Datganiad i'r wasg

Tim rygbi Cymru yn dangos ei cefnogaeth am y Lluoedd Arfog

Cymru yn paratoi ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog ymhen pythefnos

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Armed Forces Day

Armed Forces Say 2017

Gyda dim ond 14 diwrnod i fynd, mae trefi a dinasoedd ledled Cymru yn paratoi i ymgynnull i ddangos eu gwerthfawrogiad o Luoedd Arfog y DU.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddiolch i gymuned gyfan y Lluoedd Arfog am y gwaith rhagorol y mae鈥檔 ei wneud; Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr, Milwyr Parhaol a Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid a chyn-filwyr.

Sefydlwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog naw mlynedd yn 么l, sef y diwrnod cenedlaethol sy鈥檔 anrhydeddu gwaith y Lluoedd Arfog. O frwydro yn erbyn Daesh yn y Dwyrain Canol, i warchod yr awyr a鈥檙 m么r yn y DU, bydd Lluoedd Arfog y DU yn cael eu saliwtio yn y nifer fwyaf erioed o ddigwyddiadau ledled y DU ac yn y Digwyddiad Cenedlaethol, fydd yn cael ei gynnal yn Lerpwl eleni.

Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, gwelwyd Milwyr o Gymru sy鈥檔 gwirioni ar rygbi yn cwrdd ag aelodau o Garfan Undeb Rygbi Cymru cyn eu gemau yn erbyn Tonga a Samoa. Ymunodd chwaraewyr adnabyddus fel Alex Cuthbert 芒 chynrychiolwyr o鈥檙 Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol a鈥檙 Llynges Frenhinol i annog pobl i fynd allan a mwynhau digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn achlysur arbennig pan fyddwn yn dod at ein gilydd i gydnabod ymroddiad y rheini sy鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i sicrhau diogelwch ein gwlad.

Mae鈥檙 rhain yn ddynion a merched eithriadol sy鈥檔 peryglu eu bywydau gartref a thramor i amddiffyn ein ffordd o fyw. Mae鈥檙 rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau sydd wedi鈥檌 threfnu ledled y wlad yn gyfle gwych i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i鈥檙 rheini sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn brwydrau. Gobeithio y gwelwn ni filoedd o bobl o bob cwr o Gymru yn ymuno 芒鈥檙 dathliadau鈥�.

Dyma ddywedodd Pennaeth Staff y Weinyddiaeth Amddiffyn, Syr Stuart Peach am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog:

Rydw i wrth fy modd yn gweld pobl ledled y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae鈥檙 diwrnod yn gyfle i bobl ddiolch i鈥檙 dynion a鈥檙 merched eithriadol, sydd wedi鈥檜 lleoli ar draws y byd, sy鈥檔 ymroi eu bywydau i amddiffyn eu gwlad a chadw pobl Prydain yn ddiogel鈥�.

Mae Lluoedd Arfog y DU ar hyn o bryd yn ymwneud 芒 mwy nag 20 o Ymgyrchoedd mewn mwy na 25 o wledydd, o Dde Swdan i Irac. Ond bydd llawer o鈥檙 rheini gartref yn bresennol mewn digwyddiadau ledled y wlad.

Yn ogystal 芒 hyn, bydd llawer o gyn-filwyr yn bresennol, pobl sy鈥檔 rhan o鈥檙 gymuned o oddeutu 2.56 miliwn o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy鈥檔 byw yn y DU. Bydd Cadetiaid ifanc yn bresennol hefyd; gyda鈥檌 gilydd mae gan gadetiaid y M么r, y Fyddin a鈥檙 Awyr bron i 100,000 o aelodau, a bydd sawl un ohonynt yn bresennol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad.

Nodiadau i Olygyddion:

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, yn cynnwys rhestr lawn o ddigwyddiadau, ar gael ar y wefan yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2017