Transparency data

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolygon defnyddwyr GLlTEM

Updated 24 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn pennu’r safonau y gallwch eu disgwyl gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol (‘data personol�) amdanoch trwy eich arolygon defnyddwyr; sut y gallwch gael copi o’ch data personol; a’r hyn y gallwch ei wneud os ydych yn credu nad yw’r safonau’n cael eu bodloni.

Mae GLlTEM yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ). MoJ yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a gedwir gennym. Mae GLlTEM yn casglu ac yn prosesu data personol er mwyn gweithredu ei swyddogaethau cyhoeddus ei hun a rhai cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys: gweinyddu cyfiawnder, gorfodaeth troseddol a sifil a gwneud gwaith ymchwil ar gyfer datblygu polisïau cyfiawnder.

1. Gwybodaeth bersonol

Gwybodaeth sy’n ymwneud â chi fel unigolyn yw data personol. Gall gynnwys eich enw, eich cyfeiriad neu’ch rhif ffôn. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth sensitif am eich lles corfforol a meddyliol, manylion am euogfarnau troseddol sydd wedi dod i ben neu beidio, tarddiad hiliol ac ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a chredoau crefyddol, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth a roddwch i ni drwy sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ein harolygon defnyddwyr.

Gwyddom pa mor bwysig yw diogelu preifatrwydd cwsmeriaid a chydymffurfio â chyfreithiau diogelu data. Byddwn yn diogelu eich data personol ac ni fyddwn yn ei ddatgelu ond pan fydd yn gyfreithlon i ni wneud hynny neu gyda’ch caniatâd chi.

2. Mathau o ddata personol rydym yn ei brosesu

Rydym ond yn prosesu data personol sy’n berthnasol i’r gwasanaethau gweinyddu cyfiawnder rydym yn eu darparu ar eich cyfer. O safbwynt ein harolygon defnyddwyr, byddwn ond yn gofyn am ddata personol os bydd hynny yn ein galluogi i fesur sut yr ydym yn bodloni anghenion ein defnyddwyr, neu’n ein helpu ni i ganfod sut y gallwn wella profiad y defnyddiwr.  Mae’r arolygon hyn yn gwbl ddienw gan nad oes modd i ni gysylltu ymateb ag unigolyn.  Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu gwybodaeth sy’n cysylltu’r ymateb ag unigolyn neu’n rhoi sylwadau sy’n datgelu data personol, megis cyfeiriadau e-bost neu rifau achosion, yna efallai y bydd modd i ni adnabod pwy yw rhywun.

3. Pwrpas prosesu data a’r sail gyfreithlon dros brosesu

Rydym yn gweithio i ddiogelu’r cyhoedd a lleihau aildroseddu, darparu system cyfiawnder troseddol, sifil a theulu mwy effeithiol, tryloyw ac ymatebol i ddioddefwyr a’r cyhoedd; a diwygio’r system cyfiawnder troseddol, sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd.  

Rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol oddi wrthych chi i fesur sut yr ydym yn bodloni anghenion ein defnyddwyr, ac i’n helpu ni i ganfod sut y gallwn wella profiadau defnyddwyr.

4. Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth

Bydd eich ymatebion llawn i arolwg ond yn cael eu rhannu’n fewnol o fewn GLlTEM, ond efallai y byddwn yn cynnwys eich sylwadau mewn deunyddiau y byddwn yn eu rhannu â chynulleidfaoedd allanol. Gallai hyn gynnwys adrannau gweinidogol eraill, sefydliadau cyhoeddus neu sefydliadau sydd â diddordeb yn y system gyfiawnder. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i; Gwasanaeth Erlyn y Goron, Partneriaid Cyflawni GLlTEM, Cyngor ar Bopeth ac Awdurdodau Lleol.

5. Manylion trosglwyddiadau i drydedd wlad a mesurau diogelwch

Weithiau, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth bersonol dramor. Pan fydd angen gwneud hyn, gellir trosglwyddo gwybodaeth i wledydd o fewn a/neu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Bydd unrhyw drosglwyddiadau a wneir yn cydymffurfio’n llwyr â phob agwedd o’r gyfraith diogelu data.

6. Cyfnod cadw’r wybodaeth a gesglir

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chynnwys mewn arolwg (er enghraifft os byddwch yn cynnwys eich manylion cyswllt er mwyn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil pellach yn y dyfodol) yn cael ei dileu ar ôl 12 mis.  Os hoffech i’ch gwybodaeth gael ei dileu yn gynt na hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad sydd yn yr adran isod.

7. Mynediad at wybodaeth bersonol

Gallwch ganfod os oes gennym unrhyw ddata personol amdanoch drwy wneud ‘cais gwrthrych am wybodaeth�. Os hoffech wneud cais gwrthrych am wybodaeth, cysylltwch â:

Disclosure Team
Post point 10.38
102 Petty France
London
SW1H 9AJ
[email protected]

8. Pan fyddwn yn gofyn am ddata personol gennych

Rydym yn addo eich hysbysu pam y bydd angen eich data personol arnom ac yn gofyn am y data personol sydd ei angen arnom yn unig; ni fyddwn yn casglu gwybodaeth amherthnasol neu ormodol:

  • Lle bo hynny’n berthnasol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg:
  • Gallwch gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio;
  • Byddwn yn diogelu’r data ac yn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael hawl i’w weld;
  • Dim ond pan fo hynny’n briodol ac yn angenrheidiol y byddwn yn rhannu eich data â sefydliadau eraill at ddibenion cyfreithlon; neu pan fo’n ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith;
  • Byddwn yn sicrhau nad ydym yn cadw’r data am gyfnod hirach na sydd angen;
  • Ni fydd eich data personol ar gael at ddefnydd masnachol heb eich caniatâd, a
  • Byddwn yn ystyried eich cais i gywiro, rhoi’r gorau i brosesu neu i ddileu eich data personol.

9. Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch:

  • Cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth;
  • Amgylchiadau lle gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol heb roi gwybod i chi, er enghraifft, i’n helpu i atal a datrys troseddau neu i gynhyrchu ystadegau dienw;
  • Ein cyfarwyddiadau i staff ynghylch sut i gasglu, defnyddio neu ddileu eich gwybodaeth bersonol;
  • Sut rydym yn gwirio bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol;
  • Sut i gwyno; ac

Am ragor o wybodaeth ynghylch yr uchod, cysylltwch â swyddog diogelu data Y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

Post point 10.38
102 Petty France
London
SW1H 9AJ
[email protected]

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut a pham y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu, darllenwch yr wybodaeth a roddwyd ichi pan wnaethoch ddefnyddio ein gwasanaethau neu pan wnaethom ni gysylltu â chi.

10. Cwynion

Pan ofynnwn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith. Os ydych yn teimlo bod eich gwybodaeth wedi cael ei thrin yn anghywir, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth am gyngor annibynnol ar ddiogelu data. Manylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113