Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol

Ffïoedd sy'n daladwy ar gyfer gwasanaethau pridiannau tir lleol.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol

Mae’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn grynodeb o Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021 (‘y Rheolau Ffïoedd�). Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn cyfeirio at Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 (‘y Rheolau�).

Gwasanaeth Gwneud cais trwy ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway Gwneud cais trwy ddefnyddio GOV.UK Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ffurflen gysylltu* Sut i dalu ffïoedd
Chwiliad swyddogol o’r gofrestr
(gan gynnwys cyhoeddi tystysgrif swyddogol chwiliad)
o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975

Nodyn: gweler Eithriad dim ffïoedd.
£15 £15 Ddim ar gael Ddim ar gael Debyd uniongyrchol lle mae cytundeb yn ei le rhwng y ceisydd sy’n gofyn am y gwasanaeth a Chofrestrfa Tir EF.

Cerdyn credyd neu ddebyd.
Cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Cerdyn credyd neu ddebyd.

Os yw’ch cais yn cael ei anfon trwy’r post: siec neu archeb bost wedi ei groesi ac yn daladwy i Gofrestrfa Tir EF.
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau
Dileu cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(6) o’r Rheolau (tystysgrif diffiniol wedi ei chyflwyno) Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau

*

Dim ffïoedd

Nid oes yn rhaid talu ffi ar gyfer:

  • cais i chwilio yn y gofrestr (chwiliad personol)
  • cais i gofrestru pridiant tir lleol (heblaw Hysbysiad Rhwystro Golau)
  • cais i amrywio neu ddileu cofrestriad (heblaw cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau)
  • cais am gopi o unrhyw ddogfen a restrir fel un a gedwir gan y cofrestrydd yn y manylion cofrestru ar gyfer Hysbysiad Rhwystro Golau, neu gais am gopi o unrhyw orchymyn llys neu eitem o ohebiaeth a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chofrestriad, neu gais o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 neu’r Rheolau
  • chwiliad swyddogol os ydych wedi talu am chwiliad swyddogol am yr un eiddo o fewn y 6 mis diwethaf

Sut i dalu ffïoedd

Gallwch dalu am wasanaethau trwy:

  • gerdyn credyd neu ddebyd
  • debyd uniongyrchol newidiol, os oes cyfrif E-wasanaethau busnes gennych
  • siec neu archeb bost, dim ond pan fydd post neu geisiadau wedi eu caniatáu (yn daladwy i ‘Gofrestrfa Tir EF�)

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Rheolau Ffïoedd yn pennu’r ffïoedd sy’n daladwy i’r cofrestrydd am wasanaethau yn ymwneud â’r pridiannau tir lleol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a Lloegr, ac maent yn rhagnodi pryd y mae’r ffïoedd yn daladwy a sut y maent i’w talu.

Dim ond pan gaiff gwasanaeth pridiannau tir lleol ar gyfer ardal ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF y daw’r Rheolau Ffïoedd i rym mewn ardal awdurdod lleol.

Am ragor o wybodaeth am y ffi, cysylltwch â ni gan .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2021 show all updates
  1. Update to the reasons where a fee is not payable. ʹapp fees also now apply to local authorities in Wales.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon