Gofyn i gyflymu cais
Gofyn i Gofrestrfa Tir EF brosesu’ch cais trwy lwybr carlam.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Proses llwybr cyflym ar gyfer ceisiadau preswyl a masnachol yw cyflymu cais.
Os caiff ei gymeradwyo ac os nad oes unrhyw geisiadau neu geisiadau am wybodaeth (ymholiadau) heb eu datrys, ein nod yw prosesu cais i gyflymu o fewn 10 niwrnod gwaith.
Lle mae angen rhagor o wybodaeth i barhau, gofynnwn i gwsmeriaid ymateb yn gyflym i sicrhau ein bod yn gallu cwblhau’r cais.
Meini prawf gofynnol
Gallwch ofyn i gyflymu cais pe bai’r oedi:
- yn achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
- yn peryglu trafodiad eiddo, er enghraifft, cytundeb ail-gyllido neu ddatblygiad.
Ni fyddwn yn cyflymu cais:
-
sydd eisoes yn cael ei brosesu
-
i chwilio’r gofrestr, gan gynnwys chwiliadau o’r map mynegai
Tystiolaeth sy’n ofynnol i gefnogi’r cais
Ni allwn ystyried unrhyw gais heb dystiolaeth gefnogol.
Mae enghreifftiau o dystiolaeth rydym yn ei derbyn yn cynnwys:
- copi o’r contract gwerthu neu brynu
- llythyr cynnig morgais yn cadarnhau dyddiad dod i ben y cynnig
- cadarnhad bod trafodiad bwriadedig yn dibynnu ar y cais rydych am ei gyflymu
- esboniad o broblemau ariannol neu bersonol sy’n dangos yr angen i gyflymu
Rydym yn derbyn dogfennau golygedig os ydynt yn dangos yn glir pam eich bod yn gofyn inni gyflymu’ch cais.
Sut i wneud cais
Dylai’r cais gael ei anfon gan un o’r canlynol:
- y prynwr
- y gwerthwr
- y sefydliad a gyflwynodd y cais
Cyflwynwch bob cais i gyflymu yn erbyn un rhif teitl a chyfeirnod Cofrestrfa Tir EF. Mae hyn yn ein galluogi i baru’ch cais i gyflymu gyda’r cais yn fwy effeithlon.
Os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol
Dylai trawsgludwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sydd â chyfrif porthol ddefnyddio ‘Application Enquiry�.
-
Yn ‘Application Enquiry�, dewiswch ‘Still need to contact us?�
-
Llenwch y manylion cysylltu priodol a dewiswch ‘Request an expedite�.
-
Dewiswch y rheswm am y cyflymu er mwyn cwblhau’r cais.
Ni allwch wneud cais i gyflymu gan ddefnyddio ‘Reply to requisition�.
Os na ddefnyddiwyd gweithiwr cyfreithiol proffesiynol, neu os ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol heb gyfrif porthol
Os nad ydych wedi defnyddio trawsgludwr neu gyfreithiwr, neu os nad oes gennych gyfrif porthol, defnyddiwch y ffurflen .
Updates to this page
-
We have updated our guidance on applying for an expedite to clarify that, if a delay in registration is causing legal, financial or personal problems, our criteria for expedition are met.
-
We have made clear we accept redacted documents that contain commercially sensitive information as evidence.
-
Added a link to our application processing times.
-
We have updated our guidance to clarify that the expedite (fast-track) process is available for residential and commercial applications, and where any kind of property transaction is at risk.
-
Added translation