Adroddiad annibynnol

Y Comisiwn Dŵr Annibynnol: adolygiad o'r sector dŵr

Mae crynodeb gweithredol adroddiad interim y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn nodi casgliadau sy'n dod i'r amlwg ar ddiwygiadau i wella system rheoleiddio'r sector dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol, dan gadeiryddiaeth Syr Jon Cunliffe, yn adolygu system reoleiddio’r sector dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Adroddiad interim

Mae’r crynodeb gweithredol o adroddiad interim y Comisiwn Dŵr Annibynnol wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad interim yn dilyn galwad eang y comisiwn am dystiolaeth ac yn nodi 5 maes lle mae’r comisiwn yn credu bod angen newid mawr ac uchelgeisiol, yn seiliedig ar ei dystiolaeth a’i drafodaethau hyd yma. 

Nid yw’n gynhwysfawr ac ni ddylid ei ystyried fel argymhellion llawn y comisiwn. Yn hytrach, mae’n nodi cyfeiriad gwaith y comisiwn. 

Mae’r adroddiad interim yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:  

  • cyfeiriad a chynllunio strategol   

  • fframwaith deddfwriaethol  

  • diwygio rheoleiddiol 

  • strwythurau cwmnïau, perchnogaeth, llywodraethu a rheoli 

  • iechyd seilwaith ac asedau 

Darllenwch yr adroddiad interim llawn (yn Saesneg).

Caiff adroddiad terfynol y comisiwn ei gyflwyno i lywodraethau’r DU a Chymru yn haf 2025.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mehefin 2025

Argraffu'r dudalen hon