Ffurflen

Statws Mewnforiwr Cymeradwy: amodau cymeradwyo

Diweddarwyd 30 Mai 2025

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Er mwyn mewnforio cŵn, cathod a ffuredau yn fasnachol i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania neu Wcráin, rhaid bod gennych statws Mewnforiwr Cymeradwy.

Ystyr mewnforion masnachol yw anifeiliaid anwes sy’n cael eu gwerthu neu y mae’r berchnogaeth ohonynt yn cael ei throsglwyddo. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid wedi’u hachub ac os ydych yn teithio gyda mwy na 5 ci, cath neu ffured os nad yw’r anifeiliaid hyn yn mynd i sesiwn hyfforddiant ar gyfer cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad chwaraeon.

Gwnewch gais am statws Mewnforiwr Cymeradwy

Llenwch y ffurflen gais am statws Mewnforiwr Cymeradwy a’i hanfon at yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd APHA yn cymeradwyo eich cais, bydd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.

Os bydd APHA yn gwrthod eich cais, bydd yn anfon e-bost atoch gyda’r rheswm. Gallwch gysylltu ag APHA i drafod sut i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Pan nad oes angen statws Mewnforiwr Cymeradwy arnoch

Nid oes angen i chi wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy os ydych yn gwneud y canlynol:

  • symud anifeiliaid anwes o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania neu Wcráin am resymau anfasnachol.

  • mynd i sesiwn hyfforddiant ar gyfer cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad chwaraeon

  • mewnforio cŵn, cathod a ffuredau yn fasnachol nad oeddent yn tarddu o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcráin neu nad ydynt wedi cael eu hanfon o’r gwledydd hynny.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi eu bodloni i wneud cais i fod yn fewnforiwr cymeradwy

Er mwyn bod yn fewnforiwr cymeradwy, rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • mewnforiwr

  • cludwr

  • sefydliad

  • asiant

Ble mae eich sefydliad wedi’i sefydlu

Rhaid i chi naill ai:

  • fod wedi’ch sefydlu yn y DU a rhoi manylion y sefydliad neu’r busnes yn y DU rydych yn ei gynrychioli

  • fod wedi’ch cynrychioli yn y DU a rhoi datganiad wedi’i lofnodi gan y sefydliad neu’r busnes sy’n gyfrifol am eich cynrychioli, yn cadarnhau ei fod yn cytuno i fod yn atebol am yr holl fewnforion i Brydain Fawr gan eich sefydliad

Pan fydd person neu fusnes yn eich cynrychioli, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol i APHA:

  • enw’r person neu’r busnes

  • cyfeiriad llawn ym Mhrydain Fawr

  • manylion cyswllt llawn

Gall y canlynol eich cynrychioli yn y DU:

  • asiant

  • cludwr

  • busnes

  • unigolyn

Rhestr o safleoedd cofrestredig neu gymeradwy

Mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol:

  • rhestr gyflawn o’r holl safleoedd cofrestredig neu gymeradwy y bydd yr anifeiliaid rydych yn eu mewnforio i Brydain Fawr yn cael eu mewnforio ohonynt (nodwch unrhyw safleoedd rydych chi am eu defnyddio yn y dyfodol)

  • prawf bod safle wedi’i gofrestru neu wedi’i gymeradwyo a roddir gan awdurdod cymwys y wlad wreiddiol neu anfon, a roddwyd o fewn 6 mis cyn gwneud cais

Bydd APHA ond yn derbyn dogfennau gwreiddiol gyda llofnod swyddogol a stamp yr awdurdod cymwys sy’n eu rhoi. Gallech ddefnyddio:

  • y ddogfen gofrestru wreiddiol a roddwyd gan yr awdurdod cymwys yn ystod y 6 mis diwethaf

  • llythyr gan yr awdurdod cymwys a roddwyd yn ystod y 6 mis diwethaf gan gadarnhau bod y cofrestriad yn gyfredol

Rhaid i ddogfennau fod yn Saesneg neu raid cyflwyno cyfieithiadau ardystiedig i’r Saesneg ar y cyd â nhw. Gwybodaeth am y rheolau ar gyfer ardystio cyfieithiad (yn Saesneg).

Cludwyr

Rhaid i chi ddarparu rhestr o’r cludwyr rydych yn eu defnyddio, gan gynnwys eu rhif awdurdodi fel cludwr.

Diffyg cydymffurfio

Rhaid i ymgeiswyr a’u cynrychiolwyr fod wedi mynd 12 mis heb unrhyw achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio â rheolau iechyd anifeiliaid a mewnforio cymwys. Mae hyn yn cynnwys y rheolau ynglŷn â  symud cŵn, cathod neu ffuredau yn fasnachol neu’n anfasnachol i Brydain Fawr.

