Cynllunydd Addasiadau Myfyrwyr
Gall y cynllunydd hwn helpu myfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd i adnabod yr addasiadau sydd eu hangen i'w helpu i ddatblygu mewn addysg uwch neu ddechrau gwaith.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dogfennau
Manylion
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, gall cael addasiad eich helpu mewn lleoliad gwaith neu addysg.
Bydd y Cynllunydd Addasiadau yn eich helpu i gynllunio pa addasiadau y gallech fod eu hangen i’ch cefnogi tra byddwch yn fyfyriwr, neu’n symud i gyflogaeth.
Gall eich helpu i feddwl trwy’r mathau o rolau a lleoliadau a fyddai’n gweddu orau i chi.
Gall y nodiadau cefnogol eich helpu i’w llenwi ac mae hefyd gwybodaeth bellach am gymorth sydd ar gael.
Sut i gwblhau eich Cynllunydd Addasiadau
Gallwch gwblhau’r Cynllunydd Addasiadau fel copi digidol rhyngweithiol a’i arbed i’ch ffeiliau, neu gallwch ei argraffu a’i gwblhau gyda biro.
Gallwch gwblhau’r Cynllunydd Addasiadau eich hun, neu ofyn i rywun sy’n eich adnabod am help i gwblhau’r cynllunydd.
Gallwch ddiweddaru’r Cynllunydd Addasiadau ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau yn eich gofynion neu anghenion cymorth. Mae hwn i chi ei gadw.
Cyn i chi gychwyn y ffurflen hon
Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled
Ni allwch lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Mae’n rhaid i chi naill ai:
-
defnyddio cyfrifiadur neu liniadur
-
argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â llaw
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur
Defnyddiwch ddarllenydd PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenydd PDF am ddim ar-lein.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrin i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi lenwi’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu darparu.
Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur neu, os ydych yn ddefnyddiwr Apple Macintosh, y rhaglen Preview.
Gallwch arbed data wedi’i deipio i’r ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenydd PDF. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.
Mae yna broblemau dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a allai olygu na fydd y ffurflen yn arbed yn iawn.
Bydd y ffurflen hon ond yn arbed os mae wedi:
-
cael ei arbed ar eich cyfrifiadur
-
cael ei agor mewn fersiwn ddiweddar o ddarllenydd PDF
Ni chaiff y ffurflen ei harbed mewn:
-
fersiynau o Acrobat Reader yn hÅ·n na fersiwn XI
-
rhai darllenwyr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar Gyfrifiadur