Apelio yn erbyn cosb cyfryngwr cyflogaeth
Apelio yn erbyn cosb os yw eich adroddiad cyfryngwr cyflogaeth yn hwyr, yn anghyflawn neu’n anghywir.
Os ydych yn gyfryngwr cyflogaeth sydd ddim yn gyfrifol am weithredu TWE ar gyflog gweithiwr, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- anfon adroddiadau gyda manylion yr holl weithwyr yr ydych yn eu rhoi â chleientiaid
- sicrhau bod eich adroddiad yn gywir, yn gyflawn, ac yn cael ei gyflwyno mewn pryd, neu efallai y byddwch yn cael hysbysiad o gosb
Mae’n rhaid i chi anfon adroddiadau at CThEF o leiaf unwaith pob 3 mis.
Dysgwch ragor am sut i anfon adroddiadau cyfryngwr cyflogaeth at CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cael hysbysiad o gosb
Os nad ydych yn cytuno bod cosb yn ddyledus, gallwch apelio i CThEF amdani. Bydd angen y manylion sydd ar yr hysbysiad o gosb yr ydych wedi’i gael arnoch er mwyn gwneud hyn.
Cyn i chi apelio, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeirnod y cwsmer
- cyfeirnod y tâl � gallwch hefyd ddod o hyd i hwn yn eich cyfrif Porth y Llywodraeth
- blwyddyn dreth yr apêl
- cyfnod adrodd yr apêl
- y rheswm dros yr apêl, ac unrhyw wybodaeth ategol
Apelio nawr
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd. Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn atodi eich hawliad a’i e-bostio atom.
Nid yw’r ffurflen hon yn cael mynediad at eich cyfrif Cyfryngwyr Cyflogaeth drwy Borth y Llywodraeth. Mae’n casglu ac yn cynhyrchu apêl y gallwch ei anfon i CThEF drwy e-bost.
Os oes angen i chi apelio yn ysgrifenedig
Os oes angen i chi apelio yn ysgrifenedig, anfonwch eich apêl at:
EICU
Employment Status & Intermediaries
STEPS S1250
Newcastle Upon Tyne
NE98 1ZZ
Ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl
Byddwn yn:
- adolygu’ch apêl
- ymateb i’ch apêl cyn pen 30 diwrnod o’i gael
- gohirio unrhyw gamau i gasglu’r tâl cosb yn ystod y broses apelio
Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad eich cwyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- gwneud cais am adolygiad annibynnol
- cyflwyno mwy o dystiolaeth
Unwaith y byddwn wedi dod i benderfyniad terfynol, ac nad oes hawl bellach i apelio, bydd CThEF yn mynd ati i gasglu’r ddyled sydd heb ei thalu.
Sut i dalu swm yr hysbysiad o gosb
Gallwch dalu swm yr hysbysiad o gosb ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon. Gallwch gysylltu â:
Taliadau Cosb
Ffôn: 0300 200 3854 (opsiwn 5)
Pan y byddwch yn ffonio, bydd angen yr hysbysiad o gosb arnoch.