5 awgrym i lenwi eich swydd wag Kickstart yn gyflym a llwyddianus
Diweddarwyd 5 Tachwedd 2021
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy yn eich Canolfan Waith leol all gefnogi’ch proses recriwtio.
Gofynnwch i’ch Rheolwr Cyfrif Dosbarth Kickstart lleol neu a bydd rhywun mewn cysylltiad. Rydym yn argymell eich bod yn siarad yn rheolaidd.
2. Ailddarllenwch eich disgrifiad swydd.
A yw’n gofyn am ormod o brofiad a gormod o gymwysterau? A oes ganddo ddigon o fanylion am beth yw’r rôl? Gallai hon fod y swydd gyntaf erioed i’r person ifanc ac nid ydych am guro eu hyder na’u hatal rhag ymgeisio ac ymuno â’ch busnes.
3. You can promote your own job.
Cofiwch gynnwys y meini prawf cymhwysedd ac atgoffa ymgeiswyr bod yn rhaid iddynt wneud cais trwy eu Hanogwr Gwaith.
Rydym yn eich cefnogi trwy bostio swyddi gwagKickstart ar .
4. Ydych chi wedi meddwl am symleiddio’r broses ymgeisio i ddod o hyd i ymgeiswyr o ansawdd da yn gyflymach?
Mae croeso i chi ddewis dull mwy anffurfiol - efallai nad oes unrhyw ofyniad am ffurflen gais, datganiad personol, CV a chyfweliad.
5. Pan gewch gai gan berson ifanc sydd â diddordeb yn eich swydd wag Kickstart gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithredu arno’n gyflym.
Os na fydd y person ifanc yn clywed gennych, efallai y bydd cyflogwr arall yn ei fachu.