Gweithio i MOJ
Gyrfaoedd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae ein prosesau recriwtio’n cael eu tywys gan
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u
- hoedran
- anabledd
- hunaniaeth o ran rhywedd neu ailbennu rhywedd
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth, neu
- unrhyw nodwedd amherthnasol arall.
Rydym hefyd yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n ateb y meini prawf gofynnol ar gyfer penodi (fel y maent wedi eu diffinio gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995).
Buddion a gwobrau i weithwyr
Mae’r buddion a’r gwobrau i weithwyr yn cynnwys:
- mynediad at gynllun disgownt i staff y Weinyddiaeth Cyfiawnder
- mynediad at raglen cymorth i weithwyr sy’n darparu cyngor cyfrinachol, gwybodaeth a sesiynau cwnsela
- yr opsiwn i ymuno ag Undeb Llafur
- cynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm untro eithriadol
- absenoldeb salwch ar gyflog llawn, ac yna hanner cyflog, hyd at yr uchafswm a ganiateir gan y cynllun perthnasol
Hyblygrwydd
Mae’r trefniadau hyblygrwydd yn cynnwys:
- lwfansau hael ar gyfer gwyliau â thâl sy’n dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn, ac yn codi wrth i’ch gwasanaeth gynyddu (pro rata i staff rhan-amser) yn ogystal â 9 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint
- absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant o hyd at 26 wythnos o gyflog llawn ac yna 13 wythnos o dâl statudol a 13 wythnos arall heb dâl
- amser i ffwrdd i ddelio ag argyfyngau, sefyllfaoedd annisgwyl a rhai amgylchiadau arbennig eraill nas cynlluniwyd
- amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ar gyfer dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft os ydych yn filwr wrth gefn yn y lluoedd arfog
- polisïau cyfeillgar i deuluoedd gan gynnwys patrymau gweithio hyblyg
- oriau gweithio hyblyg, yn amodol ar anghenion busnes
Gwneud cais am swydd
Rydym yn asesu ymgeiswyr am swyddi yn erbyn Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil. Cymwyseddau yw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen i wneud swydd yn effeithiol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiad am y broses recriwtio gallwch gysylltu â’r Weinyddaeth Gyfiawnder. Ffôn: 0845 241 5359 Llun i Gwener, 8am - 6pm
E-bost: [email protected]
Os byddwch yn teimlo na chafodd ac rydych eisiau cwyno, gallwch gysylltu â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gychwyn. Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb, gallwch gysylltu â .
Gwiriadau am eich cefndir
Os byddwch yn cael swydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddwch yn cael gwiriad cofnodion troseddol Disclosure Scotland ac efallai y byddwn yn gwneud gwiriad cofnodion troseddol neu wrthderfysgaeth yn dibynnu ar rôl a lleoliad eich swydd.