Anerchiad

Yr achos dros weld Cymru mewn UE Ddiwygiedig

Alun Cairns: "Gadewch inni sicrhau bod ein dylanwad a鈥檔 llais yn cael ei glywed, a hynny gyda balchder a hyder"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
皇冠体育app Rt Hon Alun Cairns

Cyflwyniad

Foneddigion a Boneddigesau, diolch o galon i chi am fy ngwahodd i yma heddiw i roi fy araith fawr gyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Ac rwy鈥檔 hynod falch fy mod yn gallu gwneud hynny yma yn Abertawe - fy ninas enedigol, mor agos at bentref Clydach lle cefais fy magu.

Ac mae鈥檔 arbennig iawn siarad yng nghartref yr Elyrch a鈥檙 Gweilch.

Rydym hefyd wrth gwrs yng Ngland诺r, yn agos at galon treftadaeth ddiwydiannol Abertawe. Dyma lle agorodd y gwaith copr cyntaf yn 1717 ac un o weithiau dur mwyaf y byd yn yr 1870au.

O鈥檌 dechreuad fel man lle sefydlodd y Llychlynwyr hyd at ei r么l hollbwysig yn y chwyldro diwydiannol, mae Abertawe wedi bod yn ddinas hyderus ac uchelgeisiol, sydd wedi meithrin cysylltiadau 芒鈥檙 byd ehangach.

A dyna beth rwyf am s么n amdano fore heddiw - fy ngweledigaeth o genedl Gymreig sy鈥檔 uchelgeisiol, yn hyderus ac yn flaengar, sy鈥檔 manteisio ar gyfleoedd ar gyfer adfywiad economaidd.

Fel Ysgrifennydd Gwladol, rwy鈥檔 awyddus iawn i weld pethau da鈥檔 digwydd yn Abertawe.

Lle mae Llywodraeth y DU yn sbarduno cynlluniau rhanbarthol cyffrous fel Bargen Ddinesig Abertawe a鈥檌 syniadau arloesol am ryngrwydi ynni, lles a thechnoleg鈥�.

I drydaneiddio鈥檙 brif lein o Abertawe i Lundain fel rhan o鈥檙 buddsoddiad mwyaf yn ein rheilffyrdd ers oes Fictoria; neu

Y straeon llwyddiant mewn busnes rhyngwladol fel Lumishore yn Abertawe鈥� enillwyr Gwobr Fenter y Frenhines yn ddiweddar - cwmni datblygu goleuadau LED ar gyfer cychod sy鈥檔 allforio 40% o鈥檜 cynnyrch i Ewrop.

Heddiw, mae Abertawe yn ddinas uchelgeisiol flaengar sy鈥檔 meithrin mwy a mwy o gysylltiadau ag Ewrop a鈥檙 byd.

Ble well, foneddigion a boneddigesau, ar gyfer y weledigaeth rwyf am ei chyflwyno heddiw

Gweledigaeth o wlad sy鈥檔 uchelgeisiol ac yn edrych at allan鈥�.

Er mwyn i hyn barhau, mae angen i ni fod yn rhan gref o鈥檙 Deyrnas Unedig ond yn ymgysylltu hefyd ag Ewrop a鈥檙 byd ehangach.

A heddiw, hoffwn esbonio pam mae hyn mor bwysig drwy nodi enghreifftiau, yn lleol ac yn genedlaethol, sy鈥檔 dangos pam mae cael mynediad i鈥檙 farchnad Ewropeaidd sengl ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd mor hanfodol.

Heriau Cymru ei hun

Wrth gwrs, yma yng Nghymru rydym yn wynebu ein heriau ein hunain ar hyn o bryd.

Mae gennym argyfwng yn ein diwydiant dur. Byddwch yn gwybod bod llawer yn cael ei wneud a鈥檌 gynnig gan Lywodraeth y DU i ddenu prynwr ac i gefnogi diwydiant sydd mor bwysig i ni鈥檔 lleol ac yn genedlaethol.

