Cael help i lenwi adran ‘cyfrannu at elusen� eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘cyfrannu at elusen� eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae’n bosibl y bydd unigolion yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau at elusen neu i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CASCs). Dysgwch ragor am ryddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen.
Cyn llenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch gyfrifo faint o ryddhad treth y gallwch ei hawliom (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cyfrannu at elusen, neu’n cynnig rhodd o dir, eiddo neu gyfranddaliadau iddi.
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn darparu gwybodaeth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Darllenwch ragor am ryddhad treth ar gyfer cyfrannu at elusen (taflen gymorth Hunanasesiad HS342) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cyfrannu at elusen drwy’r dulliau canlynol:
- Rhodd Cymorth
- Rhoi Trwy’r Gyflogres
- rhoddion o gyfranddaliadau a gwarantau
- rhoddion o dir neu adeiladau
Fideo YouTube CThEF
Gwyliwch recordiad o weminar ynglŷn â rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.
.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
incwm arall, fel pensiynau gwaith
-
rhyddhadau treth, gan gynnwys taliadau i elusennau