Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2023

Dyma seithfed adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. Mae鈥檔 seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2023 ac mae鈥檔 bodloni ein gofynion adrodd.

Dogfennau

Manylion

Mae鈥檙 adroddiad yn dadansoddi鈥檙 ffigurau鈥檔 fanylach ac yn nodi鈥檙 hyn yr ydym yn ei wneud i gau鈥檙 bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Mae鈥檙 ASB yn defnyddio graddau鈥檙 Gwasanaeth Sifil sy鈥檔 amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch-was Sifil. Mae鈥檙 graddau鈥檔 amrywio yn 么l lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff, ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn 么l gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth yw rhywedd y staff..

Mae gan bob gradd, ac eithrio鈥檙 Uwch-wasanaeth Sifil (SCS), ystod cyflog ar gyfer Llundain ac ystod cyflog genedlaethol..

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 1572 o bobl yn gweithio i鈥檙 ASB, sef cynnydd o 110 ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 46% o weithlu鈥檙 ASB yn fenywod, sy鈥檔 dangos cynnydd ers 2022, pan oedd 44% o鈥檙 gweithlu鈥檔 fenywod. Am y tro cyntaf, mae gennym nifer cyfartal o Uwch-weision Sifil gwrywaidd a benywaidd.

Un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad yw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth y rhywiau ar bob gradd yn yr adroddiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2024

Argraffu'r dudalen hon