Dylwn bwysleisio ar y cychwyn na allaf ddweud llawer am ddur oherwydd rydym yn dilyn proses鈥�. Proses werthu lle mae鈥檔 rhaid inni barchu cyfrinachedd y ddau barti. Ond ar bob cam - a hyd yn oed cyn i鈥檙 materion ddod yn gyhoeddus, gadewch i mi ddweud fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda Tata mewn cysylltiad 芒 phroses werthu. Ar wahanol gamau, rydym wedi gorfod aros yn ddistaw i barchu鈥檙 broses honno, er gwaetha鈥檙 galwadau am ddatganiadau cyhoeddus.

Ond gadewch imi esbonio un camsyniad mewn perthynas 芒鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu diwydiant dur Cymru.

Rydym yn gweithio mewn cyd-destun lle mae gormod o gyflenwadau o ddur yn y byd.
Credaf yn gryf fod ein diwydiant dur yn well fel rhan o鈥檙 UE - fel bloc gallwn weithredu yn erbyn y broses o ddympio dur yn llawer mwy effeithiol nag y gallem ar ein pen ein hunain a chael y fargen orau i鈥檔 diwydiant dur yn eu marchnad fwyaf.

Er na ellir gwarantu dim, does dim amheuaeth y mae鈥檔 fwy tebygol o lawer y byddwn yn canfod y prynwr hwnnw ac yn amddiffyn ein diwydiant os ydym yn aelod o鈥檙 UE.

Gadewch imi esbonio pam:

Yn gyntaf, mae mynediad i farchnad yr UE yn hanfodol i unrhyw gynhyrchwr dur - gyda 69% yn cael ei allforio i Ewrop y llynedd.

Yn ail, mae鈥檙 gweithredu ar y cyd ledled Ewrop i amddiffyn ein diwydiant rhag y broses o ddympio dur wedi arwain at ostyngiad mawr yn y mewnforion dur i鈥檙 UE.

Rydym wedi pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu鈥檔 fwy cadarn ac yn gyflymach yn erbyn dympio annheg ac rydym yn falch fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrando ac wedi gweithredu ar y mater.

Bellach, mae 37 o fesurau diogelu masnach ar waith mewn perthynas 芒 mewnforio cynnyrch dur, gyda naw ymchwiliad yn parhau. Mae鈥檙 ffeithiau hyn yn siarad drostynt eu hunain. Y tu allan i鈥檙 Undeb Ewropeaidd, ni fyddem ychwaith yn gallu amddiffyn ein hunain gystal rhag cystadleuaeth annheg oddi wrth drydydd gwledydd. O鈥檙 37 mesur yn erbyn cynhyrchion dur, mae 16 ar fewnforion o Tsieina.

O ganlyniad, mae mewnforion o fariau atgyfnerthu a rhodenni weiren wedi gostwng 99% yr un.

Yn drydydd, mae bod yn aelod o鈥檙 UE yn hanfodol i ddenu buddsoddwyr oherwydd manteision cael un farchnad o 28 o wledydd.

Ac yn bedwerydd - dychmygwch y camau y gallai aelod-Wladwriaethau eraill eu cymryd petaem y tu allan i鈥檙 Undeb Ewropeaidd.

Byddem yn wynebu鈥檙 un tariffau sydd bellach yn cael effaith gadarnhaol ar ddympio rhad; a byddai cystadleuwyr Tata yn Ewrop yn naturiol yn llunio ymateb marchnad yr Undeb Ewropeaidd i fod yn gydnaws 芒鈥檜 gweithrediadau hwy, yn hytrach nag un a fydd yn ein cynnwys ni.

Ac mae unrhyw un sy鈥檔 gwybod unrhyw beth am ddur - Tata, yr undebau, buddsoddwyr neu (feiddia i ddweud) y llywodraeth - i gyd yn cydnabod y cyfleoedd a geir gan y farchnad sengl - trafod o gwmpas y bwrdd, yn hytrach na bod yn wylwyr yn disgwyl effaith eu penderfyniadau hwy ar ein diwydiant a鈥檔 swyddi.
Felly mae鈥檙 rhagolygon y bydd swyddi鈥檔 cael eu cadw ym Mhort Talbot ac yng ngweithfeydd eraill Tata yn Shotton yng ngogledd Cymru, yn Llanwern ac yn Nhrostre yn fwy lleol yn llawer cryfach oherwydd ein bod yn aelod o鈥檙 UE.

Allforion o Gymru a鈥檙 Farchnad Sengl

Yn ogystal 芒 chefnogi ein Diwydiant Dur, mae鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i economi Cymru yn ehangach.

Mae鈥檙 farchnad sengl yn rhoi mynediad i fusnesau Prydain at 500 miliwn a mwy o gwsmeriaid - wyth gwaith maint marchnad y DU.

Mae busnesau yng Nghymru eisoes yn cydnabod gwerth y cyfleoedd hyn - mae nifer y busnesau sy鈥檔 allforio yng Nghymru yn tyfu chwe gwaith yn gynt na鈥檙 DU yn gyffredinol.

Does dim ond rhaid i chi edrych ar y ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2014. Roedd gwerth allforion Cymru yn 拢12.2Bn, sydd gyfwerth 芒 拢4,300 y person, gyda鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn derbyn 43% o holl allforion Cymru ac 11% o holl allbwn Cymru.

Os oedd unrhyw amheuaeth, yr Undeb Ewropeaidd yw partner masnachu mwyaf Cymru ac yn anadl einioes 100,000 o swyddi yma yng Nghymru.

Yr Undeb Ewropeaidd fel Sbardun i Fuddsoddi

Mae bod yn aelod o鈥檙 Undeb Ewropeaidd hefyd yn sbarduno buddsoddi - ystyriwch straeon llwyddiant cwmn茂au fel Toyoda Gosei, dafliad carreg o鈥檙 fan hon a lle bu鈥檙 Prif Weinidog ar ymweliad ychydig wythnosau yn 么l; Airbus ym Mrychdyn neu Toyota ar Lannau Dyfrdwy.

Mae Airbus yn gartref i un o ffatr茂oedd gweithgynhyrchu mwyaf y DU. Mae safle Brychdyn yn cyflogi dros 6,000 o bobl ac mewn blynyddoedd diweddar mae wedi darparu oddeutu 拢100 miliwn y flwyddyn mewn cyflogau i weithwyr Cymru.

Mae wedi gwario oddeutu 拢120 miliwn y flwyddyn drwy ei gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

A dros y degawd diwethaf, mae safle Airbus wedi gweld buddsoddiadau sylweddol o dros 拢2 biliwn mewn gwelliannau i seilwaith a chyfleusterau.

Mae鈥檔 rhan allweddol o economi Prydain, yn gwneud adenydd tra thechnegol ar gyfer holl awyrennau masnachol Airbus, fel rhan o gwmni byd-eang llawer mwy.

Mae鈥檙 gwaith hyfedr a gwerth uchel hwn yn dibynnu ar Brydain yn aros yn gystadleuol yn y byd busnes.

Mae Airbus ei hun wedi dweud bod ein haelodaeth yn allweddol i鈥檙 cwmni i鈥檞 alluogi i gefnogi buddsoddi, hwyluso twf ac ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant yn y DU.

Dywedodd hyd yn oed Paul Kahn, Llywydd Airbus: 鈥淧etai鈥檙 amodau economaidd ym Mhrydain yn llai ffafriol ar gyfer busnes ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd nag mewn rhannau eraill o Ewrop, neu y tu hwnt, a fyddai Airbus yn ailystyried buddsoddi yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol? Byddai, yn bendant.鈥�

Ac fel y sector awyrofod, mae cynhyrchu cerbydau yn sector sy鈥檔 ffynnu ac yn ehangu o fewn economi Cymru. Mae鈥檔 ddiddorol nodi bod Sunderland bellach yn allforio mwy o geir na鈥檙 Eidal i gyd, ac mae Cymru yn rhan hanfodol o鈥檙 gadwyn gyflenwi hon. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y sector i econom茂au lleol ledled y DU.

