Gwiriwch pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW
Gwirio pryd y gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig i ddatgan ac adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW.
Mae rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW yn golygu y byddwch yn datgan ac yn adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW, yn hytrach na’i thalu ymlaen llaw wrth fewnforio’r nwyddau a’i hadennill yn hwyrach. Gelwir hefyd yn ‘cyfrifyddu Taw ohiriedig�.
Bydd y rheolau arferol ynghylch pa TAW y gallwch ei hadennill fel treth fewnbwn yn berthnasol.
Pwy all ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig
Mae’n rhaid bod eich busnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU er mwyn defnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig.
Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer nwyddau rydych yn eu mewnforio i’r lleoedd canlynol:
- Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) o unrhyw le y tu allan i’r DU
- Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU a’r UE
Nid oes angen unrhyw ganiatâd i roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.
Personau sy’n agored i TAW, ond sydd heb eu sefydlu yn y DU
Os ydych chi’n berson sy’n agored i TAW ond sydd heb ei sefydlu yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â thollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Yn ogystal, bydd angen iddo gwblhau eich datganiad mewnforio.
Os ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r person sy’n delio â thollau ar eich rhan fod yn rhaid iddo wneud y ddau beth hyn:
- dewis yr opsiwn hwn ar eich datganiad mewnforio
- nodi eich manylion chi fel y derbynnydd
Os yw rhywun yn mewnforio nwyddau ar eich rhan
Gallwch gael person neu fusnes i fewnforio nwyddau ar eich rhan. Er enghraifft:
- trefnydd anfon nwyddau
- asiant tollau
- brocer
- cwmni cludo brys
Pan fydd rhywun yn mewnforio nwyddau ar eich rhan, bydd angen i chi roi gwybod iddo, yn ysgrifenedig, a ydych am ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer y mewnforion hynny. Mae’n rhaid iddo gael y cadarnhad ysgrifenedig hwn cyn iddo allu parhau gyda’r datganiad mewnforio.
Os oes gennych rhywun eisoes sy’n mewnforio nwyddau ar eich rhan, dylech gysylltu ag ef er mwyn rhoi gwybod iddo a ydych am ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer mewnforion. Dylech gadw cofnod ysgrifenedig o’ch cyfarwyddiada.
Pan fydd cyflenwr yn trefnu i rywun fewnforio nwyddau ar eich rhan
Gallwch hefyd brynu nwyddau gan gyflenwr sy’n trefnu i berson neu fusnes fewnforio a dosbarthu’r nwyddau ar eich rhan.
Mae’n rhaid i chi gytuno â’r cyflenwr ynghylch sut yr ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio. Y rheswm am hyn yw fel gall y cyflenwr roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i’r person neu’r busnes sy’n mewnforio’r nwyddau er mwyn nodi’r cofnod cywir ar y datganiad mewnforio.
Mae’n rhaid iddo gael y cyfarwyddiadau ysgrifenedig hyn cyn iddo allu gwneud y datganiad mewnforio. Cadwch gofnod ysgrifenedig o’r hyn y cytunwyd arno gyda’r cyflenwr.
Bydd hefyd angen i chi roi’ch rhif EORI.
Bydd y mewnforyn yn ymddangos ar eich datganiad misol (yn agor tudalen Saesneg) yn y ffordd arferol.
Gwiriwch eich tystysgrif TAW mewnforio (C79) a’ch datganiadau cyfrifyddu TAW ohiriedig gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, er mwyn sicrhau bod eich holl fewnforion wedi cael eu cynnwys. Dylai busnesau wirio eu dangosfwrdd ariannol ar gyfer gweld eu datganiadau.
Pryd y gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig
Gallwch wneud hyn os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
- mae’r nwyddau rydych yn eu mewnforio’n cael eu defnyddio yn eich busnes ac mae gennych yr hawl i gael gwared ohonynt (fel y perchennog fel arfer)
- rydych yn cynnwys eich rhif cofrestru TAW ar eich datganiad tollau
Os ydych yn mewnforio nwyddau at ddibenion busnes a di-fusnes
Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW os yw’r canlynol yn wir:
- bydd y nwyddau yn cael eu defnyddio at ddibenion busnes a di-fusnes (yn agor tudalen Saesneg)
- ar adeg y mewnforio, nid ydych yn gwybod os bydd y nwyddau yn cael eu defnyddio at ddibenion busnes
Gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig pan fyddwch yn mewnforio nwyddau yr ydych yn gwybod bod eu defnydd at ddibenion di-fusnes yn unig. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i chi fod yn gorff sy’n gymwys i adhawlio TAW mewnforio drwy gynllun ad-daliad TAW (yn agor tudalen Saesneg). Pan fyddwch yn cwblhau eich datganiad mewnforio, nodwch eich bod yn gwneud taliad ar unwaith, neu yn defnyddio cyfrif gohirio tollau.
Nwyddau sydd mewn gweithdrefn arbennig
Os ydych yn datgan nwyddau ar weithdrefn arbennig y tollau (yn agor tudalen Saesneg), gallwch nodi eich bod yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn cyflwyno’r datganiad sy’n eu rhyddhau i gylchrediad rhydd. Bydd hyn yn berthnasol ar gyfer y gweithdrefnau arbennig canlynol:
- warysu tollau
- prosesu mewnol
- mynediad dros dro
- defnydd terfynol
- prosesu allanol
- gohirio tollau
Dysgwch am yr hyn i’w wneud o ran masnachu a symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon ac oddi yno (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon â’r UE.
