Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

Alun Cairns: "Does dim lle i gaethwasiaeth yn yr oes hon ac mae'r Llywodraeth hon yn gwneud ei gorau glas i gael gwared ar y troseddau hyn yn gyfan gwbl"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw, (31 Gorffennaf), croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns ddeddf arbennig i fynd i鈥檙 fael 芒 chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn arloesol a dyma鈥檙 gyntaf o鈥檌 bath yn Ewrop a fydd yn mynd i鈥檙 afael yn benodol 芒 chaethwasiaeth a masnachu pobl yn y 21 ganrif.

Bydd y ddeddfwriaeth yn gwella cryn dipyn ar y gefnogaeth a鈥檙 warchodaeth sydd ar gael i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern, gan roi鈥檙 adnoddau hollbwysig sydd eu hangen ar asiantaethau gorfodi鈥檙 gyfraith i dargedu caethfeistri cyfoes, a sicrhau bod drwgweithredwyr yn cael cosb drom. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth flaengar i annog busnesau i weithredu i sicrhau nad oes caethwasiaeth yn rhan o鈥檜 cadwyni cyflenwi o鈥檙 dechrau i鈥檙 diwedd.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Does dim lle i gaethwasiaeth yn yr oes hon ac mae鈥檙 Llywodraeth hon yn gwneud ei gorau glas i gael gwared ar y troseddau hyn yn gyfan gwbl.

Yng Nghymru, fel yn rhannau eraill o鈥檙 wlad, rydym wedi gweld achosion lle mae pobl agored i niwed wedi cael eu masnachu a phobl wedi camfanteisio arnynt.

Bydd y mesurau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi gwarchodaeth sylweddol i鈥檙 dioddefwyr hyn ac yn sicrhau bod y rheini sy鈥檔 gyfrifol yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd anfaddeuol.

Ond mae llawer i鈥檞 wneud o hyd - o fis Hydref ymlaen, bydd yn rhaid i bob busnes mawr ddatgelu beth maent yn ei wneud i sicrhau nad oes caethwasiaeth yn rhan o鈥檜 busnes a鈥檜 cadwyni cyflenwi.

Mae鈥檙 Ddeddf newydd hon yn cael ei chefnogi gan y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat a bydd yn dod 芒 ni gam mawr yn nes at weld diwedd caethwasiaeth fodern.

Y llynedd, ymwelodd Swyddfa Cymru 芒 Heddlu Gwent i weld drostynt eu hunain y camau sy鈥檔 cael eu cymryd i fynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth fodern yn y DU ac i gael gwybodaeth am waith Operation Imperial - uned a sefydlwyd i ymchwilio i droseddau honedig o gaethwasiaeth a chaethwasanaeth, a鈥檙 ymchwiliad mwyaf o鈥檌 fath yn y DU. Mae鈥檙 ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed ac arestio pobl.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod dioddefwyr caethwasiaeth yn cael y cymorth a鈥檙 warchodaeth y maent yn ei haeddu. Fel rhan o鈥檙 gwaith hwn, mae dioddefwyr sydd o bosib wedi鈥檜 masnachu yng Nghymru a Lloegr yn cael cymorth drwy gontract a ariennir gan y Llywodraeth ac a ddarperir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth. Mae hyn yn rhoi pecyn arbenigol o ofal a chymorth wedi鈥檌 deilwra i ddioddefwyr am o leiaf 45 diwrnod.

Ym mis Tachwedd 2014 cyhoeddodd y llywodraeth Strategaeth Caethwasiaeth Fodern a oedd yn amlinellu ymateb cynhwysfawr i鈥檙 trosedd. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi鈥檙 gyfraith gyda gwledydd eraill i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem yn llygad y ffynnon, a mwy o ymwybyddiaeth o fewn pob cymuned.

Nodiadau i Olygyddion

Bydd y Ddeddf yn atgyfnerthu ymateb asiantaethau gorfodi鈥檙 gyfraith a鈥檙 llysoedd drwy:

  1. Cynyddu鈥檙 ddedfryd hiraf sydd ar gael ar gyfer y troseddwyr mwyaf difrifol o 14 mlynedd i garchar am oes;
  2. Sicrhau bod drwgweithredwyr sydd wedi鈥檜 cael yn euog o gaethwasiaeth neu fasnachu pobl yn wynebu鈥檙 drefn atafaelu asedau llymaf;
  3. Cydgrynhoi a symleiddio troseddau caethwasiaeth fodern sydd eisoes yn bodoli mewn un Ddeddf;
  4. Cyflwyno Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl, a Gorchmynion Risg o Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl er mwyn cyfyngu ar weithgarwch unigolion sy鈥檔 peri risg o achosi niwed; a
  5. Cryfhau pwerau gorfodi鈥檙 gyfraith ar y m么r i gael gwared ar y mannau gwan a all atal yr Heddlu a Llu鈥檙 Ffiniau rhag gallu gweithredu ar fwrdd llongau ar y m么r.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2015