Stori newyddion

Cymru yn Cofio

Ysgrifennydd Cymru yn talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog ar Sul y Cofio

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Ddydd Sul (8 Tachwedd 2015), bydd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cofio cyfraniad Lluoedd Arfog Prydain, yn y gorffennol a heddiw, mewn gwasanaeth Cofio yng Nghaerdydd.

Bydd Mr Crabb yn cofio鈥檔 anrhydeddus am y rheini a fu farw mewn rhyfeloedd drwy osod torch wrth Gofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays.

Yn gynharach yr wythnos hon (4 Tachwedd), bu Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, mewn gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, gan blannu croes bren gyda theyrnged bersonol arni i鈥檙 rheini sydd wedi rhoi eu bywydau.

Yn ei neges Dydd y Cofio, dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid a鈥檔 democratiaeth. Bydd pobl Cymru yn cofio鈥檔 anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.

Byddwn hefyd yn myfyrio ynghylch y rhyfeloedd sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd ar draws y byd, a鈥檙 aberthau dyddiol gan y rheini sy鈥檔 parhau i amddiffyn ein gwerthoedd a鈥檔 ffordd o fyw. Mae ein dyled yn fawr i bob un ohonynt, am fod yn ddewr, yn wrol ac yn anhunanol wrth wasanaethu fel rhan o鈥檜 dyletswyddau gartref a thramor.

Wrth feddwl yn 么l am y gwasanaeth ar y Maes Coffa, dywedodd Alun Cairns:

Roedd gweld y m么r o deyrngedau teimladwy i gofio鈥檔 anrhydeddus am ddynion a menywod ein lluoedd arfog yn brofiad a oedd yn gwneud i rywun feddwl o ddifrif am yr hyn sydd wir yn cyfrif. Roedd yn anrhydedd ac yn fraint cael cyfle i dalu fy nheyrnged bersonol fy hun, a chofio am y rheini a fu鈥檔 ymladd - ac sy鈥檔 dal i ymladd - gan wasanaethu ein cenedl ar draws y byd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2015