Mae 18,000 o bobl yn gwneud rhannau ceir yng Nghymru a gyda鈥檌 gilydd maent yn cael t芒l o ryw 拢500m y flwyddyn.

Mae鈥檔 ddiwydiant sy鈥檔 rhoi 拢3.3bn i economi Cymru.

Roeddwn yn falch iawn fod Aston Martin wedi atgyfnerthu safle Cymru fel arloeswr ac arweinydd yn y sector modurol, gyda buddsoddiad a sicrhawyd wrth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio.

Mae gan Toyota, y cwmni sydd wedi gwerthu鈥檙 nifer mwyaf o geir yn y byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bresenoldeb sylweddol yng Nghymru.

Mae eu ffatri ar Lannau Dyfrdwy yn cyflogi 540 o bobl, ac mae鈥檔 creu 950 o injans bob diwrnod sy鈥檔 cael eu hallforio yn rhyngwladol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y cwmni fuddsoddiad pellach o 拢7 miliwn yn eu ffatri yng Ngogledd Cymru - enghraifft arall o ffatri yng Nghymru yn sicrhau buddsoddiad oherwydd llwyddiant ei weithrediadau presennol.

Mae buddsoddiadau fel hyn yn Toyota yn hollbwysig i鈥檔 heconomi. Maent yn pwysleisio dro ar 么l tro pa mor bwysig ydy鈥檙 farchnad sengl i鈥檞 presenoldeb a鈥檜 gweithrediadau; gan ddweud yn benodol, 鈥淏od yn aelod o鈥檙 UE sydd orau i鈥檔 gweithrediadau 鈥︹�. a鈥檔 cystadleurwydd hirdymor.鈥�

Dim ond dwy enghraifft ydy Airbus a Toyota o鈥檙 hyn y mae angen i Gymru wneud mwy ohono - bod yn uchelgeisiol, yn hyderus ac yn edrych at allan.

Mae鈥檙 cwmn茂au hyn yn gweithredu mewn diwydiannau byd-eang y mae eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu i fod yn gystadleuol. Mae eu llwyddiant wedi鈥檌 seilio ar fodel busnes integredig, gyda鈥檙 gallu i symud cynnyrch, pobl a syniadau o gwmpas Ewrop heb unrhyw gyfyngiadau.

Mae cwmn茂au fel hyn sy鈥檔 buddsoddi yng Nghymru yn sbarduno twf mewn cadwyni cyflenwi yn ogystal 芒鈥檙 miloedd o swyddi sy鈥檔 cael eu creu鈥檔 uniongyrchol ganddynt. Allwn ni fforddio peryglu hynny?

Mae llawer o gadwyni cyflenwi yn elwa o fuddsoddiadau o鈥檙 fath sydd, yn eu tro, yn creu cyfoeth a ffyniant. Gallent fod yn fusnesau peirianneg neu鈥檔 gwmn茂au trydanol bach, fel y rhai yr ymwelais 芒 nhw鈥檔 ddiweddar sy鈥檔 cyflenwi TATA, i鈥檙 cwmn茂au mwy hynny sy鈥檔 cyflenwi Airbus a Toyota.

Ystyriwch Toyoda Gosei,- heb fod yn bell o鈥檙 fan hon. Mae cyflenwr cydrannau ceir y mae ei berchennog yn dod o Japan, wedi buddsoddi dros 拢65 miliwn yn eu safle yng Ngorseinon.

Mae gweithlu鈥檙 cwmni wedi tyfu o 13 yn unig yn 2010 i dros 600 heddiw, a bellach maent yn cyflenwi Nissan, BMW, Jaguar Land Rover, a Toyota.

Mae hyn yn dangos yn glir sut mae cwmn茂au mawr o rannau eraill o鈥檙 DU yn cael effaith leol fawr. A gellid dweud yr un peth am Airbus ar raddfa ryngwladol. Pencadlys yn Toulouse ond yn gwmni mawr yma yng Nghymru.

Mae Ewrop hefyd yn cynnig nodweddion eraill sy鈥檔 cefnogi buddsoddiadau eraill hefyd. Ystyriwch Fanc Buddsoddi Ewrop. Dyma sefydliad benthyca mwyaf y byd a 28 aelod-Wladwriaethau鈥檙 Undeb Ewropeaidd sy鈥檔 berchen arno. Maent yn codi鈥檙 rhan fwyaf o鈥檜 hadnoddau benthyca ar y marchnadoedd cyfalaf rhyngwladol drwy fondiau - mae eu sg么r rhagoriaeth yn fodd iddynt roi benthyg am gost is.

Yn 2015 darparwyd 拢5.6 biliwn ganddynt i gefnogi dros 拢16 biliwn o fuddsoddiad yn y DU - record o flwyddyn.

Yng Nghymru, maent wedi cefnogi buddsoddi mewn tai cymdeithasol, trafnidiaeth, ynni, d诺r ac addysg ers deugain mlynedd a mwy.

Yn fwyaf diweddar, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi鈥檔 helaeth yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Norgine yn Hengoed.

Ond roedd y banc hefyd yn allweddol i un o鈥檙 buddsoddiadau mwyaf cyffrous ar ein carreg drws - campws newydd Prifysgol Abertawe - campws y Bae.

Dyma gampws newydd gwych gwerth 拢450m, sy鈥檔 lletya鈥檙 Ysgol Reolaeth a鈥檙 Coleg Peirianneg sy鈥檔 dal i dyfu. Roedd yn brosiect a sicrhaodd 拢40 miliwn o fuddsoddiad gan yr UE. Yn 2014, dywedodd yr Is-ganghellor: Y rhaglen hon i ddatblygu鈥檙 campws anferth yw鈥檙 prosiect economi wybodaeth mwyaf i gael ei arwain gan brifysgol yn y DU ac yn un o鈥檙 enghreifftiau gorau yn Ewrop. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth ariannol gan Fanc Buddsoddi Ewrop a wfftiodd y ddadl fod y prosiect yn rhy fawr i Gymru鈥�.

Mae鈥檔 un o brosiectau mwyaf yr economi wybodaeth yn Ewrop, sy鈥檔 darparu cyfleoedd ymchwil ar y cyd rhwng diwydiant a鈥檙 byd academaidd, ac sy鈥檔 cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Ni fyddai鈥檙 datblygiad wedi bod yn bosibl heb gymorth ariannol o鈥檙 fath.

Amcangyfrifir bod effaith economaidd adeiladu campws y Bae ei hun yn fwy na 拢3 biliwn.

Yr UE yn Cefnogi Addysg Uwch

Ac mae r么l Ewrop ym maes Addysg Uwch yn llawer ehangach.

Mae buddsoddiadau blaengar wedi鈥檜 gwneud mewn Prifysgolion ledled Cymru. Mae gennym sector addysg uwch sy鈥檔 werth un biliwn o bunnoedd a hwnnw鈥檔 sector sy鈥檔 ffynnu. Mae鈥檙 sefydliadau hyn yn cynnig rhai o鈥檙 llwybrau gorau allan o dlodi i unigolion ac i wella cynhyrchiant ein gwlad.

Mae gan Ewrop r么l bwysig yn dod 芒鈥檙 canlynol at ei gilydd - rhwydweithiau Addysg Uwch, academyddion rhyngwladol, y rhagoriaeth ymchwil a hyd yn oed y myfyrwyr sy鈥檔 dewis astudio yn y sefydliadau o safon uchel y gallwn ymfalch茂o ynddynt.

