Dormant Assets Commissioner

Kirsty Cooper

Bywgraffiad

Mae Kirsty Cooper yn Ysgrifennydd Cwmni a Chwnsler Cyffredinol ar gyfer Aviva. Mae ganddi radd Baglor y Gyfraith o Brifysgol Glasgow, ac mae wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â’r Alban. Mae hefyd yn un o raddedigion rhaglen rheolwr cyffredinol INSEAD.

Mae gan Kirsty dros 25 mlynedd o brofiad yn Aviva, yswiriwr mwyaf y DU. Sefydlodd y swyddogaeth gyfreithiol ac ysgrifenyddol fel tîm byd-eang ac mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys darparu gwasanaethau cyfreithiol i’r grŵp, gwasanaethau ysgrifenyddol cwmni, polisi cyhoeddus a chyfrifoldeb corfforaethol. Mae hefyd yn cynorthwyo’r Cadeirydd a’r Bwrdd i gyflawni eu cyfrifoldebau. Cafodd ei phenodi i’r Grŵp Gweithredol ym Mai 2012.

Mae Kirsty yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Tŷ Opera Brenhinol ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd yr English National Ballet. Yn 2016 a 2017 gwasanaethodd fel aelod o’r Comisiwn Asedau Segur, a adroddodd i’r Llywodraeth ym Mawrth 2017.

Dormant Assets Commissioner

Commissioners support the Chair in meeting the terms of reference for the Independent Dormant Assets Commission.

Independent Dormant Assets Commission

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Aelod Anweithredol o'r Bwrdd