Defnyddio Offer TWE Sylfaenol i roi gwybod i CThEF pan fo cyflogai yn gadael
Diweddarwyd 27 Chwefror 2025
Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol i weithredu’r gyflogres. Mae’n esbonio’r camau y mae’n rhaid i chi eu dilyn pan fydd cyflogai’n gadael neu’n marw, a’r drefn y mae angen iddynt gael eu gwneud.
Nid yw’r canllaw hwn yn cynnwys yr hyn i’w wneud os yw’r canlynol yn berthnasol o ran y cyflogai:
- mae ei swydd yn cael ei dileu (yn agor tudalen Saesneg)
- mae’n ymddeol â phensiwn y gweithle
Ychwanegu taliad terfynol y cyflogai
Dilynwch y camau hyn i ychwanegu taliad terfynol y cyflogai cyn gwneud cyflwyniad terfynol ar gyfer y cyflogai sy’n gadael.
- Bydd angen i chi lansio Offer TWE Sylfaenol a dewis Hafan. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen hafan.
- Dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr ‘Cyflogwyr� ar yr ochr chwith.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw’r cyflogai sydd yng nghanol y dudalen ‘Rheoli cyflogeion� er mwyn mynd at y dudalen ar gyfer ‘Manylion y cyflogai�.
- Dewiswch Taliadau’r cyflogeion o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch Ychwanegu taliad cyflogai o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Nodwch y dyddiad talu. Dyma’r dyddiad y bydd y taliad terfynol yn cael ei wneud i’r cyflogai.
- Nodwch swm y cyflog at ddibenion Treth Incwm. Dyma faint o dâl ‘safonol� � er enghraifft cyflog, tâl gwyliau a thaliadau bonws � sy’n ddyledus i’r cyflogai hwn hyd at ei ddyddiad gadael. Peidiwch â chynnwys taliadau untro megis taliadau diswyddo neu gyfandaliadau ymddeol.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn eich blaen drwy’r sgriniau hyd nes i chi ddychwelyd i’r sgrin ‘Manylion y cyflogai�. Mae hyn yn creu Datganiad Taliadau Llawn.
Ychwanegu dyddiad gadael y cyflogai
Dilynwch y camau canlynol i ychwanegu dyddiad gadael y cyflogai ar ôl creu’r Datganiad Taliadau Llawn terfynol.
- O ganol y dudalen ‘Rheoli cyflogeion�, dewiswch y cyflogai perthnasol.
- Dewiswch Crynodeb o’r cyflogai sy’n gadael sydd ar ochr chwith y dudalen ar gyfer ‘Manylion y cyflogai�.
- Dewiswch Ychwanegu dyddiad gadael sydd ar ochr chwith y dudalen ‘Crynodeb o’r cyflogai sy’n gadael�.
- Gwiriwch eich bod wedi cwblhau pob un o’r camau sydd wedi’u nodi yn yr arweiniad ac ar y dudalen ‘Ychwanegu dyddiad gadael�.
- Nodwch ddyddiad gadael y cyflogai. Dyma ei ddyddiad olaf yn y gwaith. Os yw’r cyflogai wedi marw, dyma ddyddiad ei farwolaeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen ‘Adolygu manylion cyflogai sy’n gadael�.
Anfon manylion y cyflogai sy’n gadael at CThEF
Anfonwch fanylion ynghylch y cyflogai sy’n gadael a’i dâl terfynol i CThEF ar neu cyn y diwrnod y byddwch yn talu’r cyflogai.
- O’r ‘Hafan�, dewiswch y cyflogwr o’r rhestr ‘Cyflogwyr�.
- Dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno o’r ddewislen ar y chwith i fynd i’r dudalen ‘Cyflwyniad heb ei wneud�.
- Dewiswch Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno o’r ddewislen ar y chwith.
- Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen ‘Cyflwyno data i Gyllid a Thollau EF�.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad�.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad�, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad�, yn dilyn honno. Bydd hyn yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi ar gyfer eich cyflwyniad.
Argraffu P45 i’ch cyflogai
Ar ôl i chi anfon y manylion ynghylch y cyflogai at CThEF, gallwch fwrw golwg dros y P45 a’i hargraffu. Mae’r P45 yn dangos faint o dreth mae’r cyflogai wedi’i thalu ar ei gyflog yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Mae’n rhaid i chi roi’r P45 i’ch cyflogai pan fydd yn gadael. Bydd angen i’r cyflogai roi’r P45 i’w cyflogwr nesaf.
- O’r ‘Hafan�, dewiswch y cyflogwr o’r rhestr ‘Cyflogwyr�.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw’r cyflogai sydd yng nghanol y dudalen ‘Rheoli cyflogeion� er mwyn mynd at y dudalen ar gyfer ‘Manylion y cyflogai�.
- Dewiswch Crynodeb o’r cyflogai sy’n gadael o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch y cysylltiad yn y golofn ‘Camau� sydd yng nghanol y dudalen ar gyfer bwrw golwg dros y P45.
- Cadwch y P45 fel PDF ar eich cyfrifiadur.
- Argraffwch y PDF o’r man y mae wedi’i gadw ar eich cyfrifiadur.
Os oes ‘W1� neu ‘M1� yng nghod treth y cyflogai, bydd angen i chi nodi symiau â llaw ar ôl argraffu’r P45.
Bwrw golwg dros fanylion cyflogai sydd wedi gadael
- O’r ‘Hafan�, dewiswch y cyflogwr o’r rhestr ‘Cyflogwyr�.
- Dewiswch y cysylltiad Rheoli cyflogeion o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch enw’r cyflogai sydd yng nghanol y dudalen ‘Rheoli cyflogeion� er mwyn mynd i’r dudalen ‘Manylion y cyflogai�.
- Dewiswch Taliadau’r cyflogeion o’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen.
- Dewiswch Crynodeb o’r flwyddyn hyd yn hyn ar gyfer y cyflogai i fwrw golwg dros fanylion terfynol y cyflogai.