Datganiad i'r wasg

Neges Flwyddyn Newydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ar gyfer 2018

Alun Cairns yn edrych ymlaen at flwyddyn o gyfleoedd newydd I Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Alun Cairns

Alun Cairns

Mae pob Blwyddyn Newydd yn rhoi cyfle i ni ystyried beth rydyn ni wedi鈥檌 gyflawni dros y 12 mis ac i edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o鈥檔 blaenau.

Yn 2017, bu Cymru unwaith eto yn amlwg ar y llwyfan rhyngwladol gan ddangos ei bod yn lleoliad o鈥檙 radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr pan ddaeth g锚m derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd. Cafodd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd y flwyddyn honno ei ddarlledu mewn 200 o wledydd a daeth hyd at 170,000 o gefnogwyr o bob rhan o鈥檙 byd i鈥檙 ddinas, a gadael 芒 neges glir a chadarnhaol am bopeth sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig.

Yn sicr hefyd, bu 2017 yn flwyddyn arloesol i鈥檙 Deyrnas Unedig o ran ein hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol.

Dechreusom y flwyddyn drwy ysgrifennu pennod newydd yn hanes datganoli yng Nghymru wrth i Fil Cymru gael Cydsyniad Brenhinol. Ym mis Mawrth, cafodd Erthygl 50 ei gweithredu, gan roi鈥檙 penderfyniad a oedd wedi鈥檌 gymryd gan bobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ar waith. A daeth y flwyddyn i ben wrth i ni ddod i gytundeb ar gam cyntaf y trafodaethau a fydd yn ein tywys at drafodaethau ar fasnach a diogelwch yn 2018. Dyma鈥檙 flwyddyn y gwelwyd Llywodraeth y DU yn ategu ei huchelgais i sicrhau cydbwysedd o鈥檙 newydd yn economi Cymru a meithrin y sector preifat, drwy fuddsoddi鈥檔 helaeth mewn seilwaith.

Mae鈥檙 penderfyniad i leihau鈥檙 tollau ar bontydd afon Hafren cyn eu dileu yn llwyr, cyflwyno trenau o鈥檙 radd flaenaf ar brif lein y Great Western, ac arian ar gyfer band eang cyflym iawn, i gyd yn gamau hanfodol ar gyfer sicrhau twf economaidd, cytbwys a hirdymor.

Hefyd rydym wedi parhau i ddangos bod y Llywodraeth hon yn sefyll yn gadarn ar ochr busnesau. Bwriad Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth yw meithrin cryfderau Cymru mewn meysydd megis awyrofod, technoleg a gwyddorau bywyd, ac rydw i eisiau sicrhau ein bod ymdrechu i鈥檙 eithaf i gael y manteision gorau posibl i Gymru o鈥檙 cynlluniau a鈥檙 heriau mawr y mae鈥檔 eu cyflwyno.

Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi鈥檙 ffordd ymlaen ar gyfer cyfres gynhwysfawr ac uchelgeisiol o Fargeinion Dinesig i Gaerdydd ac Abertawe, mae鈥檔 bwrw ymlaen 芒 bargen twf ar gyfer Gogledd Cymru ac yn cychwyn trafodaethau ar fargen twf i鈥檙 Canolbarth.

Pwrpas y bargeinion hyn yw creu rhwydwaith o bwerdai economaidd rhanbarthol sy鈥檔 gallu meithrin cysylltiadau a pherthnasoedd a fydd o fudd i bawb.

Dyma pam mae ein cyhoeddiad ynghylch dileu鈥檙 tollau ar bontydd Hafren mor bwysig 鈥� fy mhrif nod wrth ddod yn Ysgrifennydd Gwladol 鈥� anfon neges uniongyrchol at fusnesau, cymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddweud ein bod yn ymrwymedig i gryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.

Ac er mwyn adeiladu ar hyn, un o鈥檓 gorchwylion cyntaf yn y Flwyddyn Newydd fydd cynnal Uwchgynhadledd ar 22 Ionawr yn y Celtic Manor i ddod 芒 phartneriaid lleol o Dde Cymru a De Orllewin Lloegr at ei gilydd i drafod sut y gallwn fynd ati i gryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng y ddwy economi.

Felly, os oedd 2017 yn flwyddyn o gynnydd i Gymru a鈥檙 Deyrnas Unedig, 2018 fydd y flwyddyn lle bydd yn rhaid i ni gael y weledigaeth a鈥檙 dewrder i fanteisio ar y cyfleoedd mae hyn i gyd yn eu cyflwyno.

Dyma hefyd yr her a roddwn i Lywodraeth Cymru pan ddaw seiliau cadarnach ar gyfer datganoli yng Nghymru i rym ar 1 Ebrill flwyddyn nesaf. Bydd y model 鈥榗adw pwerau鈥� newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru yn nodi鈥檔 glir beth sydd wedi鈥檌 ddatganoli, sef yr hyn y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano, a beth sydd wedi鈥檌 gadw鈥檔 么l - beth fydd y Senedd yn gyfrifol amdano. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o benderfyniadau yn mynd i ddwylo Gweinidogion Cymru ac yn rhoi adnoddau newydd pwysig iddynt eu defnyddio i ddatblygu economi Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ledled Cymru.

Fel llais Llywodraeth y DU yng Nghymru, a llais Cymru yn San Steffan, bydd fy adran yn parhau i weithio鈥檔 agos gydag adrannau ar draws Whitehall i sicrhau bod cwmn茂au a buddsoddwyr yn gweld Cymru fel partner masnachu uchelgeisiol sy鈥檔 edrych y tu hwnt i ffiniau鈥檙 wlad. Dyna鈥檙 neges a roddais i arweinwyr busnes ar fy nheithiau diweddar i Japan a Qatar, lle b没m yn siarad 芒 nifer o fuddsoddwyr - buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr - am yr hyn sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd. A dyna鈥檙 neges ar gyfer 2018.

Ni fydd Llywodraeth y DU yn brin o egni, mentergarwch na brwdfrydedd wrth gyflawni dros Gymru. Yn 2018, byddwn yn parhau i reoli ein heconomi鈥檔 ofalus, adeiladu gwlad sy鈥檔 gweithio i bawb ac economi sy鈥檔 barod at y dyfodol.

Dyna sut y byddwn yn diogelu ac yn amddiffyn ein ffyniant ac yn ei wella.

Ar ran fy nghyd-weinidogion, dymunaf flwyddyn newydd dda, iach a llewyrchus i chi yn 2018.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Ionawr 2018 show all updates
  1. Translation added

  2. First published.