Gweithdrefn gwyno

Sut i wneud cwyn ynghylch Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.


Gwneud cwyn

Os nad ydych yn hapus â’n gwasanaeth

Efallai y byddwch chi eisiau gwneud cwyn. Mae ein proses gwneud cwyn yn edrych ar sut y cafodd eich achos ei drin gan ein staff. Nid ydym yn gallu newid y penderfyniad yn eich achos chi nac ymchwilio i sut y gweithredodd barnwr neu ynad tuag atoch.

I gwyno am ein gwasanaeth:

  • siaradwch ag aelod o staff yn ein hadeiladau a byddwn yn cofnodi eich adborth

  • cysylltwch â’n llysoedd neu ein tribiwnlysoedd drwy e-bost, ffôn neu yn ysgrifenedig

Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Adolygu

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, gallwch ofyn i uwch reolwr yn y swyddfa gynnal adolygiad. Dylech esbonio pam nad ydych chi’n hapus. Bydd y rheolwr yn anelu at ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

´¡±èê±ô

Os nad ydych yn fodlon gydag adolygiad yr uwch reolwr o’ch cwyn, gallwch apelio i’r Tîm Ymchwiliadau Cwsmeriaid. Bydd y rheolwr a adolygodd eich cwyn yn rhoi ei fanylion cyswllt i chi. Bydd y Tîm Ymchwiliadau Cwsmeriaid yn edrych o’r newydd ar y ffordd y mae eich cwyn wedi cael ei thrin. Ei nod fydd ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon ar ddiwedd proses gwynion GLlTEF, gallwch hefyd ofyn i’ch aelod Seneddol gyfeirio eich achos at yr . Fodd bynnag, os ydych wedi dioddef trosedd fel y’i diffinnir gan y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yng Nghymru a Lloegr, gallwch gyfeirio eich cwyn yn uniongyrchol i’r PHSO.

Os ydych yn anfodlon â sut mae barnwr neu ynad wedi gweithredu

Nid yw barnwyr, ynadon ac aelodau’r tribiwnlys yn gweithio i GLlTEF. Ni allwn ymchwilio i gwynion am eu hymddygiad na chymryd unrhyw gamau.

Os ydych yn anhapus â’r ffordd mae barnwr neu aelod o’r tribiwnlys wedi ymddwyn, gallwch wneud cwyn i Lywydd y Tribiwnlys perthnasol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i gysylltu â’r Llywydd ar 

Os ydych yn anfodlon â’r ffordd y gwnaeth ynad ymddwyn gallwch .

Ni fydd yr un o’r ddau gorff yn derbyn cwynion am benderfyniad barnwr neu ynad na’r ffordd mae wedi rheoli’r achos.

Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich achos

Nid yw barnwyr, ynadon ac aelodau’r tribiwnlys yn gweithio i ni. Ni allwn ymchwilio i gwynion sy’n herio penderfyniad maen nhw wedi ei wneud.

Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich achos, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad, er enghraifft os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir. Efallai y byddwch chi eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol os byddwch chi’n penderfynu gwneud hyn. Gallwch ganfod sut i apelio yn erbyn penderfyniad gyda’r farnwriaeth ar GOV.UK neu drwy eich cynrychiolydd cyfreithiol.

Rhoi adborth

I ddweud wrthym sut y gallwn wella:

Ni fyddwn yn gallu ysgrifennu’n ôl atoch chi, ond rydyn ni eisiau clywed os allwn ni wella.

Dweud diolch

I ddweud wrthym ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda:

  • siaradwch ag aelod o staff yn ein hadeiladau a byddwn yn cofnodi eich adborth

  • cysylltwch â’n llysoedd neu dribiwnlysoedd yn uniongyrchol drwy e-bost, ffôn neu yn ysgrifenedig

Ni fyddwn yn ysgrifennu’n ôl atoch chi, ond rydyn ni eisiau gwybod a ydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn dda. Gallwn sicrhau ei fod yn dal i ddigwydd a dysgu o’ch adborth.