Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru鈥檔 ymateb i Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur

Lefelau cyflogaeth gwell nag erioed yng Nghymru yn arwydd cadarnhaol o adferiad economaidd cryf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth hon yn gweithio i bobl Cymru, yn 么l Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a siaradai heddiw wrth i ffigurau swyddogol ddangos cynnydd pellach mewn lefelau cyflogaeth yng Nghymru.

Mae鈥檙 ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (18 Rhagfyr 2013) yn dangos cynnydd o 24,000 yn nifer y bobl gyflogedig yng Nghymru dros y chwarter diwethaf. Roedd y ffigurau eisoes yn uwch nag erioed o鈥檙 blaen gynt.

Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd wedi disgyn i lefel is nag erioed o鈥檙 blaen, gostyngiad o 24,000 dros y chwarter diwethaf. Mae diweithdra yng Nghymru 7,000 yn is dros y chwarter diwethaf, ac mae lefel diweithdra ymhlith pobl ifanc hefyd 900 yn is dros y mis diwethaf.

Mae nifer y bobl sy鈥檔 hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru 1,300 yn llai ers Hydref 2013 ac mae 12,700 yn llai nag oedd ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi ei ffigurau Cyflogaeth Sector Cyhoeddus heddiw, ac mae鈥檙 rhain yn dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, y cynnydd canrannol mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o blith holl ranbarthau eraill y DU. Ers Q1 yn 2010, mae nifer y bobl a gyflogir yn y sector preifat yng Nghymru wedi cynyddu 100,000.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae鈥檙 gwelliant amlwg hwn yn safle Cymru yn y farchnad lafur yn arwydd cryf, nid yn unig ein bod yn dyst i economi sy鈥檔 tyfu, ond bod y twf hwnnw鈥檔 prysuro鈥檔 gyflym.

Mae cyfradd cyflogaeth Cymru wedi cynyddu mwy nag unrhyw ranbarth arall yn y DU, ac mae鈥檙 gyfradd anweithgarwch economaidd wedi disgyn fwy yng Nghymru na holl wledydd a rhanbarthau鈥檙 DU. Mae鈥檙 ffigurau hyn, law yn llaw 芒 newyddion yr wythnos ddiwethaf mai yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn canolrif enillion wythnosol o blith holl ranbarthau鈥檙 DU dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dangos ein bod yn teithio i鈥檙 cyfeiriad cywir tuag at adferiad economaidd cryf. Mae鈥檔 amlwg mai鈥檙 sector preifat sy鈥檔 sbarduno鈥檙 twf yma.

Fodd bynnag, ni allwn laesu鈥檔 dwylo. Roedd cyhoeddiad Sharp yr wythnos hon eu bod yn bwriadu diddymu swyddi yn ei safle yn Wrecsam, yn nodyn sobreiddiol i鈥檔 hatgoffa o鈥檙 sialensiau sylweddol sydd o鈥檔 blaenau.

Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnal perthynas glos gyda busnesau ar lawr gwlad yng Nghymru a chanolbwyntio ar greu鈥檙 amodau priodol ar gyfer galluogi iddynt greu swyddi, er mwyn sicrhau bod y tueddiad cynyddol tra derbyniol hwn mewn ffigurau cyflogaeth yn parhau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2013 show all updates
  1. Adding translation

  2. First published.