Mae wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i fusnesau lleol drwy gymorth ymchwil, drwy gyflogi pobl leol a thrwy ddarparu鈥檙 gallu i ddatblygu sgiliau hanfodol ar y safle.

Mae miloedd o fyfyrwyr Cymru wedi elwa o Gynllun Cyfnewid Erasmus, Erasmus Plus erbyn hyn, cynllun a sefydlwyd yn 1987 gan Ceri Hywel Jones, brodor o Bort Talbot.

Mae鈥檙 buddsoddiadau hyn yn mynd i galon ein cymunedau lleol ledled Cymru a thu hwnt.

Mae鈥檙 Sefydliad Cyllid Ewropeaidd ym Mangor yn darparu gwasanaethau ymgynghori arbenigol ac adroddiadau prosiect. Yma mae鈥檙 llyfrgell fwyaf cynhwysfawr yn Ewrop a鈥檙 un sydd wedi鈥檌 sefydlu hiraf, sy鈥檔 canolbwyntio dim ond ar ddeunydd y sector bancio a chyllid.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael 27 miliwn Ewro o gyllid Erasmus ar gyfer cynlluniau鈥檔 ymwneud 芒 mudoledd myfyrwyr a staff i wella dysgu ac addysgu, dros 10 miliwn Ewro gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop i wella prosiectau masnacheiddio a menter, a dros 2 filiwn Ewro ar gyfer prosiectau ymchwil yn unig.

Ac ar ddechrau鈥檙 flwyddyn, cyhoeddwyd y bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cael 拢2.4 miliwn o gyllid gan yr UE i ddatblygu sgiliau gweithwyr ledled de orllewin Cymru drwy Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith y Brifysgol.

Y tu hwnt i hynny, mae Horizon 2020 yn rhoi mynediad i鈥檔 prifysgolion at raglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf yr UE erioed.

Mae鈥檙 rhaglen yn sicrhau bod Ewrop yn cynhyrchu gwyddoniaeth o鈥檙 radd flaenaf; mae鈥檔 cael gwared 芒 rhwystrau i arloesi; ac yn ei gwneud yn haws i鈥檙 sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio i ddarparu arloesedd.

Yng Nghymru, mae Prifysgol Caerdydd wedi cael arian gan yr UE ar gyfer 34 prosiect sy鈥檔 werth 拢14.6 miliwn drwy鈥檙 rhaglen ac, yng nghylch cyntaf cyllid Horizon 2020, llwyddodd Prifysgol Abertawe i gael chwe grant a oedd yn werth dros 2 filiwn Ewro.

Mae ein prifysgolion yn ffynnu oherwydd buddsoddiad a chydweithrediad yr UE ac allwn ni ddim diystyru hynny.

Mae鈥檙 prosiectau hyn yn ganolog i鈥檙 nod hwnnw o Gymru uchelgeisiol, hyderus sy鈥檔 edrych at allan.

Ffermio yng Nghymru

Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ddur ac AU. Felly gadewch i mi s么n yn fyr am sector cwbl wahanol: bwyd m么r ac amaethyddiaeth. Diwydiannau sy鈥檔 bwysig i Abertawe ac i Gymru. Mae鈥檙 UE yn derbyn dros 90% o allforion amaeth o Gymru, sef 98% o allforion cynhyrchion llaeth, 97% o gig oen a 92% o gig eidion.

Gallai gadael yr UE olygu bod tariffau o hyd at 70% yn cael eu gosod ar ein cynnyrch a byddai鈥檔 peryglu sylfaen llawer o econom茂au lleol.

Mae gan Gig eidion Cymru, Cig oen Cymru, Tatws Cynnar Sir Benfro a Halen M么n statws gwarchodedig o dan gyfreithiau鈥檙 UE. Ni chaiff yr un cwmni na rhanbarth geisio atgynhyrchu鈥檙 cynhyrchion hyn mewn man arall nac ychwaith ddweud eu bod yn gynnyrch amgen.

