Cofrestru ar gyfer TAW drwy’r post
Sut a phryd i ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur i gofrestru busnes newydd, busnes sy’n bodoli eisoes, neu un yr ydych yn ei gymryd drosodd.
Dylai’r rhan fwyaf o fusnesau gofrestru ar gyfer TAW ar-lein. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau a grŵp o gwmnïau sy’n cofrestru o dan un rhif TAW.
Fodd bynnag, mae amgylchiadau penodol lle efallai y bydd angen i fusnes gofrestru gan ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur.
Pryd i gofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur. Mae’n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd angen i chi wneud hyn, gan gynnwys os ydych yn:
-
yn gwmni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sy’n cofrestru fel aelod cynrychiadol o grŵp TAW
-
yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforedig o dan rifau TAW gwahanol
-
yn gwneud cais i gofrestru partneriaeth tramor
-
yn awdurdod lleol, yn gyngor plwyf neu’n gyngor dosbarth
-
yn gwneud cais am eithriad rhag cofrestru
-
ymarferwr ansolfedd sy’n gwneud cais i gofrestru busnes
Gallwch hefyd gofrestru drwy’r post os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein oherwydd:
-
eich oedran, cyflwr iechyd, anabledd neu’ch lleoliad
-
rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
-
nid oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried rhesymau gwahanol pam na allwch chi gofrestru ar-lein a bod angen gwneud cais drwy’r post.
Sut i gofrestru drwy’r post
-
Cysylltwch â CThEF gan ddefnyddio’r llinell gymorth ar y dudalen Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis i ofyn am ffurflen VAT1 ar bapur.
-
Byddwn yn gofyn ambell gwestiwn i chi er mwyn cael gwybod pam fod angen ffurflen bapur arnoch.
-
Os ydym yn cytuno â’ch rhesymau, byddwn yn anfon y ffurflen bapur atoch. Os na fyddwn yn cytuno â’ch rhesymau, byddwn yn eich cyfeirio chi at y gwasanaeth digidol.
-
Llenwch y ffurflen bapur pan fydd yn eich cyrraedd.
-
Argraffwch a llenwch unrhyw ffurflenni angenrheidiol sydd wedi’u crybwyll yn adran ‘ffurflenni ychwanegol� y dudalen hon.
-
Anfonwch y ffurflen at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar ffurflen VAT1.
Dylech ond wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen y mae CThEF wedi’i hanfon atoch.
Defnyddiwch y nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi ffurflen VAT1.
Ffurflenni ychwanegol
Ar gyfer rhai gweithgareddau busnes, bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol a’i phostio gyda ffurflen VAT1.
Os ydych yn:
- gwneud cais am eithriad rhag cofrestru ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen gofyn am ffurflen VAT5EXC a’i llenwi
- cofrestru ar gyfer TAW ac yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol � llenwch ffurflen VAT98
- cofrestru grŵp o gwmnïau gyda rhifau TAW ar wahân � llenwch ffurflen VAT50/51 (yn agor tudalen Saesneg)
- fusnes yn yr UE sy’n gwerthu o bell i mewn i Ogledd Iwerddon � llenwch ffurflen VAT1A
- mewnforio nwyddau sydd werth mwy nag £90,000 i mewn i Ogledd Iwerddon o wlad yn yr UE � llenwch ffurflen VAT1B
- gwaredu asedion a’ch bod wedi hawlio ad-daliadau cyfarwyddeb arnynt � llenwch ffurflen VAT1C
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, bydd ceisiadau drwy’r post yn cymryd yn hirach i’w prosesu na cheisiadau ar-lein.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn amdani wrth brosesu’ch ffurflen. Gallai hyn achosi oedi.
Gwirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.
Darllenwch am yr hyn i’w wneud ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Updates to this page
-
Information about using form VAT5EXC to apply for exception from registering for VAT has been added.
-
Added 'insolvency practitioner applying to register a business' to the list of applicants who must use the paper form.
-
ʹapp VAT1 Notes have been updated in both English and Welsh.
-
ʹapp VAT1 Notes have been updated in both English and Welsh.
-
VAT threshold for importing goods into Northern Ireland has been updated.
-
ʹapp page has been updated because the process for applying for a paper VAT1 Application for registration form has changed.
-
ʹapp VAT1 Notes have been updated in both English and Welsh, the only change is to question 25 on page 11.
-
ʹapp VAT1 form has been updated so applicants only need to complete questions which apply to them.
-
Information about including a VAT 50-51 with your application has been added to the VAT1 help notes.
-
ʹapp information about completing the VAT2 form alongside your VAT1 application has been updated. Guidance and forms have also been updated with information about completing the VAT1.
-
Information about how to register for VAT by post using the VAT1 form has been updated.
-
ʹapp VAT1 form has been updated to include the VAT50/51 form with your application.
-
To register a VAT group you now only need to include the VAT50/51 form with your application.
-
Information has been updated about registering for VAT by post. Guidance and forms have also been updated with information about registering for VAT if you're moving goods into Northern Ireland from 1 January 2021.
-
We have added an updated VAT1 Welsh form and notes
-
English VAT1 form and notes have been updated
-
Added translation