Deunydd hyrwyddo

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant: adnoddau cyfathrebu

Taflenni, delweddau ac adnoddau cyfathrebu eraill i’w defnyddio gan randdeiliaid i gyfathrebu â phobl ifanc 15 i 18 oed a’u rhieni neu warcheidwaid ynghylch Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r deunyddiau ar y dudalen hon wedi’u cynllunio i’ch helpu i gyfathrebu â phobl ifanc 15 i 18 oed a’u rhieni neu warcheidwaid ynghylch Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Mae Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo rhydd o dreth hirdymor a agorwyd ar gyfer plant â hawliad Budd-dal Plant byw, a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

O 1 Medi 2020 ymlaen, bydd y set gyntaf o blant â chyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CYP) yn troi’n 18 oed ac yn gallu tynnu arian o’u cronfeydd.

Bydd angen i’r plant hyn fod yn ymwybodol o’u cyfrifon CYP, a deall sut y gallant gael mynediad atynt ar ôl iddynt droi’n 18 oed. Mae hefyd yn bwysig bod pobl ifanc 15 i 18 oed yn ymwybodol o’u cyfrifon CYP oherwydd, o 16 oed, gallant ddechrau rheoli eu cyfrifon, er nad ydyn nhw eto wedi gallu tynnu arian allan ohonynt.

Sut i ddefnyddio’r deunyddiau hyn

Mae’r deunyddiau yn y pecyn hwn yn cynnwys delweddau a thaflenni cyfryngau cymdeithasol ac mae croeso i chi eu defnyddio ar eich sianeli eich hun. Awgrymwn eich bod yn rhannu’r deunyddiau hyn â’ch tîm cyfathrebu a phobl sy’n rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol eich sefydliad.

Mae’r holl asedion cyfryngau cymdeithasol wedi’u fformatio ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol.

Arweiniad a chymorth pellach

Nid yw’r deunyddiau ar y dudalen hon wedi’u cynllunio i’w defnyddio fel arweiniad.

Darllenwch arweiniad llawn ar Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddarparwr CYP.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Medi 2020 show all updates
  1. Added Welsh translations of the page and materials.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon