Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig
Printable version
1. Trosolwg
Mae treuliau symlach yn ffordd o gyfrifo rhai o’ch treuliau busnes gan ddefnyddio cyfraddau unffurf yn hytrach na chyfrifo’ch costau busnes gwirioneddol.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio treuliau symlach. Gallwch benderfynu a yw hyn yn gweddu i’ch busnes.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg
Pwy all ddefnyddio treuliau symlach
Gall treuliau symlach gael eu defnyddio gan y canlynol:
- unig fasnachwyr
- partneriaeth busnes sydd heb gwmnïau fel partneriaid
Ni all cwmnïau cyfyngedig na phartneriaethau busnes sy’n ymwneud â chwmni cyfyngedig ddefnyddio treuliau symlach.
Math o dreuliau
Gallwch ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer y canlynol:
- costau busnes ar gyfer rhai cerbydau
- gweithio gartref
- byw yn eich safle busnes
Mae’n rhaid i chi gyfrifo bob treuliau eraill drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.
Sut i ddefnyddio treuliau symlach
-
Cadwch gofnod o’ch milltiroedd busnes ar gyfer cerbydau, yr oriau rydych yn gweithio gartref a faint o bobl sy’n byw yn safle’ch busnes dros y flwyddyn. Â
-
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth defnyddiwch y cyfraddau unffurf ar gyfer milltiredd cerbyd, gweithio gartref, a byw yn eich safle busnes i gyfrifo’ch treuliau. Â
-
Rhowch y symiau hyn yn y cyfanswm ar gyfer eich treuliau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo a yw treuliau symlach yn addas i’ch busnes.
2. Cerbydau
Cyfrifwch eich treuliau cerbyd gan ddefnyddio cyfradd unffurf ar gyfer milltiroedd yn hytrach na chostau gwirioneddol prynu a rhedeg eich cerbyd, er enghraifft yswiriant, atgyweiriadau, gwasanaethu, tanwydd.
Gallwch ddefnyddio treuliau syml ar gyfer:
- ceir (ar wahân i’r rhai hynny sydd wedi’u cynllunio ar gyfer defnydd masnachol, er enghraifft, cabiau du, cerbydau hacni neu geir hyfforddwyr gyrru sydd â rheolaeth ddeuol)
- cerbydau nwyddau (er enghraifft, faniau)
- beiciau modur
Ni allwch hawlio treuliau symlach ar gyfer cerbyd rydych eisoes wedi hawlio lwfansau cyfalaf ar ei gyfer, neu rydych wedi’i gynnwys fel cost pan gyfrifoch eich elw busnes.
Cerbyd | Cyfradd unffurf y filltir gyda threuliau symlach |
---|---|
Ceir a cherbydau nwyddau, y 10,000 milltir gyntaf | 45c |
Ceir a cherbydau nwyddau, ar ôl 10,000 milltir | 25c |
Beiciau modur | 24c |
·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌý
Rydych wedi gyrru 11,000 o filltiroedd busnes dros y flwyddyn.
Cyfrifiad:
10,000 o filltiroedd x 45c = £4,500Â
1,000 o filltiroedd x 25c = £250Â
Cyfanswm y gallwch ei hawlio = £4,750
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer eich cerbydau i gyd. Unwaith y byddwch yn defnyddio’r cyfraddau unffurf ar gyfer cerbyd, rhaid i chi barhau i wneud hynny cyn belled â’ch bod yn defnyddio’r cerbyd hwnnw ar gyfer eich busnes.
Gallwch hawlio’r holl gostau teithio eraill (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft teithiau trên) a pharcio ar ben treuliau eich cerbyd.
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.
3. Gweithio gartref
Cyfrifwch eich treuliau caniataol gan ddefnyddio cyfradd unffurf yn seiliedig ar yr oriau rydych yn gweithio o’ch cartref bob mis.
Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gyfrifo cyfran y defnydd personol a’r defnydd busnes ar gyfer eich cartref, er enghraifft faint o’ch biliau cyfleustodau sydd ar gyfer busnes.
Nid yw’r gyfradd unffurf yn cynnwys costau ffôn neu gostau rhyngrwyd. Gallwch hawlio cyfran y busnes o’r biliau hyn (yn agor tudalen Saesneg) drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach dim ond os ydych yn gweithio 25 awr neu fwy’r mis o gartref.
Oriau o ddefnydd busnes y mis | Cyfradd unffurf y mis |
---|---|
25 i 50 | £10 |
51 i 100 | £18 |
101 a mwy | £26 |
·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌý
Gwnaethoch weithio 40 awr o’ch cartref am 10 mis, ond gwnaethoch weithio 60 awr yn ystod 2 fis penodol:
10 mis x £10 = £100Â
2 mis x £18 = £36
Cyfanswm y gallwch ei hawlio = £136
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.
4. Byw yn eich safle busnes
Mae nifer fach o fusnesau yn defnyddio eu safle busnes fel eu cartref, er enghraifft gwesty, gwely a brecwast neu gartref gofal bychan.
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach yn hytrach na chyfrifo’r rhaniad rhwng yr hyn yr ydych yn ei wario ar eich defnydd preifat a’ch defnydd busnes o’r safle.
Gyda threuliau symlach, rydych yn cyfrifo cyfanswm y treuliau ar gyfer y safle.
Yna rydych yn defnyddio’r cyfraddau unffurf i ddidynnu swm sydd at eich defnydd personol o’r safle, yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw ar y safle a hawlio’r gweddill fel treuliau eich busnes.
Nifer y bobl | Cyfradd unffurf y mis |
---|---|
1 | £350 |
2 | £500 |
3+ | £650 |
·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌý
Rydych chi a’ch partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Cyfanswm eich treuliau safle busnes yw £15,000.Â
Cyfrifiad:
Cyfradd unffurf: 12 mis x £500 y mis = £6,000
Gallwch hawlio:
£15,000 - £6,000 = £9,000 Â
Os yw rhywun yn byw yn eich safle busnes am ran o’r flwyddyn, dim ond am y misoedd y mae’n byw yno y gallwch ddidynnu’r gyfradd unffurf berthnasol.
·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌýÂ
Rydych chi a’ch partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Mae eich plentyn yn y brifysgol am 9 mis y flwyddyn ond mae’n dod yn ôl i fyw gartref am 3 mis yn ystod yr haf.
Cyfrifiad:
Cyfradd unffurf: 9 mis x £500 y mis = £4,500Â
Cyfradd unffurf: 3 mis x £650 y mis = £1,950 Â
Cyfanswm = £6,450 Â
Gallwch hawlio:Â Â
£15,000 - £6,450 = £8,550 Â
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.