Ygrifennydd Cymru'n cadeirio panel ar bwerau'r Llywodraeth ar 么l Brexit
Alun Cairns yn cynnal y seithfed mewn cyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr busnes a diwydiant Cymru

Heddiw, (dydd Iau 19 Ebrill), bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadeirio panel o arbenigwyr o fyd busnes, gweithgynhyrchu, ffermio a鈥檙 sector gwirfoddol i archwilio sut dylid defnyddio pwerau a oedd ym meddiant yr Undeb Ewropeaidd yn flaenorol i helpu Cymru i ffynnu mewn byd 么l-Brexit.
Mae鈥檙 cyfarfod yn un o gyfres barhaus i sicrhau bod barn byd busnes a diwydiant Cymru ar Brexit yn cael ei chlywed gan ffigurau canolog Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y sesiwn 90 munud yn edrych ar faterion a fydd yn cynnwys sut dylid arfer y pwerau sy鈥檔 dychwelyd o鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol; sut gallai fframweithiau o鈥檙 fath weithredu yn y ffordd orau鈥檔 ymarferol, a sut gellid gweithredu pwerau ar lefel ddatganoledig.
Dywedodd Alun Cairns:
Mae鈥檙 economi yn parhau i dyfu - mae ffigurau cyflogaeth yr wythnos hon yn tanlinellu鈥檙 ffaith honno - ac rydym yn dal i ddenu buddsoddiad oherwydd ein seilwaith cryf a鈥檔 gweithlu medrus.
Ond er mwyn parhau i wneud hynny, mae angen i ni roi sicrwydd ac eglurder ynghylch y ffordd orau o defnyddio pwerau ar 么l Brexit. Rwyf eisiau clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy鈥檔 gyrru economi Cymru, a bydd panel heddiw yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut gallwn ni roi Cymru mewn sefyllfa i ffynnu ar 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw鈥檙 cynrychiolwyr a wahoddwyd i鈥檙 cyfarfod o nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Siambr Fasnach; Sefydliad y Cyfarwyddwyr; y Ffederasiwn Busnesau Bach; NFU Cymru; CBI Cymru; Cymdeithas y Tirfeddianwyr; Gr诺p Admiral ac Airbus.