Cael help gydag Enillion Cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘Enillion Cyfalaf� eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw a wnewch pan fyddwch yn gwerthu rhywbeth sydd wedi cynyddu mewn gwerth.
Cyn i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch wirio yr hyn yr ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf arno a gwirio a oes angen i chi dalu.
Os gwnaethoch werthu cryptoasedion (gan gynnwys crypto-arian neu bitcoin), neu eu rhoi i ffwrdd, gallwch wirio a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arnynt (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes angen i chi dalu treth ar ôl gwerthu ased, gallwch ddysgu sut i roi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu.
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys sut i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys i gael rhyddhad
-
cyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (HS275) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Rhyddhad Man Preswylio Preifat (HS283) (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhyddhad treigl ased busnes (HS290) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf ar roddion a thrafodion tebyg (HS295) (yn agor tudalen Saesneg)
-
y terfyn ar ryddhadau Treth Incwm (HS204) (yn agor tudalen Saesneg)
Treth Enillion Cyfalaf ar gyfranddaliadau, buddsoddiadau a dyledion
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Treth Enillion Cyfalaf a chyfranddaliadau (HS284) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf a chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion (HS287) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf a’r Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau (HS297) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf ac ymddiriedolaeth cyfalaf menter (HS298) (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhyddhadau o dan y Cynllun Buddsoddiad Menter ‘Seed� (HS393) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf a dyledion (HS296) (yn agor tudalen Saesneg)
Treth Enillion Cyfalaf ar dir, eiddo a meddiannau personol
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Treth Enillion Cyfalaf ar dir a phrydlesau (HS292) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf a meddiannau personol (HS293) (yn agor tudalen Saesneg)
Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
Taflenni cymorth eraill ynghylch Enillion Cyfalaf
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Treth Enillion Cyfalaf, partneriaid sifil a pharau priod (HS281) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf pan fydd rhywun yn marw (HS282) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Treth Enillion Cyfalaf a phartneriaethau (HS288) (yn agor tudalen Saesneg)
Fideos YouTube CThEF
Gwarediadau eiddo
Gwyliwch fideo ynghylch sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo, a’i thalu.
.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
ar gyfer pwy y mae Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo yn berthnasol
-
yr hyn i’w wneud os nad ydych yn breswylydd yn y DU
-
sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo, a’i thalu
Gwariant caniataol
Gwyliwch fideo ynghylch y gwariant caniataol y gallwch ei hawlio.
.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
gwariant caniataol
-
costau na chaniateir
-
rheolau arbennig ar gyfer defnyddio’r gwerth marchnadol fel y gost
Cryptoasedion
Gwyliwch fideo ynghylch sut y mae trafodion crypto yn cael eu trethu ar gyfer unigolion.
.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
categorïau o gryptoasedion
-
mathau o warediadau
-
cael crypto
-
rhoi gwybod am enillion neu incwm o gryptoasedion
Ffurflen Dreth ar bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalennau atodol SA108 er mwyn cofnodi colledion ac enillion cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth SA100.