythyr i gadarnhau’r awdurdodiad.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant angen cael ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr.
Gall mwy nag un person gael awdurdodiad, ond mae’n rhaid i bob un anfon ffurflen CH105.
Os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid
Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn cofrestru fel ‘sefydliad cyfryngwyr� os ydych yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gweithredu ar ran llawer o bobl.
Gallwch gael awdurdodiad os ydych yn sefydliad cyfryngwyr, a bod eich cleient yn rhoi ffurflen CH105 sydd wedi’i llenwi i chi. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen CH105 eich cleient am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei harwyddo.
Os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu
Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu delio â Budd-dal Plant ar ei ran.
Er mwyn eich awdurdodi i ddelio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, bydd angen i’r cleient lenwi’r ffurflen CH995.
Canslo awdurdodiad
Gall awdurdodiad gael ei ganslo drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.