Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor
Os ydych yn gweithio dramor, byddwch fel arfer yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol (a elwir yn gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU) yn y wlad lle rydych yn gweithio ynddi.
Efallai y bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU tra’ch bod yn gweithio dramor. Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif i ddangos eich bod yn talu yn y DU. Mae’n dibynnu ar ble a pha mor hir yr ydych yn gweithio.
Gwiriwch yr arweiniad ynghylch nawdd cymdeithasol dramor (NI38) i weld rhestr o wledydd sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gweithio mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU
Os oes gan y wlad rydych chi’n gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU.
Bydd angen i chi gael ‘tystysgrif yswiriant� i ddangos eich bod yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU a does dim angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi.
Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am dystysgrif
Gwiriwch a oes gan wlad cytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, a sut i wneud cais os ydych yn gymwys i gael tystysgrif yswiriant.
Gweithio mewn gwlad sydd heb gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU
Mae angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU am y 52 wythnos gyntaf o weithio dramor os ydych yn bodloni pob un o’r amodau canlynol:
- rydych yn gweithio dramor dros dro
- mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
- rydych yn breswylydd yn y DU gan amlaf
- roeddech yn byw yn y DU yn union cyn dechrau gweithio dramor
Bydd eich cyflogwr yn tynnu eich Yswiriant Gwladol o’ch enillion.
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn y DU tra’ch bod yn gweithio dramor.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor.
Bydd eich taliadau’n diogelu:
- eich hawl i fudd-daliadau (yn agor tudalen Saesneg)
- eich Pensiwn y Wladwriaeth, p’un ai’ch bod yn dewis dychwelyd i’r DU neu aros i fyw dramor
Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynnwys eich yswiriant iechyd yn y wlad lle rydych yn byw.