Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Ehangu Heathrow yw’r peth gorau i Gymru

Alun Cairns i roi prif araith yn Uwchgynhadledd Busnes Heathrow

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Nawr yw’r amser i Gymru achub ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ehangu Heathrow a dangos i’r byd bod Prydain yn agored i fusnes.

Dyma fydd y galwad clir gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod ei brif araith i gynulleidfa o fusnesau bach a chanolig Cymru yng Nghaerdydd heddiw (5 Gorffennaf).

Cyhoeddwyd dewis leoliad Llywodraeth y DU ar gyfer ehangu’r maes awyr ym mis Hydref y llynedd, sy’n arwydd o’i hymrwymiad i gefnogi prosiectau seilwaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Bydd rhedfa newydd yn gwella cysylltiad y DU ei hun ac, yn allweddol, yn hybu cysylltiadau Cymru â gweddill y byd, gan gefnogi allforio, masnachu a chyfleoedd swyddi.

Gan siarad yn Uwchgynhadledd Busnes Heathrow yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Alun Cairns yn galw ar Gymru i fod “yn ganolog� i’r gwaith o gyflawni’r prosiect £16 biliwn.

Bydd yn dweud “Bod y ffaith bod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn agos at Heathrow yn golygu y byddwn yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd masnachol sy’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn�. Bydd yn ychwanegu “ei bod yn hynod bwysig ein bod yn cefnogi prosiectau o’r fath er mwyn cryfhau economi Cymru�.

Mae busnesau bach a chanolig eisoes yn chwarae rhan allweddol yng nghadwyn gyflenwi Heathrow - gyda’r maes awyr yn gwario dros £1.5 biliwn y flwyddyn gyda mwy na 1,200 o gyflenwyr o bob cwr o’r DU - ac mae eu rôl ar fin tyfu yn sgil yr ehangu.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i fusnesau yng Nghymru lunio perthnasau mwy sefydlog a chreu cysylltiadau newydd â rhai o gyflenwyr mwyaf y DU y gellid manteisio arnynt hefyd ar gyfer gwaith arall y tu hwnt i brosiect ehangu Heathrow.

Ychwanegodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

FO’r ymrwymiad i ddileu Tollau Pont Hafren i adeiladu Carchar Berwyn yn Wrecsam, mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i agor y sianeli cymorth seilwaith i hybu economi Cymru. Drwy gefnogi’r gwaith o adeiladu rhedfa newydd yn Heathrow, rydyn ni’n cyfleu neges glir i’r byd bod Prydain gyfan yn agored i fusnes.

Mae cadwyn gyflenwi’r maes awyr yng Nghaerdydd yn mynd o nerth i nerth heddiw, yn barod i adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau â busnesau yng Nghymru.

Rydw i’n hyderus na fydd Cymru yn siomi. Ehangu Maes Awyr Heathrow yw’r peth gorau i gwmnïau yng Nghymru, i deithwyr yng Nghymru ac i’n cymunedau. Gadewch i ni fanteisio’n llwyr ar y cyfleoedd sydd ar droed yn sgil y prosiect cyffrous yma.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn achub ar y cyfle i danlinellu pa mor bwysig ydyw i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru “gydweithio i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf i fusnesau yng Nghymru� ac mai dim ond drwy “gydweithredu y gallwn ddatblygu ein cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Heathrow. Mae’r broses honno’n dechrau heddiw�.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2017