Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau'r Farchnad Lafur
Dengys Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur diweddaraf a ryddhawyd heddiw bod diweithdra wedi aros yr un fath yng Nghymru dros y chwarter diwethaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfanswm nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng o 22,000.
Ym mis Awst, gostyngodd diweithdra ymysg pobl ifanc o 600. Mae nifer y bobl sy鈥檔 hawlio Lwfans Ceisio am Waith (JSA) wedi gostwng hefyd, o 2,300. Hwn yw鈥檙 18fed gostyngiad misol yn olynol yn nifer yr hawlwyr yng Nghymru, a dyma鈥檙 gostyngiad unigol mwyaf ers 1997.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:
Fel llywodraeth, rydym yn gweithio鈥檔 galed i gael mwy o bobl o bob cefndir yn 么l i鈥檙 gwaith. Mae鈥檔 arbennig o galonogol gweld diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng.
Mae yno nifer fawr o heriau yn dal i wynebu ein economi. Dyma pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cadw at ein cynllun economaidd hirdymor i greu鈥檙 amodau cywir ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru.
Dywedodd bod hyder busnes yn allweddol i alluogi hyn i ddigwydd, gan nodi arolwg a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos cynnydd sydyn yn nifer Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru sy鈥檔 bwriadu cynyddu buddsoddiad cyfalaf yn y 12 mis nesaf.
Wele鈥檙 ystadegau diweddaraf