Ein llywodraethiant

Byrddau rheoli a grwpiau gwneud penderfyniadau Cofrestrfa Tir EF.


Mae Cofrestrfa Tir EF yn rhan o’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae’r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr Simon Hayes yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol Angela Rayner.

Goruchwylio yw cylch gorchwyl Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn bennaf, tra bo’r cyfrifoldeb rheoli o ddydd i ddydd gan yr Uwch Dîm Gweithredol.

Bwrdd Cofrestrfa Tir EF

Diben Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yw cefnogi, herio’n adeiladol a rhoi arweiniad i’r Uwch Dîm Gweithredol, goruchwylio datblygu a chyflwyno’r strategaeth fusnes a gytunwyd a sicrhau llywodraethu priodol o weithgaredd Cofrestrfa Tir EF.

Ei brif amcanion yw:

  • rhoi cyngor a chytuno ar weledigaeth hir dymor, strategaeth fusnes tymor canolig, y gyllideb flynyddol a dangosyddion perfformiad allweddol
  • adolygu perfformiad ariannol a gweithredol
  • monitro datblygiadau’r farchnad ar gyfer cyfleoedd ac ystyried unrhyw risgiau strategol mae’r sefydliad yn eu hwynebu, sicrhau bod systemau a rheolaethau priodol ar waith
  • sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion statudol
  • sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio ymarfer gorau mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol
  • sicrhau y caiff perthnasau effeithiol eu cynnal â budd-ddeiliaid, cwsmeriaid, cyflenwyr, cyflogeion ac adrannau’r llywodraeth

Aelodau

Mae Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn cael ei lywio gan Gadeirydd anweithredol annibynnol ac mae ganddo hyd at 12 aelod parhaol gyda mwyafrif o aelodau anweithredol, sef y canlynol ar hyn o bryd:

Pwyllgor Archwilio a Risg

Rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd gweithgaredd risg, sicrwydd ac archwilio. Ar ran y bwrdd, mae’r pwyllgor yn archwilio’n heffeithiolrwydd o ran y canlynol:

  • systemau rheolaeth fewnol a systemau rheoli risg
  • rheoli risg
  • camau a gymerwyd neu i’w cymryd i reoli risgiau difrifol neu i ddatrys unrhyw fethiannau rheoli neu wendidau a nodir

Mae’r pwyllgor yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol a gweithredol. Maent yn annibynnol ar y rheolwyr ac unrhyw weithgaredd arall allai effeithio ar eu gwrthrychedd. Mae Pennaeth Archwiliad Mewnol yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hefyd.

Is-bwyllgor o Fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Risg yw:

Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau

Mae’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yn sicrhau bod trefniadau tâl ac enwebu yn cefnogi amcanion Cofrestrfa Tir EF ac yn goruchwylio recriwtio, cadw a pherfformiad y tîm gweithredol.

Is-bwyllgor o Fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau.

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yw:

Y Pwyllgor Newid

Mae’r Pwyllgor Newid yn cefnogi’r bwrdd i sicrhau bod cynlluniau trawsnewid y sefydliad yn parhau i fod yn gyson â’i uchelgeisiau strategol a bod modd eu cyflawni’n effeithiol.

Is-bwyllgor o fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Newid.

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Newid yw:

Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid

Sefydlwyd y Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid i gynnal adolygiad annibynnol o weithdrefnau trin cwsmeriaid a phrofiadau cwsmeriaid yng Nghofrestrfa Tir EF.

Is-bwyllgor o Fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid.

(ODT, 27.2 KB)

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Adolygu Gofal Cwsmeriaid yw:

  • Ben Alexander, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
  • Iain Banfield, Prif Swyddog Ariannol
  • Kirsty Cooper, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
  • Emma Ellis, Dirprwy Gyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid
  • Helen Gillett, Aelod Anweithredol o’r Pwyllgor
  • Ann Henshaw, Cadeirydd Anweithredol ac Aelod o’r Bwrdd
  • Abi Howarth, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cofrestru Tir
  • Jon Ingram, Non-executive Board Member
  • Elliot Jordan, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Uwch Dîm Gweithredol

Mae’r Uwch Dîm Gweithredol yn dwyn ynghyd tua 20 o uwch arweinwyr Cofrestrfa Tir EF sy’n atebol ar draws nifer o Uwch Bwyllgorau Gweithredol:

  • Gwasanaethau Corfforaethol
  • Darparu Gwasanaeth
  • Strategaeth a Darparu

Mae’r Uwch Dîm Gweithredol, trwy’r Uwch Bwyllgorau Gweithredol hyn, yn ymdrin â rhedeg Cofrestrfa Tir EF o ddydd i ddydd, gan gynnwys:

  • monitro ein dangosyddion perfformiad allweddol a’r gyllideb gyffredinol
  • rheoli risgiau i’r sefydliad
  • gwneud penderfyniadau ariannol
  • delio â materion sy’n ymwneud â chwsmeriaid
  • codi materion a phenderfyniadau pwysig i Fwrdd Cofrestrfa Tir EF i’w hadolygu

Cefnogir yr Uwch Bwyllgorau Gweithredol ymhellach gan nifer o is-bwyllgorau.