Bwrdd ymddiriedolwyr: pobl a sgiliau
Gwiriwch pwy sy'n gymwys i fod yn ymddiriedolwr a pha sgiliau sydd eu hangen arnynt
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gwiriwch pwy sy鈥檔 gymwys i fod yn ymddiriedolwr
Dywed y gyfraith na all rhai pobl fod yn ymddiriedolwr elusen.
Rhaid i chi beidio 芒 phenodi person na chaniateir iddo yn 么l y gyfraith fod yn ymddiriedolwr.
Defnyddiwch ganllaw ar ddod o hyd i ymddiriedolwyr a鈥檜 penodi. Mae hwn yn nodi鈥檙 gwiriadau y mae鈥檔 rhaid i chi eu gwneud cyn i chi benodi ymddiriedolwyr newydd. Mae鈥檔 cynnwys canllawiau ar wirio:
- os yw person yn bodloni鈥檙 gofyniad oedran lleiaf ar gyfer ymddiriedolwyr
- nad yw person wedi鈥檌 anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr
- os oes angen gwiriad DBS perthnasol ar gyfer swydd ymddiriedolwr
Recriwtio ymddiriedolwyr newydd
Efallai bod eich elusen yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd am y tro cyntaf.
Defnyddiwch canllaw ar ddod o hyd i ymddiriedolwyr a鈥檜 penodi i鈥檆h helpu i:
- nodi鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnoch ar eich bwrdd ymddiriedolwyr i symud eich elusen ymlaen
- annog pobl i wneud cais i fod yn ymddiriedolwyr eich elusen
- hysbysu ymddiriedolwyr newydd am eu cyfrifoldebau cyfreithiol
- croesawu, hyfforddi a chefnogi ymddiriedolwyr newydd
Wrth recriwtio eich bwrdd ymddiriedolwyr cyntaf:
- ceisiwch amrywio hyd yr apwyntiadau cyntaf, fel na fydd eich ymddiriedolwyr i gyd yn newid ar unwaith
- ystyriwch osod disgrifiadau r么l clir ar gyfer ymddiriedolwyr, gan gynnwys ar gyfer deiliaid swyddi penodol fel eich cadeirydd a鈥檆h trysorydd
Rheolau dogfen lywodraethol ynghylch penodi ymddiriedolwyr
Pan fyddwch yn creu dogfen lywodraethol eich elusen, bydd yn cynnwys rheolau ynghylch penodi ymddiriedolwyr. Er enghraifft, gall ddweud:
- beth yw鈥檙 nifer lleiaf o ymddiriedolwyr y mae鈥檔 rhaid i鈥檆h elusen eu cael, ac a oes terfyn uchaf
- am ba hyd y gall ymddiriedolwyr fod yn eu swyddi
- os gall sefydliadau eraill benodi ymddiriedolwyr eich elusen
- os oes rhaid i aelodau eich elusen ethol rhai neu bob un o鈥檆h ymddiriedolwyr
- y broses y mae鈥檔 rhaid i chi ei dilyn i benodi ymddiriedolwyr newydd
- pwy all fod yn ymddiriedolwr eich elusen. Er enghraifft, gall ddweud bod yn rhaid i rai neu bob un o鈥檆h ymddiriedolwyr fyw mewn lle penodol
Rhaid i chi ddilyn yr hyn y mae eich dogfen lywodraethol yn ei ddweud.
Ymddiriedolwyr sy鈥檔 byw y tu allan i鈥檙 DU
Gallwch benodi rhywun sy鈥檔 byw y tu allan i鈥檙 DU yn ymddiriedolwr. Mae hyn yn cynnwys:
- dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig
- pobl yn y DU ar fis芒u dros dro neu sy鈥檔 ceisio lloches
- dinasyddion Prydeinig sy鈥檔 byw dramor
Gwiriwch fod y person yn gymwys i fod yn ymddiriedolwr, a bod y penodiad:
- yn un a ganiateir gan ddogfen lywodraethol eich elusen (gwiriwch am unrhyw gyfyngiadau preswyl neu gyfyngiadau tebyg)
- er lles gorau eich elusen, fel bod buddion y penodiad yn drech nag unrhyw faterion neu broblemau
Ystyriwch sut y byddwch yn:
- cynnal cyfarfodydd os yw un neu fwy o ymddiriedolwyr yn byw dramor
- sicrhau cyfranogiad rheolaidd a gweithredol gan yr ymddiriedolwyr hyn