Rhoi gwybod am allforion sydd wedi cyrraedd neu adael porthladd yn y DU ac na chafodd eu nodi yn CDS
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am allforion na chafodd eu nodi yn CDS wrth iddynt gyrraedd neu adael porthladd yn y DU.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF pan fo’ch nwyddau:
- yn cyrraedd porthladd yn y DU nad yw’n defnyddio system sydd wedi’i chysylltu â stocrestr ar gyfer allforion neu’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn agor tudalen Saesneg), ac nad oes llwythwr cymeradwy ar gael
- yn ymadael porthladd yn y DU nad yw’n defnyddio system sydd wedi’i chysylltu â stocrestr ar gyfer allforion neu’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn agor tudalen Saesneg), ac nad oes llwythwr cymeradwy ar gael
- yn nwyddau y gohiriwyd toll ecséis arnynt neu nwyddau o dan drwydded allforion unigolyn safonol (SIEL) (yn agor tudalen Saesneg) sy’n ymadael o’r lleoliadau arall:
- sy’n defnyddio system sydd wedi’i chysylltu â stocrestr ar gyfer allforion
- sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn agor tudalen Saesneg)
- lle mae llwythwr cymeradwy ar gael
- yn cael eu hallforio, ac ni chawsoch gliriad gan CThEF ymlaen llaw
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
-
Datganiad o Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (DUCR)
-
Prif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (MUCR) os cyfunwyd eich nwyddau i greu llwyth mwy o faint
-
manylion o’r lle yr ydych yn anfon yr allforyn iddo ac oddi yno
Mae’n rhaid i chi lenwi un o’r ffurflenni canlynol ar-lein, cadw copi ohoni a’i hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddangosir ar y ffurflen:
Ni allwch ddefnyddio ffurflen C1603 ar gyfer allforion anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon drwy wlad yn yr UE. Os oes gennych unrhyw broblemau gydag allforion anuniongyrchol, cysylltwch â’r ddesg gymorth System Rheoli Allforion yn: [email protected].
Bydd angen i chi anfon yr holl waith papur sy’n ategu’ch datganiad, er enghraifft:
-
unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau
-
anfonebau masnachol
-
dogfennau cludiant
-
tystiolaeth o allforio (ffurflen C1602 neu ffurflen C1603)
Anfon eich dogfennau
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Information about excise duty suspended goods or goods covered by a standard individual export licence (SIEL) that depart from other locations has been updated.
-
A Welsh translation has been added.
-
Information about using this service to tell HMRC about your goods has been updated.
-
Added translation