Nwyddau ecséis
Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn rhyddhau nwyddau ecséis i’w defnyddio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg). Gelwir hyn hefyd yn ‘rhyddhau i’w defnyddio gartref�.
Mae hyn yn cynnwys pan fydd nwyddau’n cael eu rhyddhau o warws ecséis ar ôl bod o dan ohiriad tollau ers iddynt gael eu mewnforio.
Mewnforion sy’n cael eu dosbarthu gan Grŵp y Post Brenhinol
Os yw eich busnes yn cael nwyddau drwy’r post mewn llwythi sydd werth mwy na £135 gan ddefnyddio Grŵp y Post Brenhinol (gan gynnwys Parcelforce, pan nad ydynt yn gweithredu fel cwmni cludo brys) ni allwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.
Mae Grŵp y Post Brenhinol yn cynnig cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer gwasanaethau masnachol, os yw’r mewnforiwr yn gwneud cais amdano.
Os nad ydych yn gwybod beth yw gwerth tollau llawn y nwyddau
Byddwch yn dal i allu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, hyd yn oed os na allwch gadarnhau gwerth tollau llawn y nwyddau rydych yn eu mewnforio.
Er mwyn gwneud hyn, dylech wneud y canlynol:
-
Defnyddio gwarant (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn talu am y swm anhysbys o TAW.
-
Nodwch y byddwch yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer y swm yr ydych yn gwybod amdano.
Sut i ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar eich datganiad mewnforio
Pan fyddwch yn cwblhau eich datganiad mewnforio, gallwch ddewis rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Ni allwch newid y ffordd yr ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich datganiad mewnforio unwaith y byddwch wedi ei gyflwyno.
Mae angen i chi nodi eich rhif cofrestru TAW ar lefel y pennyn yn Elfen Data 3/40 (ni ddylech ddefnyddio dull talu G yn Elfen Data 4/8).
Bydd TAW yn cael ei chofnodi yn erbyn eich rhif EORI. Bydd hyn ar lefel datganiad yn unig.
Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall
Os ydych wedi’ch awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’i rif EORI neu ei rif cofrestru TAW ar y datganiad mewnforio.
Os ydych yn mewnforio nwyddau mewn llwythi sydd werth £135 neu lai
Mae rheolau gwahanol ar waith wrth ymdrin â nwyddau mewn llwythi sydd werth £135 neu lai.
Dysgwch am yr ymdriniaeth o TAW ar gyfer nwyddau sydd wedi’u mewnforio ac sydd wedi’u gwerthu:
- i gwsmeriaid sydd yn y DU, gan ddefnyddio marchnadoedd ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
- yn uniongyrchol i gwsmeriaid yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)
Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol ar gyfer mewnforio nwyddau ecséis. Gallwch ddewis roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer mewnforio llwythi nwyddau ecséis o unrhyw werth.
Os ydych yn mewnforio nwyddau masnachol (nwyddau mewn bagiau) i mewn i Brydain Fawr neu i Ogledd Iwerddon
Os ydych yn gymwys ar gyfer gwneud datganiad syml ar-lein, a’ch bod chi’n dewis gwneud hynny yn lle, ni fyddwch yn gallu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.
Dysgwch ragor am y canlynol:
- dod â nwyddau masnachol i mewn i Brydain Fawr (yn agor tudalen Saesneg) yn eich bagiau
- dod â nwyddau masnachol i mewn i Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg) yn eich bagiau
Yr hyn i’w wneud nesaf
Os gwnaethoch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar eich datganiad mewnforio llawn, bydd angen i chi roi cyfrif am TAW mewnforio pan fyddwch yn llenwi’ch Ffurflen TAW.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
»Ê¹ÚÌåÓýapp section 'When you must account for import VAT on your VAT Return' has been removed, as this procedure is no longer mandatory. Information about using another person or business to import goods for you has been updated, as they must now have written permission to use postponed VAT accounting.
-
Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.
-
Existing arrangements for customs checks on goods from Ireland will continue after 1 January 2022. Changes made to "When you must account for import VAT on your VAT return" and "How to complete your customs declaration account for import VAT on your VAT Return".
-
Clarification that postponed VAT accounting will be available permanently. A checklist has been added to help navigation, and the details you may need to complete your customs declaration using CHIEF have been updated.
-
»Ê¹ÚÌåÓýapp 'If you import goods for business and non-business purposes' section has been updated to say you can account for import VAT on your VAT return if you import goods that will be used solely for a non-business purpose, and you are a body that is eligible to reclaim import VAT through a VAT refund scheme . »Ê¹ÚÌåÓýapp 'How to complete your customs declaration to account for import VAT on your VAT Return' section has also been updated with information about selecting how to account for import VAT on your customs declaration.
-
»Ê¹ÚÌåÓýapp end date when you must account for import VAT on your VAT Return if you delay your customs declaration or use a simplified customs declaration has been changed from 30 June 2021 to 31 December 2021.
-
»Ê¹ÚÌåÓýappre have been multiple changes to this guidance to help readers understand what they need to do and how to do it.
-
Information has been added about accounting for VAT if you do not know the full customs value of goods and using someone to import goods on your behalf.
-
Information on Non-established taxable persons and guidance on how to complete your declaration if you are accounting for import VAT on your VAT return has been added.
-
Added Welsh translation.
-
First published.