Ffurflen

Gwneud cais am drawsgrifiad o sylwadau dedfrydu barnwr

Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn am gofnod ysgrifenedig (a elwir yn drawsgrifiad) rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr mewn achos lladdiad neu drosedd rhywiol yn Llys y Goron.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch gael copi am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr os ydych un ai’n:

  • aelod o deulu dioddefwr lladdiad (llofruddiaeth, dynladdiad neu droseddau achosi marwolaeth ar y ffordd, megis gyrru’n beryglus)
  • dioddefwr trais neu droseddau rhywiol

Hefyd, rhaid bod y diffynnydd wedi eu cael yn euog neu wedi pledio’n euog ac wedi cael eu dedfrydu gan farnwr Llys y Goron.

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am gopi rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu’r barnwr, neu os ydych eisiau trawsgrifiad llys hwy, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio Ffurflen EX107. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1.  am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as� neu ‘Download linked file�.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents�, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â [email protected].

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori. 

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mehefin 2025 show all updates
  1. New return address added to the form

  2. Added a Welsh version of the page

  3. Added a Welsh version of the form.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon