Herio’ch band Treth Gyngor
Ar ol i chi wneud her
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cadarnhau ei bod wedi derbyn eich her. Mae hyn fel arfer o fewn ychydig ddyddiau, ond weithiau gall gymryd hyd at 28 diwrnod.
Bydd yn adolygu eich her ac yn gwneud penderfyniad. Gall hyn gymryd hyd at 6 mis pan fydd gennych hawl gyfreithiol i herio (‘gwneud cynnig�).
Os ydych wedi cyflwyno her oherwydd eich bod o’r farn fod eich eiddo yn y band anghywir ond nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio (‘adolygiad band�), gall hyn gymryd hyd at 12 mis.
Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y VOA, bydd yn cysylltu â chi.
Pan fydd wedi gorffen yr adolygiad, bydd yn gwneud un o’r canlynol:
- newid eich band Treth Gyngor a rhoi wybod i’ch cyngor lleol - bydd eich cyngor yn adolygu eich bil ac yn talu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus
- tynnu eich eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor - gwiriwch beth sy’n digwydd ar ôl i eiddo gael ei ddileu
- ychwanegu eich eiddo at restr y Dreth Gyngor - byddwch yn cael band newydd
- dweud wrthych pam na ellir newid eich band
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad
Dim ond os oedd gennych hawl gyfreithiol i herio (‘gwneud cynnig�) y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Yng Nghymru, nid oes angen ichi wneud dim. Bydd eich her yn cael ei hanfon yn awtomatig at os na fyddwch yn ymateb i’r penderfyniad.
Yn Lloegr, gallwch . Mae’r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar y VOA. Mae’n rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid i chi dalu eich costau eich hun.
Fel arfer mae angen i chi apelio o fewn 3 mis i gael y penderfyniad.
Efallai y gallwch gael y terfyn amser wedi’i ymestyn mewn rhai amgylchiadau. Bydd angen i chi esbonio pam fod angen estyniad arnoch ar y ffurflen apêl.
Os bydd y tribiwnlys yn cytuno â chi, bydd y VOA yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru eich bil.
Cymorth
Os ydych yn Lloegr, mae gan y Tribiwnlys Prisio ganllawiau ar:
Os ydych chi yng Nghymru, mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru .
Gallwch hefyd gysylltu â’r tribiwnlys am gymorth.
Tribiwnlys Prisio
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau