Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau (CC/FS9)
Diweddarwyd 23 Mai 2025
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch eich hawl o dan Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Cafodd hwn ei gynnwys yng nghyfraith Prydain drwy’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae’n rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylid codi mathau penodol o gosbau.
Byddwn yn gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon os byddwn o’r farn bod yr hawliau hyn yn berthnasol i chi ac os bydd angen eich help arnom i benderfynu a oes angen codi cosb arnoch.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio�.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help�.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Yr hyn y mae’ch hawliau o dan Erthygl 6 yn eu golygu i chi pan fyddwn yn ystyried cosbau
Byddwn yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad gyda’n gwiriad cydymffurfio ac wrth gyfrifo’r swm o dreth sy’n ddyledus gennych. Bydd hyn yn cynnwys p’un a fyddwn yn codi cosbau ai peidio. Eich dewis chi yn gyfan gwbl yw faint o wybodaeth a help yr ydych yn ei roi i ni.
Pan fyddwn yn ystyried codi cosbau, mae gennych yr hawl o dan Erthygl 6 i beidio ag ateb ein cwestiynau. Weithiau, cyfeirir at hyn fel yr hawl i beidio â hunanargyhuddo, neu’r hawl i aros yn ddistaw. Nid yw’r hawl hon yn ymwneud â gwybodaeth na dogfennau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd eisoes yn bodoli i ni, os oes gennym hawl gyfreithiol i ofyn amdanynt.
Wrth benderfynu i ba raddau y byddwch yn cydweithredu â ni, mae gennych yr hawl i gael help gan ymgynghorydd proffesiynol. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai y byddwch am ystyried cysylltu ag un.
Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi a oes cosbau’n ddyledus unwaith y byddwn wedi cytuno ar y sefyllfa dreth â chi. Os na allwn gytuno ar y sefyllfa dreth, byddwn yn anfon diwygiad neu asesiad o’r dreth ychwanegol y credwn ei bod yn ddyledus.
Os ydym o’r farn bod cosb yn ddyledus hefyd, byddwn yn anfon asesiad o’r gosb atoch. Bydd yr asesiad yn seiliedig ar y dreth ychwanegol.
Os byddwn yn codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i gael eich adolygiad, neu eich apêl yn erbyn y penderfyniadau ynglŷn â’r dreth â’r cosbau, wedi’u hystyried gyda’i gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio a chael adolygiad, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC1� neu ‘disagree with a tax decision�, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg sydd ar y dudalen benodol. Gallwch ofyn am gopi drwy ffonio 0300 200 1900. Mae rhagor o wybodaeth am dribiwnlysoedd ar wefan y tribiwnlysoedd. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘courts and tribunals�
Mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol (legal aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn mynd i apelio yn erbyn asesiad o gosb, efallai y byddwch am wirio a yw’ch achos yn gymwys a’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys.
Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio.
Cynhorthwy cyfreithiol a ariennir
Mae rhagor o fanylion am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol ar gael fel a ganlyn:
- yng Nghymru a Lloegr, drwy fynd i’r wefan Cyngor Cyfreithiol Sifil yn www.gov.uk/civil-legal-advice neu drwy ffonio 0345 345 4345
- yn yr Alban, drwy fynd i wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban yn www.slab.org.uk neu drwy ffonio 0131 226 7061
- yng Ngogledd Iwerddon, drwy gysylltu â chyfreithiwr sy’n aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i www.lawsoc-ni.org
Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice�, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.