Gallai ffermwyr Cymru golli cannoedd o filiynau o bunnoedd ar allforion cig oen a chig eidion pe na allent gael mynediad i鈥檙 farchnad sengl.

Credaf ei bod yn deg dweud y gallem ystyried marchnadoedd eraill ac mae gennym berthynas arbennig 芒鈥檙 Unol Daleithiau ond nid y w hynny o anghenraid yn chwalu rhwystrau masnachu. Er ein perthynas, ni allforiwyd dim cig eidion a chig oen o Gymru i鈥檙 Unol Daleithiau y llynedd.

Byddai hyn yn gam i鈥檙 tywyllwch na all Cymru fforddio ei chymryd o鈥檌 gymharu 芒 mynediad digyfyngiad i鈥檙 farchnad a鈥檙 brandiau pwysig sy鈥檔 cael eu gwarchod y mae llwyddiant ein hallforion wedi鈥檌 adeiladu arno.

Casgliad

Felly, dyna鈥檙 achos cadarnhaol y byddwn i yn ei gyflwyno i ddangos y dylai Cymru aros yn yr UE.

Dydw i ddim yma heddiw i ddadlau dros y status quo.

Rwy鈥檔 sicr bod pawb yn yr ystafell hon , ac yn wir ar draws y cyfandir, yn cydnabod bod yn rhaid i Ewrop wneud newidiadau sylfaenol er mwyn mynd i鈥檙 afael yn uniongyrchol 芒鈥檙 heriau mae鈥檔 eu hwynebu.

A dyna beth a gyflawnodd y Prif Weinidog gyda鈥檌 gytundeb hanesyddol ym mis Chwefror.

Cydnabyddiaeth ymysg arweinwyr Ewrop bod angen addasu i anghenion gwahanol wledydd gan roi statws arbennig i鈥檙 DU.

鈥�.Mae hyn yn caniat谩u inni osgoi rhai o鈥檙 agweddau ar yr UE sydd heb fod yn gweithio i Brydain 鈥� pethau fel yr Ewro, ffiniau agored neu鈥檙 siawns o fwy fyth o uno.

Ynghyd ag opsiwn i beidio 芒 gorfod talu budd-daliadau i ymfudwyr am gyfnodau.

Ond, yn y pen draw, mae gennym lais cryf yng nghalon yr UE fel y gallwn ddylanwadu ar y ffordd y mae鈥檙 UE yn delio 芒 heriau mewnfudo, terfysgaeth ac ansicrwydd y tu hwnt i ffiniau, yn hytrach na dim ond ymateb i鈥檞 gweithredoedd.

Dyma鈥檙 achos dros Gymru sy鈥檔 gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy cyfoethog mewn UE ddiwygiedig.

Mae manteision bod yn aelod yn effeithio ar ein bywydau i gyd - o gefnogi buddsoddi mewn seilwaith ac addysg i weithgynhyrchu a rhaglenni cymdeithasol.

Mae鈥檔 sicrhau mynediad at floc masnachu o 500 miliwn o bobl.

Ac yn sicrhau bod ein prifysgolion yn ffynnu fel sefydliadau ymchwil ac academaidd

Fel y mae Abertawe wedi bod yn gwneud ei marc ar Ewrop a鈥檙 byd am gannoedd o flynyddoedd, mae fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru yn un o wlad uchelgeisiol ac arloesol sy鈥檔 edrych at Ewrop a鈥檙 byd ehangach.

Dyma achos cadarnhaol dros aros yn rhan o鈥檙 UE a鈥檌 fynediad at y farchnad sengl.

Peidiwn 芒 chymryd cam i鈥檙 tywyllwch, peidiwn 芒 llechu rhag y frwydr.

Gadewch inni sicrhau bod ein dylanwad a鈥檔 llais yn cael ei glywed, a hynny gyda balchder a hyder.

Diolch yn fawr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Mai 2016