Amgryptio negeseuon ebost Cofrestrfa Tir EF
Sut i agor ac ateb ebost wedi ei amgryptio gan Gofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ffordd o gynyddu amddiffyniad ebost sensitif yw amgryptio ebost. Mae amgryptio yn ein helpu i warchod preifatrwydd ein cwsmeriaid, gweithwyr a phartneriaid. Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i amgryptio negeseuon ebost sy鈥檔 cynnwys gwybodaeth sensitif a anfonir i gyfeiriadau ebost y tu allan i Gofrestrfa Tir EF.
Oherwydd gwahaniaethau rhwng systemau gweithredu a chleientiaid post, efallai na fydd delweddau yn y canllaw hwn yn cyfateb yn union i鈥檙 hyn a welir gennych chi.
Cael ebost wedi ei amgryptio
Pan anfonir ebost wedi ei amgryptio atoch gan Gofrestrfa Tir EF, bydd yn ymddangos yn eich mewnflwch fel ebost arferol. Pan gliciwch ar yr ebost i鈥檞 agor, ni fydd y neges yn cael ei datgelu. Bydd yn rhaid ichi ddilysu eich hunan i weld ei gynnwys.
Pan gewch yr ebost wedi ei amgryptio, bydd yn edrych yn debyg i hyn yn eich mewnflwch.

Arbedwch yr atodiad 鈥榤essage.html鈥� i鈥檆h cyfrifiadur.
Ewch i鈥檙 lleoliad lle arbedwyd 鈥榤essage.html鈥� a chliciwch ddwywaith arno i鈥檞 agor.
Gofynnir ichi ddilysu鈥檆h hunan ar 么l hynny.
Gallwch wneud hyn naill ai trwy ddefnyddio cyfrif Microsoft neu gyfrinair un-tro.

Dewiswch 鈥楽ign-in鈥� os oes gennych gyfrif Microsoft sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cyfeiriad ebost, fel y gwelir.
Os nad oes gennych gyfrif Microsoft cysylltiedig, neu os ydych yn ansicr, dewiswch 鈥楿se a one-time passcode鈥�.
Mewngofnodi gyda chyfrif Microsoft
Os oes gennych gyfrif Microsoft neu os ydych yn ddefnyddiwr Office 365, dewiswch 鈥楽ign In鈥� a gofynnir ichi fewngofnodi gan ddefnyddio manylion eich cyfrif Microsoft (eich cyfeiriad ebost a chyfrinair Microsoft).

Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif Microsoft gan ddefnyddio naill ai eich manylion Microsoft eich hunan neu gyfrif gwaith neu ysgol Office 365.
Os ydych yn ansicr, dewiswch 鈥楧on鈥檛 want to sign in? Use a one-time passcode to view the message.鈥�
Mewngofnodi gyda chyfrinair un-tro
Ar 么l dewis 鈥楿se a one-time passcode鈥�, anfonir ebost atoch a fydd yn cynnwys cyfrinair unigryw.

Cop茂wch a gludwch y cyfrinair a anfonwyd atoch i鈥檙 blwch cyfrinair ar y dudalen we 鈥楨ncrypted Message鈥� i weld eich neges. Dim ond am 15 munud y mae鈥檙 cyfrinair hwn yn ddilys.

Darllen yr ebost
Unwaith ichi gael eich dilysu, cyflwynir cynnwys llawn yr ebost ichi.

Ateb yr ebost
I amgryptio eich ateb, dewiswch y saeth i lawr wrth ymyl y botwm 鈥楻eply鈥�. Gallwch ddewis 鈥楻eply All鈥�, 鈥楻eply鈥� neu 鈥楩orward鈥�.