Canllawiau ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar gymhwyso Erthygl 36(4) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ar eu rhwymedigaeth i ymgynghori â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch unrhyw gynigion ar gyfer mesurau deddfwriaethol neu statudol a ddatblygir ganddynt sy’n cynnwys prosesu data personol.
Dogfennau
Manylion
Mae Erthygl 36(4) o GDPR y DU yn nodi bod “rhaid i’r awdurdod perthnasol ymgynghori â’r Comisiynydd Gwybodaeth wrth baratoi cynnig ar gyfer mesur deddfwriaethol i’w fabwysiadu gan y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon. neu fesur rheoleiddio sy’n seiliedig ar fesur deddfwriaethol o’r fath, sy’n ymwneud â phrosesu�.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol rwymol ar bob sefydliad sector cyhoeddus perthnasol, a byddai methu ag ymgynghori’n ddigonol â’r ICO ar gynigion o’r fath yn gyfystyr â thorri GDPR y DU.E.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi proses y dylai pob corff cyhoeddus perthnasol ei dilyn i ymgynghori â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r gofyniad hwn. Mae’r broses ymgynghori yn gyson ag egwyddorion ymgynghori sefydledig Swyddfa’r Cabinet.