Mae achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio yn cynnwys achosion mawr o dorri’r gofynion cyfreithiol i fewnforio anifeiliaid anwes yn fasnachol neu’n anfasnachol, er enghraifft pan fydd y ddogfennaeth sy’n cyd-fynd ag anifail yn dwyllodrus neu pan ganfyddir nad yw anifail wedi cael brechiad dilys am ei fod o dan oedran.

Amodau y mae’n rhaid i chi eu bodloni i fewnforio cŵn, cathod a ffuredau

Dim ond os ydynt yn bodloni’r amodau yn yr adran hon y caiff mewnforwyr cymeradwy fewnforio cŵn, cathod neu ffuredau.

Awdurdodi

Rhaid eich bod wedi cael statws Mewnforiwr Cymeradwy gan APHA sy’n cadarnhau bod gennych awdurdod i fewnforio cŵn, cathod a ffuredau.

Hysbysu gan ddefnyddio IPAFFS

Rhaid i chi roi gwybod am bob llwyth ar y system Mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) (yn Saesneg) o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn iddynt gyrraedd. Mae’n rhaid i chi ychwanegu:

  • enw’r mewnforiwr cymeradwy

  • tarddle’r anifeiliaid

  • enw’r cludwr

  • pen taith yr anifeiliaid

  • y llwybr arfaethedig

  • y cludydd

  • dogfen mynediad iechyd cyffredin (CHED) ar gyfer unrhyw symudiad o’r UE a ddechreuodd mewn gwlad nad yw’n destun trefniadau mewnforio trosiannol arbennig (gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd Ffaro, Yr Ynys Las a’r Swistir)

Rhaid i chi lanlwytho’r canlynol o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn iddynt gyrraedd:

  • tystysgrifau iechyd allforion

  • canlyniadau profion gwaed i gyd-fynd â’r dystysgrif ar gyfer anifeiliaid o Wcráin neu anifeiliaid sy’n teithio drwy Wlad Pwyl, Rwmania neu Felarws o wlad sydd heb ei rhestru

Edrychwch ar y gwledydd sydd wedi’u rhestru (yn Saesneg).

Pan fyddwch yn hysbysu ymlaen llaw ar IPAFFS, rhaid i’r enw gyfateb i’r enw a ddarparwyd yn eich ffurflen gais neu ni fydd y mewnforion yn cael eu caniatáu.

Rhaid i chi aros i gael e-bost gan APHA yn cadarnhau ei fod wedi cymeradwyo’r mewnforion cyn mewnforio. 

Teithio ar y ffordd

Rhaid i gŵn, cathod neu ffuredau sy’n cael eu mewnforio’n fasnachol, sy’n tarddu o Felarws neu Wcráin ac sy’n teithio ar y ffordd, ddod i mewn i’r UE drwy Safle Rheolaethau’r Ffin. Bydd Safle Rheolaethau’r Ffin yn archwilio’r anifeiliaid cyn iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr drwy derfynellau Dofr neu Folkestone.

Rhaid i anifeiliaid a anfonwyd o Wlad Pwyl neu Rwmania, neu’r rhai a anfonwyd o Wcráin neu Felarws ac sy’n teithio drwy’r UE, gyrraedd Dofr neu Folkestone ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm Amser Safonol Greenwich (GMT) yn unig.

Teithio yn yr awyr

Rhaid i anifeiliaid sy’n teithio yn yr awyr ddod i mewn i Brydain Fawr mewn Safle Rheolaethau’r Ffin sydd wedi’i ddynodi i dderbyn yr anifeiliaid hynny (Caeredin, Gatwick Llundain neu Heathrow Llundain).

Cludo anifeiliaid

Rhaid i chi gadw copi o’r e-bost yn cadarnhau statws Mewnforiwr Cymeradwy er mwyn i’r awdurdod cymwys ei harchwilio.

Newid eich manylion statws Mewnforiwr Cymeradwy

Rhaid i chi gysylltu ag APHA ar unwaith os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen gais yn newid. Ni allwch fewnforio cŵn, cathod na ffuredau o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcráin hyd nes bod APHA yn adolygu’r newidiadau ac yn diwygio neu’n ailddyroddi’r gymeradwyaeth.

Ffi ar gyfer statws Mewnforiwr Cymeradwy

Ni chodir tâl am wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy.

Cymeradwyaeth wedi’i dirymu

Os ceir eich bod wedi cyflawni achos mawr o ddiffyg cydymffurfio (neu fân achosion o ddiffyg cydymffurfio mynych), gall APHA ddirymu eich cymeradwyaeth. Bydd hyn yn golygu na chewch ganiatâd mwyach i fewnforio anifeiliaid anwes masnachol o Felarws, Gwlad Pwyl, Rwmania nac Wcráin. Dylech gysylltu ag APHA i gael rhagor o wybodaeth am y penderfyniad ac i drafod apêl.

Cael cymorth

I gael gwybodaeth am wneud cais am statws Mewnforiwr Cymeradwy neu unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â: [email protected]