Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymuno yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno
Y genedl yn paratoi ar gyfer degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog

Armed Forces Day
Heddiw bydd cannoedd o ddigwyddiadau鈥檔 cael eu cynnal i nodi degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan gynnwys gorymdeithiau a seremon茂au ar hyd a lled y wlad.
Bydd dynion a merched o鈥檙 Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a鈥檙 Awyrlu Brenhinol, y rhai sy鈥檔 gwasanaethu鈥檔 rheolaidd a鈥檙 aelodau wrth gefn, yn cael eu cydnabod ochr yn ochr 芒鈥檙 teulu amddiffyn ehangach, gan gynnwys cadetiaid a chyn-filwyr.
Bydd y digwyddiad cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Llandudno, Gogledd Cymru ac yn bresennol yno bydd Ei Mawrhydi Brenhinol y Dywysoges Anne, y Dywysoges Royal, yn cynrychioli鈥檙 Frenhines a鈥檙 Teulu Brenhinol, y Prif Weinidog 皇冠体育appresa May, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ynghyd ag uwch wleidyddion eraill. Mae cyffro mawr yn Llandudno ac mae disgwyl i filoedd o bobl fwynhau mwy nag erioed o arddangosfeydd a digwyddiadau o bob math.
Mae鈥檙 dathliad yn dod mis ar ol ymweliad Alun Cairns 芒 milwyr y Gwarchodlu Cymreig sydd wedi鈥檜 lleoli ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul. Cafodd Mr Cairns sgwrs gyda鈥檙 milwyr i ddysgu mwy am eu r么l yn darparu diogelwch ac yn mentora a chynorthwyo swyddogion Affganaidd wrth i Lywodraeth y wlad barhau gyda鈥檙 gwaith ailadeiladu.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddigwyddiad unigryw yn ystod y flwyddyn lle gallwn ni i gyd oedi i nodi aberth ac ymrwymiad y dynion a鈥檙 merched yn ein lluoedd ni, o鈥檙 presennol a鈥檙 gorffennol.
Er bod Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cydnabod brwydrau mawr yr 20fed ganrif wrth gwrs, mae hefyd yn ein hatgoffa ni bod dynion a merched Cymru鈥檔 gwasanaethu ym mhob cwr o鈥檙 byd heddiw. A doedd dim moment falchach i mi na phan gefais i鈥檙 anrhydedd, union fis yn 么l, o ymweld 芒鈥檙 Gwarchodlu Cymreig yn Afghanistan.
Bydd yr olygfa o bromen芒d Llandudno fel y lleoliad ar gyfer yr orymdaith filwrol, gyda hen filwyr a chadetiaid ifanc, yn aros yng nghof y miloedd o bobl sydd yma heddiw. Rydw i鈥檔 falch i fod yn rhan o鈥檙 digwyddiad, gan sefyll ochr yn ochr ag aelodau ein Lluoedd Arfog ni sydd ymhlith y pethau gorau mae鈥檙 wlad hon yn sefyll drostynt.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddeg oed nawr ac mae鈥檔 parhau鈥檔 gyfle gwerthfawr i anrhydeddu ein lluoedd ni sy鈥檔 gweithio mor galed i鈥檔 cadw ni鈥檔 ddiogel. Mae鈥檙 merched a鈥檙 dynion sy鈥檔 ein gwasanaethu ni wrth law bob awr o bob dydd i鈥檔 gwarchod ni rhag y bygythiadau rydyn ni鈥檔 eu hwynebu a heddiw fe hoffwn i annog pobl ledled y DU i ddod at ei gilydd a鈥檜 cydnabod am eu hymrwymiad diflino.
Ers Diwrnod y Lluoedd Arfog y llynedd, mae Lluoedd Arfog y DU wedi bod yn brysur gartref ac ym mhob cwr o鈥檙 byd. O鈥檙 lluoedd yn helpu鈥檙 rhai oedd yn cael anawsterau mewn eira trwm i鈥檙 cymorth brys a ddarparwyd yn dilyn yr ymosodiad yng Nghaersallog. A hefyd ymhellach i ffwrdd yn Iraq a Syria lle mae ein Lluoedd Arfog yn mynd 芒鈥檙 frwydr i Daesh, gan helpu i yrru鈥檙 terfysgwyr yn eu h么l a rhoi cyfle i鈥檙 bobl gyffredin yn y gwledydd hynny ailadeiladu eu bywydau.
Ym mhob cwr o鈥檙 byd mae ein lluoedd ni wedi gweithio ddydd a nos, o roi sicrwydd i gynghreiriaid NATO yn Ewrop i anfon mwy na 2000 o berson茅l i鈥檙 Carib卯 yn dilyn Corwynt Irma.
Ar hyn o bryd mae Lluoedd Arfog y DU yn cymryd rhan mewn mwy nag 20 o weithrediadau mewn mwy na 25 o wledydd, o Estonia i Iraq. Ond bydd llawer o鈥檙 rhai sydd gartref yn bresennol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad.
Hefyd yn bresennol bydd llawer o gyn-filwyr sy鈥檔 rhan o鈥檙 amcangyfrif o 2.56 miliwn o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy鈥檔 byw yn y DU. Bydd Cadetiaid ifanc yn bresennol hefyd; gyda鈥檌 gilydd mae gan y Cadetiaid M么r, Awyr a鈥檙 Fyddin bron i 100,000 o aelodau.
Ar 30 Mehefin, bydd gorymdaith o tua 1,000 o berson茅l gwasanaethu, cyn-filwyr, cadetiaid a bandiau鈥檔 gorymdeithio yn cychwyn o Gofgolofn y Rhyfel yn Llandudno am 11am i ddynodi dechrau dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog.